Ateb y Galw: Gwïon Morris Jones

- Cyhoeddwyd
Mae Gwïon Morris Jones yn actor a chanwr o Ynys Môn, ond yn bellach yn byw yn Llundain. Mae'n ymddangos ar hyn o bryd yn Dal Y Mellt ar S4C ac Under Salt Marsh ar Sky Atlantic a NowTV.
Er ei fod yn brysur yn saethu ffilm newydd ar hyn o bryd, fe gymrodd saib o'r gwaith i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Mynd i Ysbyty Gwynedd i gael tegan til yn anrheg. Digwydd bod, fe gafodd fy chwaer, Siwan ei geni'r un diwrnod. Wrth gwrs, anrheg oedd y til gan fy chwaer fach newydd. Yn ddwy a hanner oed, doeddwn i ddim yn cwestiynu ei gallu i fynd i siopa.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mynydd Parys. Mae gen i gysylltiad teuluol cryf efo Rhosybol. Roedd teulu fy nain yn cadw'r siop yno, Mam wedi ei magu yno, a fi a'm chwaer ydi'r drydedd genhedlaeth i fynychu Clwb y Ffermwyr Ifanc yno.
Mae cerdded tirwedd arallfydol y mynydd, yn gwybod bod fy nghyndeidiau wedi bod yn rhan o'r diwydiant copr yna, yn brofiad cyfriniol. Sgwennodd fy mam sioe gerdd am yr hanes, Llwch yn ein Llygaid, a chwaraeais ran John Elias yng nghynhyrchiad Ysgol Syr Thomas Jones. Rhan o gychwyn fy siwrnai fel actor.

Gwïon a'i deulu yn ymweld â Mynydd Parys, Ynys Môn
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Nos Fercher Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Wedi diwrnod prysur, es i weld fy chwaer yn headline-io Llwyfan y Maes efo fy hoff artist, Meinir Gwilym. Ei dilyn hi wedyn i Faes B i'w gweld yn chwarae efo Buddug.
Ar draws hyn i gyd, roedd un pianydd wedi dal fy llygad ers canol p'nawn. Daeth o, yn ei grys streips, i Lwyfan y Maes, ac yna i Faes B lle buon ni'n sgwrsio am oriau. Dydi'r sgwrs honno dal heb ddod i ben oherwydd mae'r pianydd yn y crys streips, Gruff, bellach yn gariad i mi.

Roedd nos Fercher Eisteddfod Wrecsam yn noson cofiadwy i Gwïon
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Angerddol, gofalgar, gwirion.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Clywed fy nghyd-fyfyrwyr yn Central (fy ysgol ddrama) yn canu darn wnes i ei gyfansoddi. Roeddwn i wedi gosod geiriau Shakespeare i wyth llais ac ukelele i gloi ein cynhyrchiad o Nos Ystwyll. Roedd hi'r tro cyntaf i mi glywed fy ngwaith cyfansoddi yn cael ei berfformio.

Gwïon a'i gyd-fyfyrwyr yn actio mewn cynhyrchiad o Nos Ystwyll (Twelfth Night) gan William Shakespeare
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
'Mond yn ddiweddar iawn dw i wedi sylweddoli bod misdimanars yn dod o'r gair misdemeanours, nid misty manners. Dw i'n siŵr mod i wedi deud misty manners mewn ambell glyweliad yn Llundain.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dw i'n crïo'n aml. Wrth wrando ar Unlikely Lovers o'r sioe gerdd Falsettos yn y car, wrth wylio Lost Boys And Fairies ar y soffa, wrth wylio Hamnet yn y sinema neithiwr... dw i jest yn gradur bach emosiynol!

Chwaraeodd Gwïon ran 'Carbo' yn y ddrama diweddar Dal y Mellt ar S4C
Ateb y Galw: Lois Meleri Jones
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n dueddol o ddibynnu ar adrenalin funud olaf i orffen unrhyw dasg dydw i ddim isio'i gneud. Stydio sgriptiau, dysgu leins, unrhyw beth efo sbarc creadigol, dw i awê. Ond ffurflen treth incwm? Dim diolch.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Llyfr Glas Nebo. Mae Manon Steffan Ros mor driw i'w chymeriadau. Eu lleisiau mor glir a didwyll. Mae hi'n ysgrifennu fel actor sydd wedi astudio rôl yn drylwyr. Ges i'r fraint o leisio'r nofel ar gyfer addasiad BBC Radio 4, efo Rhian Blythe. O bob dim dwi 'di neud, dyma un o'r darnau o waith dw i fwyaf balch ohono. 'Sgwn i oes rhywun wedi ystyried gneud ffilm? Dwi ar gael ;)

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Fy nhaid, Trefor. Fuodd o farw pan o'n i'n chwech oed. Mae pawb yn deud mod i'n debyg iawn iddo, o ran f'ymddygiad, a phryd a gwedd. Roedd o'n ddyn doeth iawn a 'swn i wir yn gwerthfawrogi'r doethineb hwnnw yn oedolyn.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn fy arddegau, roeddwn i, a fy ffrind pennaf Carwyn (sy'n llais ac wyneb cyfarwydd i'r rhai ohonoch sy'n dilyn y newyddion), eisiau bod yn rheolwyr fferm. Doedd gen i ddim profiad amaethyddol ond roeddwn i wrth fy modd yn y Ffermwyr Ifanc, yn barnu buchod, ac roeddwn i'n ysu i fod yn rhan o'r gymuned.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Cael pryd o fwyd cynhesol hefo Mam, Siwan, a Gruff. Adra.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Fi, fy chwaer, Mam a Nain yn ei gardd gefn, tua 2005. Y tair dynes gref yma, eu cefnogaeth, caredigrwydd, a'u cariad, sydd wedi fy ngwneud i'r hyn ydw i heddiw. Fyddwn i'n ddim heb y tair yma tu ôl i mi ac mae fy niolch a'm parch tuag atynt yn enfawr.

Mae'r teulu yn bwysig iawn i Gwïon
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Heb os, cydymaith i'r Doctor o Doctor Who. Dwi'n ffan enfawr o'r gyfres ers yn hogyn bach ac wedi bod yn ddigon ffodus cael bod yn rhan ohoni. Hyd heddiw, dwi'n dal i aros i'r bocs heddlu eiconig gyrraedd Ynys Môn!

Gwïon yn gwireddu breuddwyd drwy ymddangos ar Doctor Who
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr

- Cyhoeddwyd3 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Ionawr
