Pennaeth URC ddim yn teimlo'n ddiogel oherwydd 'iaith casineb'

Abi Tierney oedd y ddynes gyntaf i ddod yn Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru ym mis Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wedi dweud nad ydi hi'n teimlo'n ddiogel wrth gyflawni ei gwaith, ar ôl profi "iaith casineb" ar gyfryngau cymdeithasol.
Fe ddychwelodd Ms Tierney i'w dyletswyddau llawn ym mis Ionawr ar ôl cael triniaeth feddygol yn dilyn diagnosis o ganser.
Daeth yn ôl yng nghanol cyfnod cythryblus i rygbi Cymru, ar ôl i URC gyhoeddi ym mis Hydref 2025 eu bod yn bwriadu lleihau nifer y timau proffesiynol i ddynion o bedwar i dri.
Mae'r corff llywodraethu hefyd wedi cyhoeddi mai perchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media sy'n cael ei ffafrio i brynu Rygbi Caerdydd, clwb y mae URC wedi bod yn berchen arno ers Ebrill 2025.
Mae hyn wedi achosi i gefnogwyr a chwaraewyr y Gweilch boeni y gallai olygu mai eu rhanbarth nhw fydd yr un i ddiflannu.
Dywedodd penaethiaid URC yn gynharach yn y mis bod rhai unigolion wedi profi camdriniaeth ar gyfryngau cymdeithasol, ac mewn podlediad gan yr undeb mae Abi Tierney wedi datgelu rhagor am ei phrofiadau hi.
Delwedd AI mewn gwisg Natsïaidd
"Ar lefel bersonol, dwi ddim yn teimlo'n ddiogel ar hyn o bryd, ac mae hynny'n deimlad ofnadwy," meddai Ms Tierney.
"Mae'n anodd i fy mhlant a fy rhieni, yn enwedig fy nhad sydd wedi bod yn gefnogwr rygbi brwd ar hyd ei oes.
"Dwi ddim yn ceisio gwneud hyn yn fater personol gan fy mod i'n gwneud y swydd oherwydd fy mod yn credu ynddi ac yn ei charu.
"Nid dyma beth rwyf eisiau siarad amdano. Rwy'n gwneud y swydd yma ac mae'n rhaid i fi ei gymryd [cam-drin ar gyfryngau cymdeithasol] fel rhan o hynny."
Mae Abi Tierney wedi dewis gwneud ei chyfweliad cyntaf ers cryn amser gyda phodlediad mewnol URC, gyda'r undeb yn honni nad oedd unrhyw gwestiynau yn cael eu hosgoi.
Tydi Ms Tierney, y cadeirydd Richard Collier-Keywood na'r cyfarwyddwr rygbi Dave Reddin ddim wedi siarad yn gyhoeddus gyda'r cyfryngau ers mis Rhagfyr, gyda'r BBC yn gyson wedi gwneud cais am gyfweliadau gyda'r tri.
Mae Richard Collier-Keywood ac Abi Tierney wedi siarad mewn gwrandawiadau pwyllgorau o flaen gwleidyddion yn y Senedd ac yn San Steffan.
Cyfarfod brys yn 'gam yn ôl' i rygbi Cymru, medd cadeirydd URC
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Undeb Rygbi Cymru i wynebu cyfarfod brys a phleidlais o ddiffyg hyder
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Cais i'r Uchel Lys atal cytundeb i brynu Rygbi Caerdydd
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Mewn un enghraifft o'r math o gamdriniaeth y mae hi wedi ei wynebu ar-lein, dywedodd y Prif Weithredwr i rywun, rai wythnosau yn ôl roi delwedd deallusrwydd artiffisial (AI) ohoni mewn gwisg Natsïaidd.
"Mae hyn yn iaith casineb," meddai.
"Dwi ddim yn credu bod hynny yn iawn, ac nid dyma beth y mae teulu rygbi Cymru amdano, a ddylen ni ddim bod yn gwneud i bobl deimlo yn anniogel."
Gofynnwyd i Ms Tierney pa neges fyddai hi'n ei roi i'r rhai sy'n gwneud sylwadau o'r fath, sydd meddai hi yn niweidio dyfodol rygbi Cymru - gan effeithio ar chwaraewyr, a'r gallu i werthu tocynnau a denu noddwyr.
"Anghofiwch amdana i, a pha un ai a ydych yn cytuno gyda fi neu yn fy hoffi i," meddai.
"Meddyliwch am rygbi Cymru a'i ddyfodol a'n gallu ni i fuddsoddi yn y gêm ar bob lefel."
'Rhaid gwneud rhywbeth yn wahanol'
Mae Abi Tierney yn dweud ei bod yn gallu deall yr emosiwn ynglŷn â bwriad yr undeb i gael gwared ar un o'r rhanbarthau, a bod hynny yn dod gyda llawer o siom a dicter.
"Ydyn ni'n deall y goblygiadau? Wrth gwrs ein bod ni.
"Ydyn ni'n credu mai dyma'r ffordd i sicrhau bod rygbi Cymru yn gynaliadwy yn y tymor hir? Ydyn.
"Fe fydd yna boen yn y tymor byr, ond fe fydd hynny'n arwain at rygbi mwy cynaliadwy yng Nghymru," ychwanegodd.
"Os nad ydyn ni'n gwneud hyn nawr fe fyddwn ni'n parhau gyda chlybiau sy'n cael trafferth gyda'u perfformiad, ddim yn gallu cael y buddsoddiad, ac efallai yn wynebu sefyllfa debyg i Gaerdydd, a chwaraewyr yn parhau i fod eisiau mynd i Loegr.
"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth yn wahanol."
'Bydd pethau yn gwella'
Mae Abi Tierney, Richard Collier-Keywood a Dave Reddin wedi cael eu gweld fel tri pherson o Loegr sydd ddim â buddiannau rygbi Cymru yn eu calonnau, ond mae Ms Tierney yn gwrthod hynny.
"Mae rhywfaint o'r feirniadaeth yn ymwneud â'r ffaith fy mod i'n dod o Loegr, ond dwi'n byw yng Nghymru, dwi'n ystyried fy hun yn Gymraes, dwi wedi bod yn cefnogi rygbi Cymru ers fy mod yn blentyn bach.
"Dwi'n credu fy mod i'n deall diwylliant Cymru. Dwi ddim yma am y tymor byr yn unig ac fe wna i gymryd cyfrifoldeb.
"Dwi'n gofyn i fi fy hun bob dydd a yw hyn er budd rygbi Cymru yn ei gyfanrwydd.
"Fel Prif Weithredwr URC, mae'n rhaid i fi edrych ar y system gyfan, nid gwneud penderfyniadau ar beth sydd orau i rannau unigol o'r system."
Dywedodd nad ydi'r system bresennol yn gweithio, ac y bydd yn parhau i fethu oni bai bod rhywbeth yn newid.
Mae hi'n credu y bydd cynlluniau URC yn gwella rygbi Cymru yn y dyfodol agos.
"Fyddwn i ddim yn ei wneud petawn i ddim yn hyderus, ond mae'n debygol o fynd yn anoddach cyn iddo fynd yn haws," meddai Abi Tierney.
"Rwy yma fel gwarchodwr ac eisiau gadael gwaddol cadarnhaol a sicrhau ein bod yn parhau i ddathlu rygbi Cymru am 150 mlynedd arall.
"Fe fydd pethau yn gwella."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.