Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dawns ar gyfer Parkinson's, Bardd Môn a Prosiect Sgratsh

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cyfarfod â chriw o hyrwyddwyr creadigol sydd yn gweithio ar brosiect 'Dawns ar gyfer Parkinson's' yng Ngwynedd.

Nia Medi, arbenigwr yn y maes cysylltiadau cyhoeddus, sydd yn sgwrsio am weithdai mae'n trefnu yn ystod y mis ar gyfer artistiaid a hyrwyddwyr celfyddydol.

Mae Ffion hefyd yn sgwrsio gyda Bardd Môn, sef Rhys Trimble, ac yn clywed am y gweithiau artistig sydd wedi deillio yn sgîl ei swyddogaeth fel bardd ar yr ynys.

Ac yna yn olaf, mae'r actor Mark Henry-Davies a Mared Llywelyn yn galw heibio'r stiwdio i drafod prosiect creadigol o'r enw 'Sgratsh'.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 5 Ion 202618:00

Darllediadau

  • Sul 4 Ion 202613:00
  • Llun 5 Ion 202618:00