'Mynd yn analog': Pam fod pobl ifanc yn troi at dechnoleg retro?

recordiau vinylFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai pobl ifanc yn dewis troi at dechnoleg retro fel ffordd o ddatgysylltu o'r byd ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Mae recordiau finyl, camerâu digidol, CDs a mathau eraill o dechnoleg retro yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith pobl ifanc, yn ôl manwerthwyr.

Dywedodd Amazon UK fod nwyddau fel chwaraewyr recordiau cludadwy, Tamagotchi a chamerâu untro ymhlith yr eitemau mwyaf poblogaidd yn y cyfnod cyn y Nadolig eleni.

Yn ôl ymchwil gan Back Market eleni, mae 45% o oedolion y DU yn bwriadu prynu darn o dechnoleg retro, gyda hiraeth, neu nostalgia yn cael ei nodi fel y prif reswm.

Ar y cyfryngau cymdeithasol mae'r 'trend' yma'n cael ei alw'n 'mynd yn analog', gyda phobl ifanc yn rhannu lluniau a fideos o'u casgliadau o hen dechnoleg fel ffordd o ddangos eu bod yn cymryd cam yn ôl o'u ffonau symudol.

Yn ôl John Lewis, mae gwerthiant setiau radio wedi cynyddu 28% o gymharu â'r un cyfnod llynedd, tra bod gwerthiant camerâu sydyn 39% yn uwch a chlociau larwm 46%.

Dywedodd Cliff Vanstone, pennaeth cangen John Lewis Caerdydd, fod "yr 80au i rai yn teimlo fel amser hir yn ôl, ond i eraill mae'n atgof byw".

Ychwanegodd ei bod hi'n "anhygoel gweld bod y naws retroyma'n apelio at genhedlaeth iau o gwsmeriaid".

Betsan gyda darnau o hen dechnolegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsan yn dweud bod troi at dechnoleg retro wedi newid y ffordd mae hi'n gwrando ar gerddoriaeth a gwylio ffilmiau

I Betsan, 18, o'r Barri, dechreuodd y daith tuag at dechnoleg gorfforol am reswm ymarferol.

"Ro'n i eisiau gwylio un o fy hoff ffilmiau ond doedd e byth ar gael ar streaming services, felly prynais i'r DVD fel fy mod i'n gallu gwylio fe unrhyw bryd," meddai.

Derbyniodd hi radio Roberts Revival fel anrheg Nadolig eleni, gan ddweud bod well ganddi wrando ar y radio wrth goginio.

"Mae rhoi'r radio ymlaen yn syml, mae llai o stress i feddwl am beth i ddewis, ac os yw rhywun yn cwyno am y dewis o gerddoriaeth dwi'n gallu beio'r radio."

Casgliadau yn 'adlewyrchiad o fi fel person'

Yn ôl Betsan, mae llawer o bobl ifanc yn dechrau casglu CDs: "Dy' chi ddim just yn talu am CD, ry' chi'n talu am rywbeth corfforol sy'n gallu bod yn addurn, neu'n boster neu ddarn o gelf.

"Mae'r streaming services yn annog gwrando ar senglau ar ben eu hunain... ond mae gwrando ar CD o'r dechrau i'r diwedd yn fwy o ddefod a chi'n gallu deall yr artist yn fwy.

"Dwi'n credu bod pobl hefyd isie gallu dangos eu diddordebau in the flesh trwy eu stacks o CDs neu DVDs - mae'n really personol, fi 'naeth ddewis nhw ac mae e'n adlewyrchiad o fi fel person.

"Mae 'mynd yn analog' yn gwneud i fi deimlo mewn rheolaeth dros beth dwi'n gwrando arno fe a'i wylio - dewis fi yw e, nid yr algorithm."

Yn ôl Betsan, mae'r trend hefyd yn gysylltiedig â syrffed ar gyfryngau cymdeithasol a'r teimlad o fod "ar gael 24/7".

"Dwi'n defnyddio cloc larwm corfforol nawr fel bo' fi ddim yn gorfod mynd ar fy ffôn peth cynta' yn y bore. Dwi moyn bod offline weithie - mae'n teimlo'n neis."

Aoife gyda chamera digidolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aoife'n dweud bod rhai o'i dyfeisiau retro wedi dod o'r atig neu gan ei rhieni, gan roi hanes personol iddyn nhw

Mae Aoife, sy'n 18 o Benarth, hefyd yn defnyddio cymysgedd o dechnoleg hen a newydd, gan gynnwys camerâu digidol a Polaroid, chwaraeydd recordiau finyl a Walkman.

"Mae mynd i siop recordiau a 'riflo' trwy'r silffoedd yn teimlo fel esgus byw yn 1985 neu rywbeth. Mae'n neis i gael dianc," meddai.

"Fi'n meddwl i bobl ifanc, yn enwedig 18, 19 mlwydd oed, mae'n eitha' trend i romanticisio'r 00s neu'r 90au neu pryd bynnag.

"Mae bron fel petawn ni'n gweld y cyfnod cyn social media fel rhyw fath o utopia – mae'n gwbl anwir ond achos bod gan gyfryngau cymdeithasol gymaint o hegemony dros ein bywydau ni, mae'n ffordd o wrthod hwnna."

'Teimlo fel dechrau gwrth-fudiad'

Yn ôl Aoife, mae camerâu digidol yn arbennig o apelgar i bobl ei hoedran hi.

"Ma' digi cam fi'n dod bobman gyda fi! Ma'r llunie'n edrych yn neis ond ma 'na elfen o nostalgia iddo fe hefyd, achos bysen ni 'di cael ein baby pictures wedi'u cymryd ar gamerâu digidol, ac wedyn byse fe 'di newid i ffonau'n gloi."

Er bod dylanwad y cyfryngau cymdeithasol yn gryf ar y tueddiad yma, mae Aoife'n credu bod elfen o wrthryfela hefyd.

"Ma' fe'n ddicotomi diddorol achos ar un llaw mae'n trend cool ar-lein, ond mae hefyd yn ffordd o beidio gorfod byw yn ôl be mae'r cyfryngau cymdeithasol yn dweud sy'n cŵl."

"Mae'r cyfryngau cymdeithasol mor hollbresennol nawr fel nad oes lle iddo dyfu ymhellach, felly mae hyn yn teimlo fel dechrau rhyw fath o wrth-fudiad".