Dau gapten Cymru yn gadael y Gweilch i arwyddo i dîm yn Lloegr

Jac Morgan a Dewi LakeFfynhonnell y llun, Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jac Morgan a Dewi Lake yn gadael y Gweilch ar ddiwedd y tymor

  • Cyhoeddwyd

Bydd capteiniaid tîm rygbi Cymru, Jac Morgan a Dewi Lake, yn ymuno gyda Chaerloyw yn Lloegr ar ddiwedd y tymor gan adael y Gweilch.

Roedd cytundeb y ddau yn dod i ben gyda'r Gweilch ar ddiwedd y tymor, lle mae Morgan wedi chwarae ers 2021 ac fe wnaeth Lake ymddangos am y tro cyntaf yn 2018.

Fe wnaeth Morgan anafu ei ysgwydd yn ystod colled Cymru i'r Ariannin yng ngêm gyntaf Cyfres yr Hydref eleni.

Mae disgwyl iddo fethu dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2026 oherwydd yr anaf hwnnw.

"Dwi wrth fy modd arwyddo i Gloucester Rugby cyn tymor 2026-27," meddai Jac Morgan ar wefan y tîm.

Dywedodd hefyd ei fod wedi treulio amser hir yn meddwl am y symudiad, oherwydd bod y Gweilch yn "glwb sy'n golygu lot i mi ar nifer o lefelau gwahanol".

Y rhanbarthauFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad URC ydy torri nifer y rhanbarthau o bedwar i dri erbyn 2027

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru [URC] fis Hydref eu bod yn bwriadu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri erbyn 2027.

Roedd Morgan eisoes wedi dweud na fyddai'n aros i chwarae yng Nghymru os yw'r Gweilch yn diflannu.

Dywedodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru [CCRC] wrth yr undeb adeg hynny bod eu cynigion ar gyfer y gêm elitaidd yn mynd i "yrru talent o Gymru".

Bydd un rhanbarth yng Nghaerdydd, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.

Mae disgwyl i hyn arwain at frwydr i oroesi uniongyrchol rhwng y Gweilch o Abertawe a'r Scarlets yn Llanelli.

Opsiwn arall sydd wedi dod i'r amlwg bellach yw bod perchnogion y Gweilch yn cymryd rheolaeth o Gaerdydd, sy'n eiddo i URC, gan adael tri thîm proffesiynol.

Mae Morgan a Lake felly yn gadael mewn cyfnod o ansicrwydd i rygbi yng Nghymru.

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Morgan ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn yr Alban ar 12 Chwefror, 2022, yng Nghaerdydd

Dywedodd Morgan fod Caerloyw yn "glwb gwych gyda chefnogwyr gwych".

"Dwi'n 'nabod llawer o chwaraewyr yng Nghaerloyw sy'n canmol yr amgylchedd a dwi'n gyffrous am y dyfodol.

"Dwi hefyd yn edrych ymlaen at yr her o chwarae yn y Gallagher Prem," ychwanegodd.

Daeth Morgan drwy academi'r Scarlets ac fe ymddangosodd am y tro cyntaf yn 2019, cyn ymuno â'u cystadleuwyr lleol, y Gweilch ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae Lake wedi cael 26 cap i Gymru a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad yn 2022 yn erbyn Iwerddon.

Gwnaeth Morgan ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn buddugoliaeth yn erbyn yr Alban yn yr un bencampwriaeth y flwyddyn honno.

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu Jac Morgan yn chwarae gyda'r Gweilch ers 2021

"Mae'r Gweilch yn glwb sy'n golygu lot i mi ar nifer o lefelau gwahanol, felly roedd gwneud y penderfyniad i symud yn rhywbeth y treuliais lawer o amser yn ei ystyried," meddai Jac Morgan.

"Mae fy holl yrfa hyd yma wedi bod gyda'r tîm hwn ac mae cymaint o adegau arbennig wedi bod ar y daith.

"Bydd dod ar hyd y llwybr hwnnw, gwneud fy ymddangosiad cyntaf, y tro cyntaf i mi fod yn gapten ar y tîm a'r cyfeillgarwch dwi wedi'i ffurfio gyda chwaraewyr a staff, i gyd yn aros yn fy nghof am weddill fy oes," ychwanegodd Morgan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.