Ateb y Galw: Manon Wilkinson

Manon Wilkinson
- Cyhoeddwyd
Yr actores Manon Wilkinson sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Yn ddiweddar mae gwylwyr y gyfres Stad ar BBC iPlayer, dolen allanol wedi eu swyno gan bortread Manon o'r cymeriad hoffus ac eiconig Tracy Fish a Chips.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Dim fy atgof cyntaf, ond un o'm hoff atgofion oedd codi bore Nadolig wedi cael beic newydd sbon! Am deimlo'n CŴL! Ro'n i wedi gwirioni yn rasio lawr lôn tu ôl i'r tŷ!!!

Beic gan Siôn Corn
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Llyn Clywedog. Mi ddechreuais i stopio'r car ar y ffordd fyny ac i lawr i'r Coleg Drama, a byth ers hynny. Mae'r llyn a'r tirlun mor hardd, ac yn edrych mor wahanol pob tro. Mae'n teimlo fel ennyd o dawelwch mewn byd prysur!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Does dim un yn benodol. Ond mi rydw i yn gwirioni ar fynd i Groeg pob blwyddyn. Treulio'r dydd yn ymlacio yn y môr ac ar yr ynys, ac yna gweld yr haul yn machlud fin nos. Dwi'n ymdrechu yn aml i weld yr haul yn codi ar wyliau hefyd. Mae'n wyrth ynddi ei hun.

Manon yn actio Tracy Fish a Chips ar yr ail gyfres o Stad
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Teimladwy, chwilfrydig, agored.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Pan es i i Efrog Newydd efo Malan fy chwaer a oedda ni wedi bwcio i fynd ar blatfform uchel gwydr 'The Edge' i weld y ddinas oddi tanom.
O'n i wedi bwcio slot 8yb y bore ac wedi ordro gwydr o brosecco i ni'n dwy! Ni oedd yr unig ddwy yn yfed prosecco adeg honno'r bore, ac yna methu codi ar ein traed ar ôl eistedd ar y platfform gwydr gan ofn.

Manon a'i phrosecco ar blatfform The Edge
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Mewn cyfweliad grŵp i goleg Drama yn Llundain. Roedden ni fod i baratoi cân wreiddiol am atgof o'n bywydau a'i chanu i'r gweddill o'r criw.
Mi ganodd y ferch o fy mlaen i gân am farwolaeth ei Nain wnaeth bara am oes, ac mi ges innau (gwaetha'r modd) ffit ofnadwy o gigls. Fuodd raid i mi adael y 'stafell a wedyn gorfod dod 'nôl mewn a chanu fy nghân i! Ar lan y môr (fersiwn gwael iawn ohoni). Ches i ddim galwad yn ôl!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Mi griais i byllau lawer ddwy flynedd yn ôl pan gollais i fy nghi defaid, Llew. Y ci addfwynaf, caredicaf, delaf welais i erioed. Dwi dal yn meddwl amdano'n ddyddiol. Cymar oes.

Llew
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Gorfeddwl pethau a dychmygu'r gwaethaf pob amser.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Mi ges i wir fy nghyffwrdd pan ddarllenais i'r llyfr A Thousand Splendid Suns gan Khaled Hosseini. Dyma nofel am wydnwch a chyfeillgarwch, sy'n mynd i'r afael â hanes bywydau dwy ddynes o Afghanistan — Mariam a Laila — dros dri degawd o gythrwfl.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Does dim dwywaith mai hefo Mam y baswn i yn mwynhau glasiad o win. Mi gollais i hi pan oeddwn i'n 17 oed. Mae cymaint wedi digwydd ers hynny. Dwi'n siŵr y basan ni'n cael hwyl ac yn siarad yn ddi-stop!
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mae yna ddau bioden yn byw yn yr ardd acw a dwi wedi eu henwi nhw'n Pwyll a Prydwen. Dwi'n gadael bwyd allan iddyn nhw. Dwi'n caru anifeiliaid. Mi liciwn i taswn i'n deall be maen nhw'n ddeud.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Mi fyddwn i yn cael ffrindiau a theulu at ei gilydd a'r holl gŵn (yn cynnwys rhai fy chwiorydd) a mi fasa ni i gyd yn mynd i Dinas Dinlla i nofio gwyllt yn y môr, a chael barbeciw neis tu allan, tanllwyth o dân, a sgwrsio heb ffonau symudol!
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Dyma lun ohona i yn cwblhau marathon Eryri! Rhywbeth faswn i byth yn dychmygu y baswn i wedi gallu ei wneud! Dwi'n caru rhedeg ac mae'n rhywbeth sydd wedi helpu fy iechyd meddwl yn arw. Dwi'n ddiolchgar amdano pob dydd.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fel actor, dyna fyddwn i'n ddychmygu o hyd. Ond yr hynaf dwi'n mynd, y mwya' dwi'n sylweddoli bod gan bawb eu sialensau gwahanol. Ac felly, mi ydw i am fod yn ddiflas a dweud - fi fy hun, gan fod pob diwrnod yn gwbwl wahanol beth bynnag!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr

- Cyhoeddwyd12 Ionawr
