Dros 20,000 yn dysgu Cymraeg y llynedd wrth i niferoedd dyfu eto

Cafodd 35,000 o weithgareddau dysgu eu cynnal gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2024/25 - cynnydd o 12% ar y flwyddyn gynt
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg wedi cynyddu o 12% mewn blwyddyn a bellach wedi pasio'r trothwy o 20,000, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.
Fe wnaeth data'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y llynedd ddangos unwaith eto bod mwy nag erioed wedi cwblhau cwrs dysgu Cymraeg.
Mae'r ffigwr hwnnw wedi codi bron pob blwyddyn ers i'r Ganolfan ddechrau cyhoeddi data yn 2017/18 – ond ddim yn cynnwys niferoedd sy'n dysgu'r iaith drwy ddulliau eraill, gan gynnwys apiau fel Duolingo.
Mae bron i 40% o'r rheiny sydd ar y cyrsiau bellach yn dysgu drwy'r gweithle, tra bod cynnydd hefyd wedi bod yn nifer y dysgwyr ifanc ac o leiafrifoedd ethnig.
Dywedodd un tiwtor Cymraeg bod hyn yn dangos bod dull strategol y ganolfan yn gweithio wrth i'r Brif Weithredwr, Dona Lewis, ddweud fod hyn "yn ddiwrnod pwysig iawn i'r sector".

Fe wnaeth 40% o ddysgwyr gwblhau eu cyrsiau wyneb-i-wyneb y llynedd, tra bod 34% wedi gwneud yn rhithiol, ac 20% wedi gwneud cyfuniad o'r ddau
Yn 2024/25 fe wnaeth 20,445 o bobl gwblhau cyrsiau gyda'r Ganolfan, gyda 61% o'r rheiny yn gwneud cwrs Mynediad a Chyn-Mynediad.
Mae'r Ganolfan, sy'n cael ei arolygu gan Estyn, hefyd yn cynnig cyrsiau ar lefelau Sylfaen, Canolradd, Uwch, a Gloywi.
Ychydig dros 18,000 wnaeth gwblhau cyrsiau yn 2023/24, tra bod y nifer y llynedd yn gynnydd o 61% ar y 12,500 fu'n dysgu Cymraeg yn 2017/18.
Roedd bron i hanner y dysgwyr yn gwneud hynny drwy ddosbarthiadau wyneb-yn-wyneb a rhithiol yn y gymuned, gyda 39% yn dysgu drwy'r gwaith, a 5% yn defnyddio cynllun penodol i deuluoedd.

Mae Meilyr ap Ifan yn gweithio fel Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Cerdydd
Dywedodd Tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, Meilyr ap Ifan, fod y data'n galonogol iawn ac yn adlewyrchu blynyddoedd o waith caled gan y ganolfan.
Ychwanegodd fod hyn yn "adlewyrchu bod dull strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio.
"Mae'r cyrsiau mor hyblyg, mae modd dysgu pa bynnag ffordd chi isie ac mae hwnna'n gweithio".
Pwysleisiodd hefyd mai "un o'r pethau sy'n grêt i weld wrth ddysgu mewn sefydliadau yw'r gymuned sy'n cael ei chreu.
"Mae pobl yn cwrdd â phobl fasen nhw byth wedi cwrdd tase nhw ddim yn dysgu'r Gymraeg."
Mae Meilyr hefyd yn arwain Côr Dysgwyr Caerdydd ac yn credu bod dysgu'r Gymraeg yn cynnig llawer i "bobl o bob oedran".

Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "'Dyn ni'n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy'n cwblhau ein cyrsiau"
Erbyn hyn mae dros 4,000 o ddysgwyr Cymraeg rhwng 16-24 oed, cynnydd o 56% ar y flwyddyn gynt, a nifer sydd bron i chwe gwaith yn uwch nag oedd o yn 2018/19.
Dywedodd y Ganolfan fod bron i dri chwarter y dysgwyr hefyd wedi nodi eu hethnigrwydd, gyda 5% yn cofnodi 'ethnigrwydd amrywiol', a 95% yn cofnodi 'ethnigrwydd gwyn'.
Yn ôl adroddiad y llynedd, dim ond 1% oedd wedi nodi 'ethnigrwydd amrywiol' bryd hynny.
"'Dyn ni'n falch iawn o'r ffigyrau diweddaraf hyn, sy'n dangos twf cyson a chadarn yn niferoedd y bobl sy'n dysgu Cymraeg," meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
"'Dyn ni'n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy'n cwblhau ein cyrsiau.
Esboniodd eu bod yn mynd â'r "cynnig dysgu Cymraeg i ble mae pobl ifanc ac yn sicrhau ein bod yn ei gyflwyno mewn ffordd sydd o ddiddordeb iddyn nhw".
Ychwanegodd eu bod yn "gwybod bod y targed o filiwn yn uchelgeisiol," ond bod y data yma yn "sail gadarn i barhau gyda'r momentwm ni'n ei weld yn ein sector ni".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd1 Chwefror
