Gofyn am ymchwiliad i fwriad perchnogion y Gweilch i brynu Caerdydd

Yn ystadegol, y Gweilch yw'r tîm Cymreig mwyaf llwyddiannus ers sefydlu rygbi rhanbarthol yn 2003
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Abertawe wedi gofyn i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) gynnal ymchwiliad i gynllun perchnogion y Gweilch i gymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd.
Daw hyn yn sgil pryderon y gallai rygbi proffesiynol yn Abertawe ddod i ben, ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gadarnhau mai grŵp Y11 oedd eu dewis i brynu rhanbarth Caerdydd.
Mae Undeb Rygbi Cymru eisiau torri nifer y timau proffesiynol dynion yng Nghymru o bedwar i dri.
Fe allai hynny gael ei gyflawni trwy ddileu'r Gweilch fel tîm lefel uchaf.
Mae llythyr sydd wedi cael ei anfon at y CMA gan Capital Law - ar ran Cyngor Abertawe - yn dweud y gallai Y11 ddod yn berchnogion ar Rygbi Caerdydd "cyn gynted â dydd Gwener 20 Chwefror".
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) eu bod yn ymwybodol fod y cyngor wedi codi pryderon gyda'r CMA, ond na fyddai'n "fyddai'n briodol gwneud sylwadau manwl ar hyn o bryd".
Dywedodd y CMA eu bod wedi derbyn llythyr gan Gyngor Abertawe, ond nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar ohebiaeth breifat nac ar ba achosion y gallen nhw ymchwilio iddyn nhw ai peidio.
Mae Y11 a'r Gweilch wedi cael cais am sylw.

Mae Cyngor Abertawe i fod i fuddsoddi £5m i ailddatblygu Sain Helen, ond yn dweud na fyddan nhw'n rhyddhau'r arian nes bod dyfodol y Gweilch yn ddiogel
Yn gynharach fis yma dywedodd y cyngor eu bod wedi cael gwybod mewn cyfarfod gydag URC a'r Gweilch na fydd rygbi rhanbarthol yn Abertawe yn bodoli y tu hwnt i ddiwedd y tymor nesaf, pe bai perchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, yn llwyddo i brynu Rygbi Caerdydd.
Dywedodd URC fod datganiad y cyngor yn anghywir, ond cadarnhaon nhw eu bod wedi derbyn llythyr cyn-weithredu gan y cyngor, a oedd yn rhybuddio am gamau cyfreithiol yn seiliedig ar gyfraith cystadleuaeth y DU pe na bai'r cynllun i ailstrwythuro rygbi proffesiynol yng Nghymru yn cael ei ohirio.
Dywedodd y Gweilch ar y pryd nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch dyfodol y rhanbarth ar ôl tymor 2026-27.
Mae ansicrwydd parhaus wedi bod ynghylch beth fydd yn digwydd gyda datblygiad £5m maes Sain Helen yn Abertawe, a oedd i fod yn gartref newydd i'r Gweilch o ddechrau'r tymor nesaf.

Mae URC yn bwriadu torri nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri yng Nghymru
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Cyngor Abertawe fod eu "pryderon yn canolbwyntio ar y cynlluniau i ostwng nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri, y broses ar gyfer dyrannu trwyddedau, a'r potensial i un grŵp perchnogaeth reoli dau glwb Cymreig".
Dywedon nhw eu bod "yn credu bod y cynigion mewn perygl o gyfyngu'n annheg ar gystadleuaeth, lleihau dewis i gefnogwyr, a niweidio economi Abertawe".
"Mae'r cyngor yn annog y CMA i ymchwilio ar frys ac ystyried mesurau dros dro i oedi'r cytundeb arfaethedig."
Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Rob Stewart, y byddai'r cynigion "yn ergyd enfawr i'n dinas - yn economaidd, yn ddiwylliannol ac yn emosiynol".
"Mae chwaraewyr, cefnogwyr, trigolion, clybiau cymunedol a busnesau lleol i gyd yn haeddu proses deg a thryloyw gan Undeb Rygbi Cymru," meddai.
"Ni allwn dderbyn sefyllfa lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig i gael gwared ag un o bedwar tîm proffesiynol Cymru a gadael Abertawe heb rygbi lefel uchaf.
"Rydym yn gofyn i'r CMA ymyrryd ar frys i amddiffyn cystadleuaeth a rhoi'r driniaeth deg y mae ein dinas a'n rhanbarth yn ei haeddu."
'Ein ffocws yw iechyd hirdymor y gêm'
Dywedodd URC eu bod yn "ymwybodol bod Cyngor Abertawe wedi codi pryderon yn ymwneud â rygbi Cymru gyda'r CMA".
"Byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw gwestiynau sy'n cael eu gofyn i ni gan y CMA ac yn cymryd ein cyngor ein hunain," meddai llefarydd.
"Tu hwnt i hynny, ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau manwl ar hyn o bryd.
"Mae bwrdd URC wedi gweithio'n ddidwyll dros y ddwy flynedd ddiwethaf i greu ffordd gynaliadwy ymlaen i rygbi Cymru yn wyneb yr heriau sylweddol yn ariannol, ac o ran perfformiad, yr ydym i gyd yn eu hwynebu.
"Rydym yn sylweddoli bod y rhain yn faterion anodd ac weithiau'n emosiynol i bawb sy'n gysylltiedig, ond ein ffocws o hyd yw iechyd hirdymor y gêm gyfan yng Nghymru, a pharhau i weithio'n adeiladol gyda'n holl randdeiliaid, gan gynnwys Cyngor Abertawe."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror

- Cyhoeddwyd22 Ionawr
