Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Mati Roberts

Beti George yn holi'r nyrs Mati Roberts, sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Ghana. Beti George interviews nurse Mati Roberts, whose Ghana‑inspired jewellery funds a school.

Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd a sefydlodd ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd.

Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.

Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol pobol ifanc.

Mae Mati yn sôn iddi ddarganfod fod ganddi ddyslecsia a dyspracsia wrth astudio yn y Coleg.

Cawn glywed hefyd stori hyfryd am ei Thaid, y diweddar John Rowley oedd yn Bennaeth y BBC yng Nghymru am gyfnod, gafodd ei adael yn fabi bach yn amddifad wrth giat fferm yn ardal Llanrwst.

Dyddiad Rhyddhau:

49 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul18:00

Darllediadau

  • Dydd Sul18:00
  • Dydd Iau Nesaf18:00

Archif Beti a'i Phobol

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad