Pêl-droed, apiau, gigs - Sut mae hybu defnydd pobl ifanc o'r Gymraeg?

- Cyhoeddwyd
Gydag arolwg diweddar yn dangos gostyngiad diweddar yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru, mae'n amlwg fod twf yr iaith yn wynebu sawl her ar hyn o bryd.
Un o'r heriau hynny yw sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio gan bobl ifanc - y tu mewn i a thu hwnt i'r ysgol.
Mewn cyfres o sgyrsiau ar raglen Dros Frecwast yr wythnos hon - bu sawl cyfrannydd yn ystyried sut mae mynd i'r afael â'r her benodol hon.
Y cyfryngau cymdeithasol
Un agwedd o fywydau pobl ifanc sydd bron yn amhosib i'w osgoi yw'r we a'r cyfryngau cymdeithasol - ond sut mae sicrhau bod y Gymraeg yn weledol ac yn berthnasol ar blatfformau digidol?
Un sydd yn rhannu cynnwys Cymraeg ar nifer o wefannau cymdeithasol yw Joe Morgan, a ddysgodd Gymraeg fel ail iaith yn yr ysgol ac sydd bellach yn cyflwyno podlediad ei hun.
"Dwi'n trio rhannu cynnwys ar instagram, TikTok, Youtube neu ble bynnag achos dwi'n meddwl bod e mor bwysig i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio dros y llwyfannau i gyd," meddai.
"Mae o'n anodd achos yn amlwg ar y platfformau yma mae llawer o Saesneg... ond mae 'na bobl yn defnyddio'r Gymraeg, felly mae'n fater o ffeindio nhw a thrio cael y feed i ddangos cynnwys fel hynny.
"Mae llawer yn siarad yr iaith ond oherwydd dy'n nhw ddim yn cael gymaint o views a likes dy' nhw ddim yn cael eu gwthio i bobl."

Fe enillodd Joe Morgan o Gaerdydd Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd 2025
Yn ôl Joe, mae'n bwysig iawn bod pobl ifanc yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith y tu hwnt i fyd addysg.
"Dwi'n meddwl mai cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith tu allan i'r dosbarth oedd yn bwysig i fi, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol," esboniodd.
"Dwi'n nabod pobl sydd ddim yn meddwl bod e'n cool i ddefnyddio'r iaith ar y cyfryngau cymdeithasol, a dwi'n meddwl bod angen bach o waith i newid y ffordd mae pobl yn meddwl am yr iaith
"Dydi hi ddim yn iaith ar gyfer addysg, mae'n rhywbeth sydd o'n cwmpas ni a gallai'r ffordd mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle i bobl siarad am bob math o bynciau fod yn help mawr."
Chwaraeon

Mae Huw Birkhead (canol) yn cynnal gwersi Cymraeg i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Mae 'na deimlad bod defnydd o'r Gymraeg wedi dod yn fwy gweledol dros y blynyddoedd diwethaf - boed hynny yn sgil gwahanol ymgyrchoedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru neu weld yr iaith ar gyfres 'Welcome To Wrexham'.
Yn ôl Huw Birkhead, sy'n diwtor Cymraeg llawn amser gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, mae'r clwb yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r iaith ac annog pobl i'w defnyddio o amgylch y clwb o ddydd i ddydd.
"Prif rôl fy swydd i ydy dysgu Cymraeg i staff y clwb a hefyd dwi'n cynnal sesiynau blasu i gefnogwyr - mae gyda ni grŵp o gefnogwyr ar hyn o bryd sy'n ymuno o dros y byd - pobl o America, Canada, Gwlad Pwyl a Syria," meddai.
"Mae 'na lawer o bethau eraill yn digwydd i hyrwyddo'r iaith, gwneud podlediadau ar ôl gemau cartref, gwneud pethau yn y rhaglen swyddogol a chyfieithu arwyddion fel bod popeth yn ddwyieithog.
"Mae'r perchnogion 'di neud yn wych i ysbrydoli pobl i roi tro arni, mae'r staff yn awyddus iawn a dwi'n siŵr bod hynny'n dod o weld y perchnogion. Mae'r prif weithredwr yn cael gwersi ar hyn o bryd."
Ychwanegodd fod llwyddiant a delwedd CPD Wrecsam ar hyn o bryd o bosib yn gwneud i bobl gysylltu'r iaith gyda rhywbeth "cool" ac y gallai hynny arwain at fwy o ddefnydd.
Argyfwng llythrennedd yn ein hysgolion - Beirdd Plant Cymru
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
Ysgol Glan Clwyd yn 70: Recriwtio athrawon yn 'greisis' i addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
63,300 yn llai o bobl yn gallu siarad Cymraeg mewn dwy flynedd
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Yn ôl Aled Jones, Pennaeth Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru yn y Gogledd, mae cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i bobl ymwneud â chwaraeon, a hynny mewn awyrgylch ble mae'r iaith yn cael ei defnyddio yn naturiol, yn "allweddol i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol".
"Mae gennym ni gynllun arweinwyr ifanc lle mae 'na gyfleoedd i bobl ddysgu ac wedyn mynd mewn i'r gymuned a hyfforddi, ma' gennym ni hefyd gystadlaethau amrywiol... lle mae 'na ysgolion ail iaith yn dod ac yn gallu clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar y caeau.
"Mae pobl ifanc wedyn yn deall fod y Gymraeg yn perthyn i bawb ac yn rhan o fywydau pobl bob dydd."
Ychwanegodd fod sicrhau bod digon o hyfforddwyr wastad yn her, ond bod yr Urdd hefyd yn cynnig cynlluniau i bobl ifanc ddatblygu sgiliau hyfforddi ar y cyd â'u sgiliau Cymraeg.
Cerddoriaeth
Mae rôl cerddoriaeth wrth ysbrydoli dysgwyr a chreu ymdeimlad o berthyn i iaith a diwylliant yn ffactor bwysig arall, yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
"Mae'n ysbrydoli pobl, os ewch chi at dysgucymraeg.cymru, dolen allanol mae gyda ni straeon am rywun oedd wedi clywed Daniel Lloyd a Mr Pinc ac wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg, a rhywun arall a glywodd Gorkys (Zygotic Mynci) ar hap a dod yn rhugl.
"Fe wnes i fentro defnyddio fy Nghymraeg tu hwnt i unrhyw ddosbarth am y tro cyntaf er mwyn prynu record 'Yr Hen Ffordd Gymreig o Fyw' gan Edward H Dafis.
"...Mae cerddoriaeth yn gallu bod yn allweddol a dwi'n gwybod bod mentrau iaith yn trio'n galed i drefnu gigs mewn ysgolion Saesneg hefyd, ac mewn rhai Cymraeg."

Mae cerddoriaeth yn gallu helpu creu teimlad o berthyn i rywun sy'n dysgu neu'n dechrau defnyddio iaith yn gymunedol
Ychwanegodd Ms Prosser: "Yn fy rôl yn dysgu Cymraeg i oedolion dwi'n teimlo'n reit angerddol bod angen i ni ddod â cherddoriaeth at ein dysgwyr ni.
"Mae'r teimlad yna o berthyn mor bwysig pan mae rhywun yn dysgu iaith ac mae caneuon yn gallu gwneud hynny.
"Ry'n ni'n cynnal cwrs preswyl, er enghraifft, yng Nglan-llyn ym mis Mai ac mae Gŵyl y Gogs ymlaen yn Y Bala, felly fyddwn ni'n mynd i'r ŵyl fel bod pobl yn cael blasu'r awyrgylch.
"Rydyn ni hefyd yn cynnal cwrs preswyl yng Nghaerfyrddin i bobl ifanc rhwng 20-25 oed bob blwyddyn, a 'dan ni'n pennu'r dyddiad i gyd-fynd â Gŵyl Canol y Dref."
Defnydd yn y gymuned
Un maes sy'n cael sylw gan Fentrau Iaith Cymru ar hyd a lled y wlad yw defnydd o'r Gymraeg o ddydd i ddydd ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Esboniodd Dr Myfanwy Jones, Prif Weithredwr Mentrau Iaith Cymru, eu bod yn cynnal pob math o weithgareddau i geisio annog defnydd o'r iaith - o glybiau gwyliau a thripiau gofal i nosweithiau dartiau cymunedol.
"Mae rhai mentrau yn rhedeg canolfannau diwylliannol neu ganolfannau Cymraeg hefyd i greu gofodau Cymraeg concrit fel petai, ble mae pobl yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn ddiofyn," meddai.
"Mae pob math o sesiynau sgwrsio i ddysgwyr i gefnogi defnydd siaradwyr newydd, gwaith i gefnogi bandiau ifanc... ac wrth gwrs mae'r mentrau yn gweithio gyda chyrff eraill yn gymunedol ac ar lawr gwlad i geisio sicrhau eu bod nhw'n darparu yn Gymraeg ac yn ddwyieithog."

Mae Dr Myfanwy Jones yn awgrymu bod angen plethu ymwybyddiaeth o hanes a thraddodiad gydag elfennau mwy modern a chyfoes
Er yn awgrymu ei bod hi "bron yn amhosib" mesur llwyddiant gweithgareddau fel hyn ar ddefnydd o'r iaith dros y tymor hir, mae Dr Jones yn dweud ei bod yn "gwybod ei fod e'n gweithio".
"Ma' fe mor bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael profiad o'u hanes a'u diwylliant fel eu bod yn deall beth sy'n eu gwneud yn Gymry, a fi'n credu dros amser - oherwydd yr ymdrechion i greu cyfleoedd cymdeithasol cyfoes - bod yr ochr yma wedi cael ei hesgeuluso rywfaint.
"Fi'n credu bod y ddau beth mor bwysig - bod gyda nhw'r cyd-destun traddodiadol, ond bod gyda nhw hefyd y cyfleoedd 'ma sy'n apelio atyn nhw ac sy'n gyfoes."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr

- Cyhoeddwyd17 Ionawr

- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025
