Etholiad y Senedd yn gyfle i 'achub y gwasanaeth iechyd' - Jane Dodds

Dywedodd Jane Dodds y byddai pob un bleidlais i'w phlaid yn "bleidlais i gyflwyno'r newid mae pobl ar draws Cymru yn galw amdano"
- Cyhoeddwyd
Mae etholiad y Senedd yn gyfle i "achub y gwasanaeth iechyd", yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Yn siarad ar drothwy cynhadledd wanwyn ei phlaid ddydd Sadwrn, dywedodd Jane Dodds y byddai pob un bleidlais i'w phlaid yn "bleidlais i gyflwyno'r newid mae pobl ar draws Cymru yn galw amdano".
Jane Dodds yw unig aelod ei phlaid yn Senedd Cymru ac mae'r arolygon barn yn awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei chael hi'n anodd creu argraff ar etholwyr.
Ond mae'r blaid yn gobeithio elwa o'r cynnydd sy'n dod i nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd a'r newid at drefn bleidleisio fwy cyfrannol.
'Rhestrau aros yn hirach nag unrhyw le arall drwy'r DU'
Bydd Dodds yn annerch y gynhadledd bnawn Sadwrn ond cyn ei haraith dywedodd bod pobl yn gallu gweld, ar ôl bron i 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur, bod "gormod o wasanaethau cyhoeddus yn gwegian".
"Mae rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yn hirach nag unrhyw le arall drwy'r DU ac mae cynghorau o dan bwysau cynyddol achos bod gofal cymdeithasol yn cael ei ymestyn yn rhy bell.
"Yr etholiad yma yw ein cyfle i newid cyfeiriad ac achub ein gwasanaeth iechyd," ychwanegodd.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r polau. Dydyn nhw erioed wedi rhagweld etholiad fel yr un sydd gennym ni," meddai Ms Dodds
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisoes wedi dweud y bydden nhw'n barod i gynyddu treth incwm o un geiniog ar y bunt er mwyn cefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol os nad oedd modd dod o hyd i'r arian fel arall.
Mae'r blaid hefyd wedi dweud y byddai'n darparu 30 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.
Mae nifer o bolau piniwn diweddar wedi awgrymu bod y Democratiaid Rhyddfrydol y tu ôl i bleidiau eraill y chwith gan gynnwys Plaid Cymru, Llafur a'r Blaid Werdd.
Mae'n ymddangos hefyd taw Plaid Cymru a'r Gwyrddion sy'n elwa fwyaf o drafferthion Llafur.
Ond mewn cyfweliad gyda Radio Wales fore Gwener fe wnaeth Dodds dynnu sylw at y gwahaniaeth mwyaf rhwng ei phlaid hi a Phlaid Cymru a'r Gwyrddion yn ei barn hi, sef bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn annibyniaeth i Gymru.
Dywedodd nad oedd rhai o'r bobl hynny sy'n ystyried cefnogi'r Gwyrddion yn sylweddoli bod y blaid honno eisiau i Gymru adael y DU.
"Dwi'n meddwl ei fod yn ddiddorol iawn i glywed weithiau gan rai o gefnogwyr y Gwyrddion, a phleidleiswyr posib, nad ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw eisiau annibyniaeth i Gymru," meddai.
"Rydyn ni'n glir taw dyna ble rydyn ni'n wahanol."
'Chware rôl bwysig yn y Senedd nesaf'
Wrth wneud sylw ar berfformiad ei phlaid ei hun yn y polau piniwn, dywedodd Dodds: "Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw'r polau. Dydyn nhw erioed wedi rhagweld etholiad fel yr un sydd gennym ni."
Serch hynny, fe wnaeth hi gydnabod na fyddai ei phlaid yn ennill yr etholiad.
"Dydw i ddim yn mynd i fod yn brif weinidog ar Gymru," meddai, "ond fe allwn ni chware rôl bwysig yn y Senedd nesaf."
Dim ond un sedd sydd wedi bod gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ers 2016 ond mae'r blaid wedi cael cryn ddylanwad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig oedd yr ysgrifennydd iechyd rhwng 2016 a 2021 pan ildiodd yr awenau.
Fe wnaeth Dodds, gafodd ei hethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021, ddod i gytundeb gyda Llafur ar gyllideb y llywodraeth y llynedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.