Pryderon ynglyn â dyfodol y cynllun sy'n rhoi llyfrau am ddim i fabanod

Ystafell
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Dechrau Da yn cynnig llyfr dwyieithog am ddim i bob teulu sydd â babi newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd cynllun sydd wedi darparu llyfrau am ddim i fabanod ers chwarter canrif yn cael ei achub yn y tymor byr, a hynny ar ôl pryderon am ddyfodol y cynllun.

Mae miloedd o rieni bob blwyddyn yn derbyn pecyn Dechrau Da (Bookstart) sy'n cynnwys llyfr dwyieithog a chyngor i deuluoedd.

Yn ôl BookTrust Cymru, sy'n gweithredu y rhaglenni i helpu rhieni i ddarllen gyda babanod a phlant bach,roedd penderfyniad i ddod â'u grant i ben yn mynd i daro'r teuluoedd tlotaf waethaf.

Yn wreiddiol dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i'r corff sy'n gyfrifol "sicrhau nad oes yna fwlch yn y ddarpariaeth".

Yn ddiweddarach ddydd Gwener, dywedodd llefarydd y byddai'r llywodraeth "yn sicrhau bod rhaglen Dechrau Da yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth".

Mam a babi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adnodd - y corff sy'n gyfrifol am adnoddau addysgiadol - yn ystyried y "ffordd orau o gefnogi llythrennedd blynyddoedd cynnar"

Fel rhan o raglenni Dechrau Da, mae rhieni'n cael pecyn darllen am ddim pan mae ymwelwyr iechyd yn gweld babanod yn chwe mis oed, ac eto yn 27 mis oed.

Yn ôl Sioned Jacques o BookTrust Cymru, y teuluoedd mwyaf difreintiedig sy'n elwa o'r cynllun.

"'Da ni'n gwybod yng Nghymru bod chwarter y plant yn byw mewn tlodi a wedyn mae'r pecyn yma'n sicrhau bo' nhw'n cael llyfr adre."

Yn ogystal â llyfrau am ddim, dywedodd bod gan yr elusen arbenigedd a rhwydweithiau i gyrraedd a chefnogi teuluoedd.

Cyn y datganiad pellach brynhawn Gwener, dywedodd: "Ar hyn o bryd 'da ni ddim yn siwr iawn be' sy'n mynd i ddigwydd, 'da ni ddim wedi cael unrhyw gadarnhad gan Lywodraeth Cymru am yr arian o fis Ebrill ymlaen.

"Mae hynny'n golygu bod nifer o blant, yn flynyddol mae tua 60,000 o blant yn cael ein pecynnau ni, ac erbyn mis Ebrill mae'n bosib iawn fydd dim o rheiny'n cael y pecyn."

Sioned Jacques
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun presennol yn sicrhau "bod plant o bob cefndir yn cael pecyn llyfrau", meddai Sioned Jacques

Dywedodd bod y cynllun yn aml yn darparu'r unig ddeunydd darllen Cymraeg i filoedd o gartrefi.

"Os 'da chi'n ddi-Gymraeg yn y cartref, mae'n rhoi y cyfle yna i rieni ddod â bach o Gymraeg fewn i'r cartref."

Byddai dod a'r cynllun i ben "yn drist ofnadwy", meddai.

Ar ôl datganiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru brynhawn Gwener, dywedodd BookTrust Cymru eu bod yn "croesawu'r cam".

"Rydym yn agored i drafodaethau adeiladol ac yn awyddus i chwilio am atebion a fydd yn sicrhau bod babanod a phlant bach yng Nghymru yn parhau i elwa ar gefnogaeth hanfodol y rhaglen rhannu darllen yn y blynyddoedd cynnar."

'Tro cyntaf i rai weld y Gymraeg'

Roedd corff Adnodd wedi dweud eu bod yn ystyried sut i gomisiynu deunyddiau llythrennedd i blant ifanc yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd eu bod yn "gweithio gyda BookTrust a phartneriaid i sicrhau na fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth o adnoddau blynyddoedd cynnar i deuluoedd" yn y cyfamser.

Mewn datganiad ychwanegodd eu bod yn "adolygu'r ffordd orau o gefnogi llythrennedd blynyddoedd cynnar drwy'r cyfleoedd comisiynu yn y dyfodol".

