Arddangosfa liwgar artist o Eryri

Meirion Ginsberg
Disgrifiad o’r llun,

Mae arddangosfa o waith Meirion Ginsberg i'w weld yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Postmon yng Nghaer yw Meirion Ginsberg o ddydd i ddydd, ond mae ganddo dalent anhygoel am baentio.

Ar hyn o bryd mae ei waith yn cael ei arddangos yn Oriel Ffin y Parc yn Llandudno.

Mae'r rhan fwyaf o'i waith yn bortreadau lliwgar ac mae'n cael ei ysbrydoli gan gylchgronau a hysbysebion.

Mae Meirion yn teimlo rhyddhad erbyn hyn fod ei waith i'w weld ar y wal, wrth iddo egluro wrth Manon Steffan Ros ar y rhaglen Llwyfan ar Radio Cymru, y broses o beidio stopio "gweithio, gweithio, gweithio a gobeithio fod pethau'n gweithio allan."

Lluniau lliwgar

Un peth sy'n tarro rhywun yn syth am waith Meirion Ginsberg yw pa mor lliwgar yw'r lluniau.

Mae dylanwad tad Meirion, a oedd yn athro celf yn ysgol Brynrefail, Llanrug yn amlwg arno.

"Roedd Dad yn athro celf ac roedd o bob tro yn rhoi pwyntiau i mi pan o'n i'n ifanc i orliwio, 'exaggeratio' dwylo neu proportions a dwi'n teimlo fod pethau fel hynna wedi aros yn fy ngwaith i, ac roedd o bob tro yn deud wrthai i beidio bod ofn defnyddio lliw," meddai.

Mae Meirion yn egluro ei broses pan yn mynd ati i baentio a nad yw'n gwybod beth yw'r naratif neu'r stori y tu ôl i'r llun nes iddo ei orffen.

"Dwi'n gwneud sgets sy'n cymryd dau funud, maen nhw fel stickmen rili a tydw i ddim yn hollol siŵr be ydi'r wynebau, cyn i mi ddechrau gweithio wedyn ar y wyneb efo bach mwy o detail ynddo fo a gweithio o gwmpas hwnna.

"Mae o'n broses o drio ei sortio fo allan wrth i fi fynd yn fy mlaen rili, dwi ddim yn gwbod be' ydi'r stori tan dwi 'di orffen o," meddai.

Un elfen arall o'i waith yw ei fod yn cael ei ddylanwadu gan bopeth o'i gwmpas. Daw'r patrymau'n ei luniau o fynd allan i siopa gyda'i gariad, neu drwy werthfawrogi "dillad lliwgar dynes o Nigeria sy'n mynd a'i phlant i'r un ysgol â fy mhlant i."

Cerddwr CwnFfynhonnell y llun, Meirion Ginsberg

Wrth sôn am ei ddylanwadau cynnar, roedd y ffaith fod tad Meirion sef Alan Ginsberg yn athro celf yn golygu fod llwyth o lyfrau celfyddydol o gwmpas y tŷ.

"Dwi'n cofio gweld llyfr Francis Bacon, chi'n gwybod pan o'n i tua saith oed.

"Ro'n i'n gwybod bod rhywbeth ro'n i'n licio amdano fo. Norman Rockwell, Matisse, ac wrth i mi dyfu i fyny ro'n i'n cymryd popeth i fewn.

"Cessane a Kevin Sinnott yn ddau arall."

Y person wnaeth gyflwyno Meirion i waith Kevin Sinnott oedd y diweddar Iwan Gwyn Parry.

"Nath Iwan Parry roi llyfr Kevin Sinnot i mi pan o'n i yn yr ysgol ac fe wnaeth hwnna newid y ffordd o'n i'n gweithio.

"Roedd gynno fo egni sy'n anodd i'w ddisgrifio ac roedd o mor passionate am gelf.

"Fe wnaeth o neud yn siŵr fy mod i'n weithgar ac yn ymarfer a rhoi cymaint o oriau ag yr oeddwn yn gallu mewn i fy ngwaith.

"Hyd yn oed rŵan pan dwi'n taro wal, dwi'n gofyn wrth fy hun, be fysa Iwan yn ei neud," meddai.

Elfen arall sy'n dylanwadu ar ei waith yw tirwedd Eryri.

Er fod Meirion bellach yn byw yng Nghaer, mae'n disgrifio'r ddinas yn "fflat ac yn boring" ac mae yna "ysbrydoliaeth o jest bod o gwmpas Eryri.

"Mae bod yn Eryri yn effeithio af fy ngwaith mewn ffordd hudol. Dwi ddim yn meddwl nes i sylweddoli pa mor anhygoel oedd Eryri nes i mi symud i ffwrdd," meddai.

Giât Gors BachFfynhonnell y llun, Meirion Ginsberg
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o luniau lliwgar Meirion sy'n rhan o'r arddangosfa

Mae Meirion yn gweithio fel postmon yn ardal Gaer ac mae'n cyfaddef un o'r rhesymau mae'n gwneud hynny yw i ddod allan o'r stiwdio ac i feddwl am rhywbeth gwahanol ar wahn i'w gelf.

"Dwi'n meddwl fod hynny yn beth iach, cael dod allan o'r tŷ.

"Fyswn i'n gallu aros yn y stiwdio drwy'r dydd a drwy'r nos a pheidio siarad efo neb, ro'n i'n neud hynna am flynyddoedd.

"Mae cael bod allan yn y tywydd a chael dod adra yn gwybod fy mod wedi gwneud diwrnod o waith, mae 'na rywbeth da am hynna a wedyn dwi'n mynd i'r stiwdio yn y nos yn barod i weithio," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig