'Panig, gofid ac ansicrwydd' i Gymry sy'n rhan o wrthdaro'r Dwyrain Canol

Yr olygfa yn Tehran, Iran ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae Cymry sydd wedi eu dal yng nghanol gwrthdaro'r Dwyrain Canol wedi son am eu teimladau o banig, gofid ac ansicrwydd wrth i'r taflegrau a rocedi barhau i gael eu tanio.
Fore Sadwrn fe wnaeth yr Unol Daleithiau ac Israel lansio ymosodiadau ar Iran, gan ladd y Goruchaf Arweinydd Ayatollah Ali Khamenei.
Dywedodd yr Arlywydd Trump eu bod nhw wedi gweithredu i amddiffyn eu buddiannau, tra bod Israel wedi galw Iran yn fygythiad "terfysgol" i ddiogelwch.
Y gred yw bod cannoedd wedi marw ar ôl ymosodiadau ar Tehran, tra bod yr UDA wedi cadarnhau bod tri o aelodau ei lluoedd arfog wedi eu lladd.
Addo talu'r pwyth yn ôl mae Iran, ac mae eisoes wedi lansio cyfres o ymosodiadau ar draws y rhanbarth ar wledydd fel Israel, Bahrain, Kuwait, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae Dwynwen Hywel wedi cael cyfarwyddiadau i aros yn y gwesty yn Dubai
Dywedodd Dwynwen Hywel, sydd ar ei gwyliau yn Dubai ar hyn o bryd, bod "teimlad o ofid ac ansicrwydd" yno.
"'Da ni mewn lockdown a 'da ni wedi derbyn cyfarwyddiadau i aros yn y gwesty," meddai ar Dros Frecwast.
"Mae'n sefyllfa annifyr mewn ffordd achos mae'r gwesty yn edrych ar ôl ni yn eithriadol o dda ac maen nhw'n trio eu gorau i leihau unrhyw bryderon ond mae lleoliad daearyddol Dubai yn creu rhyw deimlad o banig a gofid."
Dywedodd fod 'na "griw da o Gymry Gymraeg" yn Dubai sy'n cefnogi ei gilydd dros Facebook.
"Mae hynny yn rhywbeth braf. Ni ddim wedi derbyn llawer o wybodaeth hyd yn hyn... does neb yn gwybod be sy'n mynd i ddigwydd nesa' - mae maes awyr Dubai yn parhau ar gau ac mae Emirates wedi canslo pob un hediad i fewn ac allan o'r wlad.
"Ni'n deall hefyd fod y llywodraeth yn gwneud eu gorau i drio cael yr holl Brydeinwyr sydd yma adre'n ddiogel ond pryd fydd hynny, dyddyn ni just ddim yn gwybod."

Mae 'na ansicrwydd mawr ymysg teithwyr fel Dwynwen Hywel
Ychwanegodd: "Roedd yn reit frawychus prynhawn dydd Sadwrn pan ddechreuon ni glywed y sŵn clecian yma a gweld y cwmwl o fwg yn yr awyr.
"Yr ymdeimlad o banic achos doedd neb yn gwybod yn iawn beth oedd yn cymryd lle bryd hynny.
"Ond maen nhw yn gwneud eu gorau i leddfu ein gofidiau ni yma, maen nhw yn edrych ar ein holau ni felly ni yn gallu dweud ein bod ni'n teimlo'n eitha saff yn y gwesty."

Yr olygfa yn Dubai ddydd Sul
Mae'n amhosib penderfynu a yw'n bosib "i gario 'mlaen fatha bo chdi ar dy wylia' ta i aros yn dy lofft," meddai Ceri Ann o Forfa Nefyn.
"Ti just ddim yn gw'bod be' i 'neud am y gora'."
Dywedodd bod pethau wedi tawelu yn ystod y dydd ddydd Sul - "does dim gymaint o rymblo a clecian i gl'wad yma".
Serch hynny, ychwanegodd: "Dwi'n ofn achos dwi ddim yn gw'bod be' sy'n digwydd."

