Episode details

Available for 23 days
Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr. Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithio’n agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru a’r DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heriau. Mae’n rhedeg cwmni Lafan sydd yn cyflogi nifer o bobol a'u pwrpas yw meithrin a chefnogi timau o bobl dalentog sydd am weld dyfodol gwell i ardaloedd gwledig Cymru. Mae Geraint yn fab fferm o Ben Llŷn, ac mae'n sôn am ei fagwraeth hapus, ei deulu a'i ddiddordeb ifanc mewn tyfu llysiau. Mae'n dewis 4 cân yn cynnwys ‘Gwreiddiau’ gan Swnami “Cân y teulu ar hyn o bryd a’r plant wrth eu boddau yn dawnsio iddi".
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Dwylo Dros Y Môr 1990Dwylo Dros Y Môr 1990Various Artists
- 2.Pwy Sy'n Hapus?Pwy Sy'n Hapus?Jess
- 3.Adar Y NefoeddAdar Y NefoeddSwci Boscawen
- 4.GwreiddiauGwreiddiauSŵnami