Ethol menyw i arwain NFU Cymru am y tro cyntaf yn 'anfon neges i'r byd'

Abi Reader
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n gobeithio y gall 2026 fod yn flwyddyn lle ry'n ni'n troi cornel," medd Abi Reader wrth drafod protestiadau ffermwyr

  • Cyhoeddwyd

Abi Reader fydd y fenyw gyntaf i arwain undeb amaeth NFU Cymru.

Disgrifio'r cyhoeddiad fel "cam pwysig" i'r diwydiant wnaeth y ffermwraig laeth o Wenfô ym Mro Morgannwg.

"O fewn i'r sector ry'n ni'n cydnabod fod 'na lawer o fenywod cryf yn ffermio, ond mae hyn yn anfon neges i'r byd y tu allan," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn teimlo fel rhywbeth arferol cyn hir."

Y dirprwy lywydd newydd fydd Paul Williams, ffermwr gwartheg a defaid yn Nebo ger Llanrwst a chyn-gadeirydd NFU Cymru yng Nghlwyd.

Cafodd Ms Reader, 44, ei hethol heb gystadleuaeth, ar ôl gwasanaethu fel dirprwy lywydd yr undeb am y pedair blynedd ddiwethaf.

Cyn hynny roedd hi'n llywydd sirol ym Mro Morgannwg ac yn cadeirio bwrdd llaeth yr undeb.

Mae'n adnabyddus fel llefarydd blaenllaw ar faterion amaethyddol - gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol - ac am sefydlu prosiect Cows on Tour sy'n mynd ag anifeiliaid fferm i mewn i ysgolion i ddysgu disgyblion am ffermio a bwyd.

Dywedodd fod cyfathrebu stori'r diwydiant yn "allweddol, gyda ffermwyr yn mynd i orfod chwarae rôl bwysig wrth ddelio â phynciau fel newid hinsawdd a'r amgylchedd" - heb sôn am "ddiogelwch bwyd" yn y dyfodol.

Mae morâl ymhlith ffermwyr wedi bod yn hynod o isel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, eglurodd - gan gyfeirio at brotestiadau dros newidiadau i gymorthdaliadau'r diwydiant a'r dreth etifeddiant.

"Mae'r difrod wnaeth hyn i deuluoedd amaethyddol wedi bod yn anodd iawn," meddai.

"Dwi'n gobeithio y gall 2026 fod yn flwyddyn lle ry'n ni'n troi cornel."

'Angen lleihau dibyniaeth ar wrtaith artiffisial'

Wrth gael ei herio am ei chynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â llygredd afon yng Nghymru, dywedodd nad oedd neb yn dadlau bod angen i'r sector chwarae rôl wrth wella ansawdd dŵr.

Ond, roedd mesurau fel yr orfodaeth gan Lywodraeth Cymru i beidio â gwasgaru slyri a gwrtaith am gyfnod o rai misoedd dros y gaeaf, "ddim yn gwneud synnwyr".

"Ry'n ni mewn sefyllfa nawr lle mae gennym ni gymaint o dechnoleg sy'n gallu rhagweld [yr amodau] i lefel leol iawn.

"Mae angen i ni allu defnyddio'r rhain er mwyn gallu gwasgaru slyri yn effeithiol a lleihau ein dibyniaeth ar wrtaith artiffisial," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi dadlau bod eu rheoliadau diweddar ar wasgaru a storio slyri yn hanfodol wrth i lygredd amaethyddol fod yn un o'r prif resymau pam nad ydy nifer o afonydd Cymru'n cyrraedd statws da o ran ansawdd dŵr.

Siaradodd hefyd am ei phryder ar ran y sector os bydd Arlywydd UDA, Donald Trump, yn cyflwyno tollau newydd ar fewnforion o'r DU.

Roedd rhaid sicrhau na fyddai'r diwydiant yn cael ei "aberthu", meddai. Ar adeg o ansefydlogrwydd ar y llwyfan rhyngwladol, roedd gan ffermwyr Cymru rôl bwysig o ran bwydo'r genedl, ychwanegodd.

Galwodd hefyd am ymdrech i hwyluso masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd, gan ddadlau bod hyn yn arbennig o bwysig i ffermwyr Cymru.

"Mae'n wirioneddol bwysig ein bod ni'n lleihau'r ffrithiant - mae hynny yn mynd i leihau cost a sicrhau mwy o incwm yn dod n'ôl i'r wlad yma, sy'n gallu cyfrannu at yr economi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cydweithio gyda'r diwydiant ffermio a rhanddeiliaid eraill yn y sector yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau dyfodol hir, llwyddiannus a ffyniannus i ffermio yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi ymroi i sicrhau bod y sector ffermio yma yn ffynnu - a bod hynny yn deillio o gynhyrchiant bwyd cynaliadwy, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymunedau gwledig cryf.

"Hoffwn ddymuno'r gorau i'r llywydd newydd yn ei rôl, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda NFU Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig