Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Stephen Rule - Doctor Cymraeg

Beti George yn holi Stephen Rule - Doctor Cymraeg. ar y gwefanau cymdeithasol. Beti George interviews Stephen Rule - Doctor Cymraeg.

Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y ‘Doctor Cymraeg’ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrëwr cynnwys. Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd Cymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, mae eraill sydd yn wynebu heriau tebyg iddo yn medru uniaethu gydag ef ac mae ei angerdd yn ysbrydoliaeth iddynt. “Gorau, Dysgu, Cyd-Ddysgu” yw ei ‘motto’!

Cafodd ei fagu ym mhentref Coed Llai ger yr Wyddgrug mewn ystâd tai cyngor, mewn ardal ddifreintiedig a Stephen oedd y person cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Mae ei Dad, ei Daid a'i Frawd ac ambell ewythr yn gweithio i gwmni Airbus ym Mrychdyn. Fe ddaw o gefndir di-gymraeg, ac anogaeth athrawes yn ysgol Castell Alun wnaeth ei ysbrydoli i ddysgu'r iaith a chael mynd i Jambori yr Urdd yn 12eg mlwydd oed.

Fe aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg gydag Ieithoedd Celtaidd, a bu'n gweithio mewn siop yn y dref H&AR Ellis Hardware am tua dwy flynedd, ac yno y magodd hyder i siarad Cymraeg.

Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol gydag oddeutu 100 mil yn ei ddilyn.

Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan Al Lewis.

Dyddiad Rhyddhau:

49 o funudau

Ar y Radio

Sul 1 Maw 202618:00

Darllediad

  • Sul 1 Maw 202618:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad