'Rhoi stamp fy hun' ar gyfres newydd Sali Mali

- Cyhoeddwyd
Mae menyw, 23, o Gastell-nedd sydd wedi cydlynu cyfres newydd stori a llun Sali Mali yn gobeithio y bydd y gwaith yn ysgogi plant i ddarllen mwy.
Mae Alexa Price wedi cael ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg ac mae bellach yn gweithio fel golygydd llyfrau plant a phobl ifanc - gyrfa nad oedd wedi croesi ei meddwl nes ei bod yn y brifysgol.
Dywedodd fod cydlynu cyfres newydd o Sali Mali, ugain mlynedd ar ôl cyhoeddi'r gyfres ddiwethaf, wedi bod yn fraint a'i bod yn bwysig bod cymeriadau eiconig yn symud gyda'r oes.
'Revamp i Sali Mali'
Nid oes un diwrnod yr un fath i Alexa sydd bellach yn gweithio gyda gwasg Atebol.
"Fe gytunodd y tîm ryw flwyddyn yn ôl fod angen i ni feddwl am greu llyfrau stori a llun newydd [ar gyfer Sali Mali], ac mi oedd hwnna kind of yn meddwl bod angen revamp arnom ni," meddai.
Ond esboniodd nad oes gormod o'r llyfr gwreiddiol yn cael ei addasu.
"Mae hwnna yn bwysig iawn i ni fel gwasg bo' hi dal yn edrych fel y Sali Mali y mae pawb yn nabod ac yn caru'n barod.
Er hynny, roedd o'r farn bod angen gwneud "newidiadau bach er mwyn sicrhau bod hi'n byw yn ein byd ni, yn y byd modern."

Yr hen a'r newydd - trawsdoriad o straeon Sali Mali
Esboniodd fod Sali Mali yn "timeless am reswm, mae hi'n weddol syml ond yn y llyfr yma mae 'na dudalen lle mae'n gwylio'r teledu er enghraifft".
Addasiad arall yw dillad y cymeriad.
"Yn yr hen lyfrau roedd hi wastad yn gwisgo gŵn nos, a gafon ni sgwrs hir am ba byjamas i roi iddi gan fod plant heddiw ddim mor gyfarwydd â gweld eu rhieni nhw mewn gŵn nos.
"Ro'n i'n teimlo'r pwysau, a alla i'm dychmygu faint o bwysau oedd yr arlunydd yn teimlo i sicrhau ei bod hi'n edrych yn berffaith, ond ro'n i'n chuffed iawn gyda sut mae hi'n edrych.
"Oedd e'n lot o bwysau a ro'n i'n poeni lot am sut oedd y cyhoedd yn mynd i gymryd at yr edrychiad newydd, a fi'n dal i boeni."
'Stamp fy hun'
"Fi'n rili ffodus fod gen i gymorth y tîm yn Atebol ac wedyn tîm y Cyngor Llyfrau achos maen nhw hefyd yn wedi tyfu lan gyda Sali Mali," ychwanegodd.
Wrth wneud addasiadau bychain i'r gyfres hon, yn moderneiddio Sali Mali, dywedodd ei bod yn "bwysig bod plant yn gallu gweld, a chydymdeimlo gyda'r cymeriadau".
"Ro'n i rili wedi joio gall rhoi stamp fy hun arno fe."
Esboniodd fod 'na "deimlad o roi yn ôl i genhedlaeth wnaeth dyfu lan gyda'r llyfrau yma.
"Mae'r gyfres ddiweddaraf 20 mlynedd yn ôl, mae'r darllenwyr yna yn rhieni erbyn hyn ac eisiau darllen Sali Mali gyda'u plant nhw."
Ymgyrch darllen 'yn holl bwysig'
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod 2026 yn flwyddyn genedlaethol darllen a bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion yn y flwyddyn newydd.
Dywed Alexa: "Ni allai'r ymgyrch 'National Year of Reading' ddod ar adeg fwy hollbwysig na heddiw.
"Mae lefelau darllen a llythrennedd wedi bod yn gostwng yn y Deyrnas Unedig am flynyddoedd maith erbyn hyn.
"Does dim un ateb yn unig i'r argyfwng 'ma, wrth gwrs, ond dwi'n credu'n gryf ei fod yn hynod bwysig i'r sector cyhoeddi, siopau llyfrau, llyfrgelloedd, ysgolion a meithrinfeydd weithio gyda'n gilydd i ddathlu ac annog darllen er pleser."
Sali Mali yn 50: Delweddau dros y degawdau
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2019
Er bod Alexa wedi darllen ers yn ifanc, dywed nad oedd "byth wedi ystyried gweithio yn y byd cyhoeddi Cymraeg.
"'Nes i dyfu lan yn siarad Cymraeg yn yr ysgol ond dydy 'nheulu i ddim yn siarad Cymraeg adref, nes i fyth ystyried bod yr yrfa yma ar gael i mi,
"'Nes i ddim darllen stwff Cymraeg tan o'n i yn y brifysgol le sylwes i, os ydw i ddim yn siarad e, fe eith yr iaith 'ma. Ga'i ddim cyfle, a do'n i ddim eisiau colli fe.
"Dyna lle sylwes i, actually mae 'na fyd cyhoeddi rili difyr gyda ni yn y wlad yma, mae 'na stwff modern diddorol."