Argyfwng llythrennedd yn ein hysgolion - Beirdd Plant Cymru

Mae ymchwil yn awgrymu mai dim ond un ym mhob pedwar o blant ysgol 5-18 oed yng Nghymru sy'n mwynhau darllen
- Cyhoeddwyd
Mae yna argyfwng llythrennedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru, yn ôl Beirdd Plant Cymru.
Yn ôl Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru, a Nicola Davies, Children's Laureate Wales, mae "cwymp dramatig" wedi bod yn lefelau llythrennedd a darllen er pleser ymysg plant oedran ysgol Cymru.
Mewn llythyr agored maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru am "fuddsoddiad gwirioneddol yn nyfodol ieuenctid y wlad".
Byddai hyn yn cynnwys creu strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, a sicrhau bod llyfrgell ym mhob ysgol.
Mae'r llythyr wedi ei gymeradwyo gan nifer o feirdd sydd wedi ymgymryd â rolau beirdd plant Cymru yn y gorffennol neu wedi gweithio'n agos gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys Mei Mac, Menna Elfyn, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones, Ifor ap Glyn, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Anni Llŷn, Casia Wiliam a Nia Morais.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod llythrennedd yn flaenoriaeth genedlaethol a'i bod nhw eisoes yn buddsoddi £13.2 miliwn i godi safonau llythrennedd.
Darllen ymysg plant 'yn pylu'
Yn ôl gwaith ymchwil gan y National Literacy Trust - elusen sy'n cefnogi plant gyda'u sgiliau llythrennedd - 25% o bobl ifanc 5-18 oed Cymru sy'n nodi eu bod yn mwynhau darllen.
"Mae argyfwng yn digwydd yn ein hysgolion," meddai'r beirdd yn eu llythyr.
"Mae cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu mygu gan system addysg sydd o dan bwysau annioddefol."
Mae'r grŵp hefyd yn nodi canlyniadau Pisa Cymru fel arwydd arall o'r broblem, gyda chyrhaeddiad addysgol pobl ifanc Cymru yn is nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU.

Mae Siôn Tomos Owen a Nicola Davies eisiau i'r llywodraeth sicrhau bod llyfrgell ym mhob ysgol
Ymhlith y ffactorau y mae'r beirdd yn dweud sy'n cael effaith ar lythrennedd plant, mae diffyg arian i ysgolion a llyfrgelloedd cyhoeddus yn cau
"Mae'r sefyllfa i ysgolion yn parhau i fod yn anodd gyda chyllidebau yn tynhau ac ni allant ddod o hyd i arian ar gyfer llyfrau na llyfrgelloedd," meddai eu llythyr.
"Mae llyfrgelloedd cyhoeddus hefyd yn cau ac mae darllen ymysg plant yn pylu.
"Mae'n ffaith syfrdanol bod llyfrgelloedd yn orfodol mewn carchardai, ond nid mewn ysgolion; nid oes unrhyw fath o lyfrgell mewn un o bob pedair ysgol yng Nghymru, heb sôn am lyfrgellydd."
Dau brif argymhelliad
Maen nhw'n galw felly ar llywodraeth bresennol a llywodraeth nesaf Cymru i ymateb i'r argyfwng, gyda dau brif argymhelliad:
Datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n cael ei llywio gan ymchwil ac arbenigedd y rhai sy'n gweithio yn y maes yng Nghymru a gwledydd dwyieithog eraill, a chyllid sefydlog, hirdymor i'w gweithredu;
Gwarantu llyfrgell ym mhob ysgol – gyda chyllid priodol iddyn nhw gael eu cyflenwi â llyfrau Cymraeg a Saesneg sy'n cyffroi ac yn ennyn diddordeb plant, ac i groesawu ymweliadau awduron.
"Fel y Bardd Plant Cymru a'r Children's Laureate Wales presennol, rhan o'n cyfrifoldeb yw hyrwyddo lleisiau plant ledled Cymru a'u helpu i archwilio pwy ydynt drwy ddarllen ac ysgrifennu," meddai Ms Davies a Mr Owen.
"Rydym yn gweld yr effaith gadarnhaol y gall llyfrau ac awduron eu cael ar feddyliau ifanc yn uniongyrchol."
Pryderon ynglyn â dyfodol y cynllun sy'n rhoi llyfrau am ddim i fabanod
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
Llafur yn addo talu staff cymorth yn ystod gwyliau'r ysgol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Rhieni a disgyblion wedi eu 'methu' gan safonau addysg
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae llythrennedd yn flaenoriaeth genedlaethol ac rydym eisoes yn buddsoddi £13.2 miliwn i godi safonau llythrennedd gan ganolbwyntio ar roi cymorth cenedlaethol cyson i ysgolion yn hytrach na mentrau tymor byr.
"Rydyn ni'n disgwyl i bob ysgol greu llefydd llawn llyfrau, a rydym eisoes yn gweld gwelliant mewn safonau. Byddwn yn parhau i weithio'n galed i godi safonau addysg i bawb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.