Mae'n un o feysydd awyr prysuraf y byd fel arfer, ond mae'r awdurdodau wedi cau maes awyr Dubai am y tro
Dywedodd Susan Hughes, sy'n byw yn Dubai ers pedair blynedd, dydy hi "ddim wedi profi ddim byd fel hyn o'r blaen".
Dywedodd ei bod yn teimlo'n ddiogel ond bod y sefyllfa wedi bod yn un pryderus iddi dros y penwythnos.
"'Da ni ddim yn cael mynd i gwaith so dwi'n gweithio o adra ar y funud... dwi'm yn mynd i nunlle i fod yn onest."

Roced yn hedfan dros Jerwsalem ddydd Sadwrn
Yn Israel mae naw wedi marw yn ninas Beit Shemesh yn dilyn ymosodiadau o'r awyr gan Iran.
Mae'r gwrthdaro hefyd wedi lledaenu i Libanus wrth i grŵp Hezbollah anelu taflegrau at ddinas Haifa yn Israel.
Mae degau wedi eu lladd wrth i Israel ymateb gyda'i hymosodiadau ei hun.
Mae pobl "yn ofnus iawn" yn Israel, yn ôl Yuval Inbar, sy'n byw yn Jerwsalem.
"Mae'n frawychus," meddai. "Mae rocets Iran yn fawr ac felly 'dan ni'n ofnus."
'Gêm o dominos'
Mae ansicrwydd am y dyfodol nawr yn Iran ond mae 'na bwyllgor arweinyddiaeth dros dro sy'n addo dial.
Dywedodd yr Uwch Gapten Alan Davies: "Mae hwn fel gêm o dominos.... so ni cweit yn siŵr shwt a pryd a beth sy'n mynd i gw'mpo gynta' na nesa'.
"Ond alle rwbath bach droi hwn yn enfawr. Am faint mae'r gwledydd lleol yn mynd i dderbyn taflegrau'n cyrraedd eu tir? Pwy a ŵyr..."
Parhau gyda'u hymosodiadau ar Iran mae Israel ac mae'r Arlywydd Trump yn dweud ei fod yn barod i fwrw'n ôl gyda grym na welwyd erioed o'r blaen tra'n cydnabod y bydd hi'n anorfod y bydd rhagor o luoedd America yn colli eu bywydau.
Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi caniatáu cais gan America i ddefnyddio canolfannau milwrol Prydain yn y gwlff i ddinistrio taflegrau Iran rhag taro gwledydd y rhanbarth.
Yn fuan wedyn roedd yna ymosodiad drôn ar un o safleoedd yr Awyrlu yng Nghyprus - chafodd neb eu hanafu yn yr ymosodiad ar RAF Akrotiri.

Mae'r datblygiadau'n cynnig gobaith am newid i bobl Iran, meddai Dr Gwennan Higham
Mae gŵr Dr Gwennan Higham, o Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yn wreiddiol o Iran ac mae ganddyn nhw deulu a ffrindiau yn y wlad.
"Pan mae problemau yn digwydd yn Iran o'r radd yma, maen nhw'n torri'r cyswllt gyda'r we, felly dyn ni ddim wedi clywed dim ganddyn nhw ers i America ddechrau bomio'r wlad," meddai Dr Higham.
Dywedodd fod y gwrthdaro "wedi rhoi ryw lach o obaith am newid i'r dioddef dychrynllyd a'r anghyfiawnder mawr sydd wedi bod yn digwydd yn Iran am ddegawdau", gan ychwanegu fod y sefyllfa yn un "cymhleth iawn".
"Mae'r foment hon mor bwysig; mae'n drobwynt hanesyddol. Mae'n anodd deall y sefyllfa, ond mae'n rhaid deall dioddefaint y bobl i werthfawrogi pa mor rhydd maen nhw'n teimlo.
"Wrth gwrs mae yna bryder, ond mae yna hefyd obaith am ddyfodol gwell, er bod ofnau a phryderon yn parhau'n amlwg yn eu bywydau.
"Maen nhw'n sôn am fygythiad i fodolaeth y gyfundrefn. Mae pryderon am y rhai yn y carchardai – miloedd o bobl, academyddion, artistiaid, pobl a gododd eu llais yn erbyn y llywodraeth."
Ychwanegodd: "Mae'r newid sydd wedi digwydd gyda'r goruchaf arweinydd yn rhoi rywfaint o obaith, ond sdim sicrwydd beth fydd yn digwydd nesaf. Felly, mae yna siawns o ddyfodol gwell o'u blaenau nhw."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl
