Cyngor Abertawe i drafod 'cynnig brys' yn sgil cynllun URC ar gyfer y Gweilch

Yn ystadegol, y Gweilch yw'r tîm Cymreig mwyaf llwyddiannus ers sefydlu rygbi rhanbarthol yn 2003
- Cyhoeddwyd
Tra bod Undeb Rygbi Cymru [URC] yn bwriadu torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri yng Nghymru bydd Cyngor Abertawe yn trafod cynnig brys ar y mater.
Mae hi'n bosib na fydd Abertawe yn cynnal tîm dynion proffesiynol, gan fod Y11 Sport & Media mewn trafodaethau i brynu Rygbi Caerdydd.
Mewn cyfarfod nos Iau am 17:00, bydd y cynnig trawsbleidiol yn awgrymu y dylai'r cyngor "annog URC i ailystyried ar unwaith".
Bydd hefyd yn awgrymu bod URC yn "tynnu y cynnig i leihau nifer y timau rygbi rhanbarthol proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri yn ôl".
Dywed y cynnig y bydd cynlluniau'r undeb yn "cael effaith sylweddol ar chwaraeon a lles yn rhanbarth Bae Abertawe ac yn cael effaith negyddol ar economi Abertawe a de Cymru".
Mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi annog y cyhoedd i fynychu'r cyfarfod yn Neuadd y Ddinas.

Mae Cyngor Abertawe fod i fuddsoddi £5 miliwn i ailddatblygu Sain Helen, ond yn dweud na fydden nhw'n rhyddhau'r pres nes bod dyfodol y Gweilch yn ddiogel
Mae awdurdod lleol Abertawe wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ystyried camau cyfreithiol wrth i amheuon gynyddu ynghylch dyfodol y Gweilch.
Hefyd, mae chwaraewyr wedi dweud eu bod wedi cael eu "cadw'n y tywyllwch" ynghylch tynged y rhanbarth.
Mae cefnogwyr y Gweilch a Chaerdydd wedi lleisio gwrthwynebiad i gais Y11 Sport and Media i gymryd y clwb drosodd yn y brifddinas.
Aeth Caerdydd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2025 ac maen nhw wedi bod yn nwylo URC ers hynny.
Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Dau gapten Cymru yn gadael y Gweilch i arwyddo i dîm yn Lloegr
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
Yn y cyfamser, mae'r Gweilch a Chyngor Abertawe wedi dweud eu bod yn cydweithio i asesu dewisiadau i sicrhau bod y clwb yn chwarae yn Sain Helen y tymor nesaf.
Mae'r Gweilch i fod i symud i Sain Helen ym mis Medi ar ôl i'r stadiwm gael ei ailddatblygu, yn dilyn treulio tymor 2024-25 yn chwarae gemau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cyngor fod i fuddsoddi £5 miliwn yn y prosiect, ond maen nhw'n dweud na fyddan nhw'n rhyddhau'r pres nes bod dyfodol y Gweilch yn ddiogel.
Byddai'r awdurdod yn cefnogi datblygiad rygbi menywod ar y safle hefyd, ond dim ond yn ogystal â - ac nid yn lle - tîm dynion rhanbarthol proffesiynol.

Mae URC yn bwriadu torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri yng Nghymru
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn "eithriadol o bryderus" am gynlluniau URC.
"Mae'r cyngor yn pryderu bod datblygiadau diweddar wedi gwyro'n sylweddol oddi wrth ddull URC eu hunain ac nad ydyn nhw'n deg nac yn dryloyw," medd datganiad.
"Mae URC wedi honni nad oes digon o arian na thalent yng Nghymru i barhau gyda phedwar rhanbarth. Nid ydynt erioed wedi darparu tystiolaeth fanwl i gefnogi'r datganiad yma.
"Credwn fod digon o adnoddau o fewn URC i ariannu pedwar rhanbarth llwyddiannus yn y dyfodol.
"Fe wnaeth URC dderbyn dros £20 miliwn yn fwy na'r Undeb Rygbi Gwyddelig, sydd wedi cadw pedwar rhanbarth ac yn cael llwyddiant sylweddol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol/rhyngwladol."
'Unrhyw gamau rhesymol'
Aeth datganiad Cyngor Abertawe yn ei flaen i ddweud o ystyried yr effaith ar wahanol garfannau o bobl a dyfodol y gêm Gymreig, eu bod yn annog URC i ailystyried.
Ychwanegodd y cyngor eu bod yn cefnogi'r arweinydd ac "unrhyw gamau rhesymol i sicrhau dyfodol y Gweilch".
Byddai hynny yn cynnwys "camau cyfreithiol i atal URC rhag dod â rygbi rhanbarthol i ben yn Abertawe".
Maen nhw hefyd yn cefnogi ymdrechion i ddatblygu rygbi merched yn Abertawe, ond rhaid i hynny fod "yn ychwanegol at gadw'r Gweilch fel tîm rygbi rhanbarthol" yn y ddinas.
Ychwanegon nhw hefyd eu bod yn cefnogi ailddatblygiad Sain Helen, er mwyn "cefnogi creu lleoliad rygbi modern gwell i fodloni dyheadau rhanbarth y Gweilch".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.