Episode details

Available for 24 days
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cyfarfod â chriw o hyrwyddwyr creadigol sydd yn gweithio ar brosiect 'Dawns ar gyfer Parkinson's' yng Ngwynedd. Nia Medi, arbenigwr yn y maes cysylltiadau cyhoeddus, sydd yn sgwrsio am weithdai mae'n trefnu yn ystod y mis ar gyfer artistiaid a hyrwyddwyr celfyddydol. Mae Ffion hefyd yn sgwrsio gyda Bardd Môn, sef Rhys Trimble, ac yn clywed am y gweithiau artistig sydd wedi deillio yn sgîl ei swyddogaeth fel bardd ar yr ynys. Ac yna yn olaf, mae'r actor Mark Henry-Davies a Mared Llywelyn yn galw heibio'r stiwdio i drafod prosiect creadigol o'r enw 'Sgratsh'.
Programme Website