Lansio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl blynyddoedd o ddadlau

Defaid ar lwybr yr arfordir yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r newid mwyaf mewn cenhedlaeth i gymhorthdaliadau'r diwydiant amaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun cymhorthdaliadau amaeth newydd Cymru yn ei le yn swyddogol wedi blynyddoedd o ddadlau a bron i ddegawd ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yn gwobrwyo dulliau cynaliadwy o amaethu, gyda ffermwyr yn gorfod ymrwymo i gyfres o ofynion gan gynnwys rheoli cynefinoedd a gofalu am iechyd y pridd.

Dywedodd yr ysgrifennydd materion gwledig Huw Irranca-Davies bod lansio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn swyddogol yn foment o bwys i'r diwydiant amaeth a'r amgylchedd.

Ychwanegodd mai'r prawf cyntaf fyddai faint o ffermwyr sy'n dewis ymuno.

Dywedodd undeb NFU Cymru bod dal "lle i wella eto" ar y cynllun ond bod y fframwaith yn gywir a "gobeithio bydd rhan fwyaf o ffermydd yn gallu cymryd rhan".

Ffermwyr yn protestioFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o brotestiadau ynglŷn â fersiwn flaenorol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae troead y flwyddyn newydd eleni yn arwyddocaol iawn i ffermwyr Cymru, eglurodd llywydd NFU Cymru Aled Jones.

"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) wedi bod yn yr arfaeth ers bron i wyth mlynedd mewn gwirionedd," esboniodd.

"Mae'r hyn oedd gynnon ni wyth mlynedd yn ôl o'i gymharu â heddiw 'ma wedi symud cryn dipyn."

Ers degawdau roedd ffermwyr wedi derbyn dros £300m y flwyddyn mewn cymhorthdaliadau o'r Undeb Ewropeaidd - wedi'u rhannu'n bennaf ar sail faint o dir oedd dan eu gofal.

Mae creu system Gymreig i olynnu'r hen drefn wedi bod yn dipyn o her.

Roedd cynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi cythruddo ffermwyr gan arwain at y brotest fwyaf erioed y tu allan i'r Senedd yn 2024.

Yn dilyn trafodaethau pellach, cafodd manylion terfynol y sybsidi newydd eu datgelu yn ystod yr haf.

Bydd yn rhaid i ffermydd sy'n ymuno â'r CFfC ymrwymo i ddeuddeg o ofynion er mwyn derbyn y taliad sylfaenol.

Mae'r rhain yn amrywio o gynnal gwrychoedd a lleihau defnydd plaladdwyr i fynychu cyrsiau ar-lein ar ddulliau cynaliadwy o amaethu.

Mi fydd cyllid ychwanegol hefyd ar gael am waith amgylcheddol sy'n fwy uchelgeisiol, ac i wobrwyo ffermydd allai weithio ar y cyd ar brosiectau eang.

"Mae 'na le i wella eto maes o law ond mae'r fframwaith yn gywir," eglurodd Mr Jones.

Er y byddai'r undeb am weld cyllideb uwch oedd yn ymateb i chwyddiant, roedd y ffaith bod 70% o'r arian yn cael ei glustnodi i haen isa'r cynllun - sef y taliad sylfaenol - i'w groesawu, meddai.

"Dwi'n mawr obeithio bydd hynny yn rhoi 'chydig bach o sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermydd gynllunio 'mlaen."

Mae gan ffermwyr tan 15 Mai i baratoi ac ymgeisio ar gyfer y cynllun newydd.

Mae yna opsiwn hefyd i aros gyda'r hen drefn am nawr, ond fe fydde nhw'n gweld 40% o doriad yn eu taliadau eleni o wneud hynny.

Gethin Hughes, ffermwr llaeth o Ffostrasol yn sefyll yn ei sied wartheg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffermwr llaeth Gethin Hughes wedi penderfynu ymuno â'r cynllun

Dywedodd Gethin Hughes, ffermwr llaeth o Ffostrasol yng Ngheredigion, ei fod wedi penderfynu ymuno â'r CFfC.

Byddai'r taliad yn cynnig "bach o security" gyda phris llaeth yn anwadal.

Er bod y cynllun "bach yn well nawr 'na beth o'dd e i ddechre off 'da" roedd yn dal i hollti barn, eglurodd.

Mae'n rhaid i ffermydd gynnal a chadw cynefinoedd bywyd gwyllt ar 10% o'u tir er mwyn bod yn gymwys, a Mr Hughes yn ffodus fod ganddo ddarn o ucheldir oedd yn addas.

"Ond fi 'di siarad â lot o ffrindie sy'n gweud 'sai'n gallu mynd mewn i'r (CFfC) achos ma' hwna'n meddwl bydd raid fi dorri yn ôl a chadw llai o wartheg'.

"Mae'n dderbyniol i rai a ddim i eraill - ond mae'n job i 'neud e siwtio pawb" meddai.

