'Dwi yn ac wedi bod yn byw yng Nghymru' - Arweinydd Reform yng Nghymru

Mae arweinydd newydd Reform yng Nghymru yn dweud ei fod "yn ac wedi bod yn byw yng Nghymru"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y blaid Reform UK yng Nghymru yn dweud ei fod yn byw yng Nghymru a bod adroddiadau i'r gwrthwyneb yn ymgyrch i daflu baw arno.
Ddydd Iau, cyhoeddodd Nigel Farage, mai Dan Thomas, sydd yn wreiddiol o'r Coed Duon, yw arweinydd newydd y blaid yng Nghymru a'i fod wedi symud nôl yma o Lundain er mwyn magu ei deulu.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd Nation Cymru erthygl yn dweud "nad oedd wedi symud nôl i'w dref enedigol yn y Cymoedd, ond wedi prynu tŷ £1m ger Caerfaddon".
Ar raglen Politics Wales ddydd Sul, mynnodd Mr Thomas er bod ganddo "bortffolio eiddo", ei fod "yn ac wedi bod yn byw yng Nghymru".
Dan Thomas yw arweinydd Reform yng Nghymru
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Reform wedi gwrthod ymgeiswyr yn sgil sylwadau ar wefannau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
Diswyddo'r Ceidwadwr James Evans AS am ystyried ymuno â Reform
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Dywedodd ei bod yn "eitha' trawiadol fod yr ymdrechion i daflu baw eisoes wedi dechrau gan y sefydliad Cymreig a'u cefnogwyr."
Er mwyn sefyll fel ymgeisydd yn etholiad Senedd Cymru 2026 mae'n amod cyfreithiol fod rhaid byw yng Nghymru.
Dywedodd Mr Thomas: "Mae gen i bortffolio o eiddo. Dwi ddim yn mynd i siarad am leoliadau eiddo ond mae hynny'n cael ei ddefnyddio fel arf yn fy erbyn i roi'r argraff nad ydw i'n byw yng Nghymru."
Mae BBC Cymru ar ddeall fod un eiddo yng Nghaerfaddon.

Cafodd Mr Thomas ei gyhoeddi fel arweinydd y blaid yng Nghymru ddydd Iau
Ar y rhaglen dywedodd Dan Thomas, cyn arweinydd Ceidwadol Cyngor Barnet yng ngogledd Llundain ei fod yn gobeithio sefyll yn sedd Casnewydd Islwyn yn etholiad y Senedd ond dywedodd nad oedd rhestr derfynol ymgeiswyr Reform wedi'i gwblhau eto.
Tra roedd Dan Thomas yn arweinydd cyngor Barnet, cafodd llawer o wasanaethau'r cyngor lleol eu trosglwyddo i'r sector breifat.
Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi allanoli "swyddogaethau swyddfa gefn" gan arbed £16 miliwn i'r cyngor y flwyddyn a "gwnaeth y cyngor yn fwy effeithlon".
Cafodd y polisi ei feirniadu gan rai ar y pryd, ond dywedodd Mr Thomas y byddai'n "gwneud e eto" ac ychwanegodd fod "ail-drefnu'r swyddfa gefn yn galluogi chi i ganolbwyntio arian ar gadw gwasanaethau rheng flaen a chasgliadau bin".
Dywedodd fod yr arbedion wedi'i alluogi i dorri treth cyngor yn 2014 a'i rewi am nifer o flynyddoedd.

Pan ofynnwyd iddo a'i dyma fyddai'r athroniaeth fyddai'n defnyddio wrth ymdrin â chyllidebau Llywodraeth Cymru, dywedodd "fydde ni ddim yn edrych i wneud toriadau mawr i setliadau llywodraeth leol, ond bydde ni'n edrych i lywodraeth leol fod yn fwy effeithlon".
Mi wnaeth gydnabod nad oes modd i Lywodraeth Cymru orfodi cynghorau i wneud toriadau ond dywedodd, "gallwn ni annog e".
Dywedodd Mr Thomas y byddai'n agored i dynnu ysgolion allan o reolaeth awdurdodau lleol a chreu academïau, fel yn Lloegr. Serch hynny, dywedodd na fyddai'n "cyhoeddi unrhyw ymrwymiadau maniffesto nawr."
"Gydag addysg a'r gwasanaeth iechyd - y thema yma yw gwneud pethau'n wahanol, oherwydd mae'r NHS a'r system addysg yn methu ein trigolion a'n cleifion."
'Yr un hen sloganau ac atebion syml heb sylwedd'
Wrth gael ei holi am ei safbwyntiau ar ddatganoli ac a fyddai'n gofyn i Lywodraeth Prydain am ragor o arian, dywedodd Mr Thomas na fyddai'n gwneud hynny.
Dywedodd: "Rydyn ni angen i'r Senedd wneud y pethau sylfaenol yn gywir gynta' cyn ni'n gofyn am ragor o arian neu bwerau neu rywbeth fel 'na."
"Dyna fyddai Reform yn ei wneud. Byddai Reform yn cymryd perchnogaeth o'r Senedd a dweud, 'drychwch dyma sydd ganddo ni, gadewch ni neud e".
"Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n sefyll lan dros Gymru ond byddwn ni'n cymryd perchnogaeth. Be ni ddim am wneud yw beirniadu unrhyw fethiannau ar y llywodraeth [y DU] a dyna be' mae Llafur a Phlaid yn ei wneud."
Wrth ymateb i'r cyfweliad dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Reform UK a Phlaid Cymru yn dweud fod ganddyn nhw gynllun ar gyfer Cymru ond dy' nhw ddim yn gallu rhoi unrhyw fanylion.
"Mae arweinydd newydd Reform UK yng Nghymru yn rhywun sydd wedi gadael y Ceidwadwyr er mwyn cael Farage mewn i Rif 10.
"Yr un hen sloganau ac atebion syml heb sylwedd. Maen nhw'n deud y gwna' nhw arbedion ond yr hyn maen nhw'n olygu yw toriadau a dy' ni ddim yn gallu dweud ble fydd y fwyell yn cwympo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.