Gwobrwyo gwaith celf artist o'r Fodorgan yn dilyn marwolaethau plant Gaza

Fe wnaeth Diana Williams greu'r gwaith celf yn sgîl adroddiadau newyddion am Gaza
- Cyhoeddwyd
Wrth edrych ar y newyddion o ddydd i ddydd mae Diana Williams o'r Fodorgan yn diffinio'r hyn mae hi yn ei weld drwy ei gwaith celf.
Athrawes sydd wedi ymddeol yw Diana, ond eleni, hi sydd wedi ennill gwobr Dewis y Bobl yn y Galeri, Caernarfon am ddarn o waith celf ddirdynnol.
Mae'r wobr yn rhan o Arddangosfa Agored 2025. Mae Agored 2025 yn cynnig cyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, yn fyfyriwr neu'n berson sy'n creu celf fel diddordeb i ymgeisio i fod yn rhan o arddangosfa flynyddol yn y Galeri.
Mae Diana yn cyfaddef ei bod hi'n gwylio'r newyddion ar y teledu o fore gwyn tan nos, ac mae'r hyn y mae hi yn ei weld yn digwydd dros y byd yn ei hysbrydoli i fod yn greadigol.
"Mae o'n waith celf eitha anodd i sbïo arna fo ond ro'n i mor falch bod pobl wedi cymryd yr amser ac wedi gallu cael rhyw emosiwn a theimlad o'r darn o waith," meddai Diana ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru.

Dyma'r gwaith celf o'r arddangosfa yn Galeri
Mae'r gwaith celf buddugol yn cynnwys stori drist o Gaza ac enwau 300 o blant fuodd farw ac sydd wedi'i pwytho mewn lliw coch ar goban bedydd plentyn.
"Dwi'n sbïo gryn dipyn ar sianel newyddion Al Jazeera, sef sianel sy'n darlledu 24 awr o'r dwyrain canol ac un stori yn benodol nath sefyll allan i mi, oedd y stori am gymuned Gristnogol yng nghanol dinas Gaza," meddai.
Ym mis Hydref 2023 bomiwyd Eglwys Gristnogol yno a oedd yn cael ei ddefnyddio fel lloches.
"Mi oedd y gymuned yma ar fin bedyddio tri o blant ynghyd a'u teuluoedd yn yr eglwys a mwyaf sydyn, bomiwyd yr eglwys a bu farw tri o'r plant oedd yn mynd i gael eu bedyddio a'r rhan fwyaf o'u teuluoedd nhw," meddai Diana.
Cafodd hyn effaith sylweddol ar Diana ac roedd yn benderfynol o dynnu sylw at yr hyn a oedd yn digwydd yn Gaza.
Diana Williams yn siarad gyda Manon Steffan Ros ar gyfer rhaglen Llwyfan
Tra ar drip i sêl gist car yng Ngwalchmai ar Ynys Môn, fe wnaeth Diana ddod ar draws hen goban bedydd oedd ar werth.
Dyma hi yn ei phrynu gyda'r syniad o greu darn o gelf i gofio am y digwyddiadau yn Gaza.
"Er bod hi'n hen, roedd hi'n edrych yn newydd, do'n i'm yn teimlo mod i isio defnyddio un newydd i gyfleu y gwaith celf ond ro'n i isio ôl trawma a rhyfel ar y wisg.
"Wedyn, nes i socian godra'r wisg mewn stwff llnau dreiniau, er mwyn edrych ei fod wedi pydru rhywfaint a rhwygo er mwyn dangos y rhwyg amlwg oedd o fewn y gymdeithas.
"Mi gymerodd o bosib dros rhyw wythnos iddo rhwygo fel o'n i eisiau. Ac o'n i'n meddwl os na'i adael o ryw faint mwy fydd o wedi rhwygo'n gyfan gwbl.
"Ond o'n i eisiau pwytho enwa' y plant o dan un oed oedd wedi marw ar y wisg. Mi wnes i wedyn fynd o'r rhestr yma a mae yna dros 300 o enwau ar y wisg wedi cael eu pwytho," meddai.
Ar ôl gweld ei bod hi'n fuddugol, roedd Diana yn teimlo balchder mawr ar ôl dod dros y sioc o ennill.
"Ro'n i wedi mopio i ddeud y gwir a dwi mor falch fod pobl wedi cymryd yr amser i bledleisio a dwi'n gobeithio bod y gwaith o bosib yn rhoi rhyw fewnolwg gwahanol ar bethau hefyd," meddai.
Beirniaid Arddangosfa Agored 2025 oedd Llŷr Evans, Ella Louise Jones, Ffion Evans (Rheolwr Celf a Llesiant Galeri) a Nia Arfon (Prif Weithredwr Galeri).
Yr enillwyr yn y categoriau eraill oedd Sioned Medi Evans, wnaeth ennill Gwobr y Beirniaid, ac fe aeth gwobr Canmoliaeth Uchel i Gwyn Williams.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Chwefror

- Cyhoeddwyd4 Hydref 2025