Arfon Williams, RSPB Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dweud bod gan ffermwyr rol allweddol wrth adfer natur mae Arfon Williams o'r RSPB

Mae grwpiau amgylcheddol yn dadlau bod dal modd pori anifeiliaid ar dir cynefin, a bod cael mwy ohono'n helpu ffermydd fod yn fwy gwydn i dywydd eithafol.

Maen nhw'n poeni na fydd y CFfC yn ddigon uchelgeisiol maes o law i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fyd natur.

Byddai'r taliad sylfaenol ond yn helpu ffermydd "gynnal" y cynefinoedd a'r bywyd gwyllt sydd eisoes ar eu tir, yn ôl Arfon Williams o RSPB Cymru.

Roedd y buddion mwyaf o ran yr amgylchedd yn dod o haenau uwch y cynllun - sy'n cyllido gwaith opsiynol a chydweithredol, eglurodd.

"Mae angen i ni ddatblygu'r haenau ychwanegol yna cyn gynted â phosibl," meddai, gan nodi targed Llywodraeth Cymru i atal y colledion i fioamrywiaeth erbyn 2030.

"Os yw'r cynllun mynd i fod yn effeithiol wrth helpu ffermwyr adfer natur, wel mae'n rhaid i'r cynllun 'na roi'r arfau, a'r tools a'r cyngor a'r cymorth i ffermwyr i 'neud y job."

'Cynllun deinamig y gallwn ei addasu'

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, bod gweld y CFfC yn "dod yn realiti" yn gamp arwyddocaol.

Fe dderbyniodd gyfrifoldeb dros faterion gwledig ym Mawrth 2024, wedi'r protestio mawr - gan gyhoeddi oedi pellach i'r cynllun a sefydlu grwpiau bwrdd gron lle gallai ffermwyr ac amgylcheddwyr drafod y meysydd oedd yn achosi anghytuno a chyfaddawdi.

"Mae gyda ni rywbeth yn fan hyn ry'n ni wedi cynllunio ar y cyd, mae hefyd yn gynllun deinamig y gallwn ni addasu wrth i amser fynd yn ei flaen," meddai.

"Dyw hynny ddim yn golygu bod pawb yn 100% hapus - dy'n nhw ddim - doedden ni fyth yn mynd i allu cyflawni hynny."

"Ond dwi'n credu bod gyda ni rywbeth allwn ni fod yn falch iawn ohono a dwi'n annog pawb nawr wrth i ni gamu i mewn i'r Flwyddyn Newydd i fynd i edrych yn fanwl ar hyn nawr."

Doedd y llywodraeth heb osod targed o ran faint o ffermydd yr oedd yn dymuno eu gweld yn ymuno â'r CFfC, ond byddai'r ffigyrau rheini yn un arwydd o lwyddiant, eglurodd.

'Angen gwneud mwy'

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd y CFfC wedi blaenoriaethu cynhyrchu bwyd ac nad oedd "yn addas i bwrpas".

"Hyd yn oed yn ei ffurf diwygiedig mae 'na awgrym y bydd yn arwain at golli swyddi, lleihau niferoedd da byw ac incwm busnesau fferm ar draws Cymru," meddai Samuel Kurtz AS, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros yr Economi a Materion Gwledig.

Byddai'r Ceidwadwyr yn adolygu'r CFfC ar frys ac yn ei ddisodli â "chynllun blaenoriaethu diogelwch bwyd," esboniodd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig Llyr Gruffydd AS bod "y CFfC yn ei ffurf bresennol yn llawer gwell na'r cynnig gwreiddiol" ond roedd "gwaith i'w wneud o hyd".

"Rydym eisoes wedi galw am broses drosglwyddo mwy graddol i'r cynllun newydd, gan roi mwy o amser i'r sector addasu," esboniodd.

Aeth ymlaen i ddweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru "hefyd yn darparu sicrwydd cyllido aml-flwyddyn ar gyfer amaethyddiaeth yn hytrach na'r ymrwymiad deuddeg mis presennol gan Lafur."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Reform UK yng Nghymru nad oedd y CFfC wedi ennill hyder ffermwyr a roedd yn mynd i achosi ergyd sylweddol i'r economi wledig.

"Mae angen newid y CFfC er mwyn rhoi ffermio a chynhyrchu bwyd wrth galon y cynllun, nid targedau gwyrdd," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds AS bod y CFfC yn cynnig ychydig o sicrwydd yn y tymor byr i ffermwyr "sydd dan bwysau parhaus o bob cyfeiriad".

Ond nid dyma oedd y cynllun y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi'i ddylunio, meddai, a bod angen "atebion tymor hir" ar ffermwyr.

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter bod "angen i'r llywodraeth wneud llawer mwy i gefnogi ffermwyr yn iawn i wneud y newidiadau sydd angen ar ein gwlad a'n planed".

"Mae'r llywodraeth a'r cyhoedd yn gofyn am lot, a gall hyn ddim digwydd yn rhad. Mae maint y newid sydd ei angen yn golygu bod angen cyfateb hynny â maint y cyllid.

"Dwi ddim yn siŵr ein bod ni wedi gweld yr ymrwymiad yna eto," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.