"Yn hytrach na dyblygu model cyflawni penodol, mae ein gwaith yn canolbwyntio ar nodi'r dulliau mwyaf effeithiol o wella canlyniadau llythrennedd i ddysgwyr ifanc yng Nghymru.

"Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan dystiolaeth ac ymchwil i sicrhau'r canlyniadau cryfaf posibl."

Sion Tomos Owen
Disgrifiad o’r llun,

I rieni sy'n derbyn y llyfrau dwyieithog, weithiau dyma'r "tro cyntaf falle bod nhw'n gweld y Gymraeg", meddai Sion Tomos Owen

Daw hyn ar adeg pan mae yna bryder am safonau darllen a llythrennedd ymhlith disgyblion Cymru.

Ond dywedodd Bardd Plant Cymru, Sion Tomos Owen mai pwrpas pennaf cynllun Dechrau Da oedd "rhoi siawns i rieni greu perthynas gyda llythrennedd, gyda'u plant adref, mewn lle saff".

"Mae Dechrau Da yn gynllun gwych achos mae'n rhoi siawns i rieni newydd, neu rieni sydd heb lyfr yn y tŷ i gael llyfr yn y peth cyntaf, ond i gael siawns i ddarllen gyda eu plant.

"Achos falle bod nhw ddim yn mynd i'r llyfrgell, falle bod nhw ddim yn ddarllenwyr ond mae siawns i nhw gael llyfr i fynd adre gyda nhw am ddim."

Dywedodd bod y ffaith bod y llyfrau'n ddwyieithog yn golygu bod rhai "yn cael siawns i darllen Cymraeg am y tro cyntaf, neu gweld llyfrau Cymraeg a mae hwn yn mynd i gael knock on effect anferth fi'n meddwl".

Ti a Fi Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rhieni yng Nghylch Ti a Fi Bangor eu bod wedi gwerthfawrogi derbyn y llyfrau

Yng Nghylch Ti a Fi Bangor, dywedodd rhieni bod derbyn llyfrau dwyieithog drwy'r cynllun yn werthfawr.

"Yn tŷ ni 'da ni ddim yn siarad Cymraeg so ma' cal llyfrau Cymraeg yn bwysig iawn i hogyn bach fi", meddai un fam.

Gyda'r cynllun wedi rhedeg am 25 mlynedd, roedd Elin Owen, arweinydd y cylch, yn cofio derbyn y llyfrau.

"Dwi'n riant i ddau o blant, un yn ei arddegau a'r llall yn 20, a dwi'n cofio cael tote bag o lyfrau gan yr ymwelydd iechyd pan oedda nhw'n fach", meddai.

"Mae'n siomedig oherwydd ma' just yn ffordd o gael teuluoedd sy'n ddi-Gymraeg neu unrhyw un sydd ddim wedi arfer, i'w cyflwyno nhw i lyfrau plant bach a mae o mewn ffordd yn signpostio nhw wedyn i'r llyfrgell hefyd."

'Sicrhau nad oes bwlch'

Yn wreiddiol dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i'r corff sy'n gyfrifol, Adnodd, "i sicrhau nad oes yna fwlch yn y ddarpariaeth".

Mewn datganiad pellach brynhawn Gwener, dywedodd llefarydd: "Byddwn yn sicrhau bod y rhaglen Dechrau Da yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth.

"Rydym eisiau i fabanod a phlant bach gael mynediad at lyfrau er mwyn datblygu cariad at ddarllen o oed cynnar.

"Mae Adnodd yn cydweithio â BookTrust Cymru i gytuno ar barhad y rhaglen nes bod trefniadau newydd ar waith.

"Rydym hefyd wedi rhoi cyllid i BookTrust Cymru i ddarparu 8,000 o lyfrau dwyieithog i fynd i'r Pecynnau Babi am Ddim, sydd ar gael mewn cymunedau penodol."

Ychwanegodd Dechrau Da eu bod yn "agored i drafodaethau adeiladol" gan barhau i "gydweithio i ddod o hyd i ffordd gynaliadwy ymlaen sydd er budd plant a theuluoedd yng Nghymru".