Sut mae dod o hyd i bobl sy'n ffugio teitlau milwrol?
Fideo o Jonathan Carley yn ffugio teitl uchel o fewn y llynges wrth wisgo lifrai a medalau
- Cyhoeddwyd
Mae'n siŵr y byddai'r mwyafrif ohonom wedi synnu wrth weld cyn-athro ysgol yn esgus bod yn swyddog o'r llynges mewn seremoni Sul y Cofio.
Ond i un grŵp cyfrinachol o gyn-aelodau'r lluoedd arfog, doedd hi ddim yn syndod.
Ers dros ddegawd mae grŵp o gyn-filwyr dienw wedi gosod y nod o ddatgelu twyllwyr sy'n dynwared milwyr.
Pobl fel Jonathan Carley o Wynedd, a gafodd ddirwy o £500 am wisgo lifrai milwrol heb ganiatâd yn seremoni Sul y Cofio yn Llandudno yn 2025.
"Y realiti yw, mae'r grwpiau yma wedi dod i'r amlwg oherwydd bod systemau ffurfiol yn ei chael hi'n anodd ymateb yn sydyn neu'n bendant," meddai Dr Leanne Simpson, seicolegydd ymddygiad.
Dywedodd fod canfod a datgelu unrhyw un sy'n ffugio bod yn filwyr yn helpu cyn-filwyr sy'n teimlo'r angen am gyfiawnder.
Y dyn 'hoffus a doniol' fu'n ffugio teitlau'r lluoedd arfog
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
Dyn yn cyfaddef dynwared swyddog o'r llynges ar Sul y Cofio
- Cyhoeddwyd5 Ionawr
Cafodd Carley ei erlyn gan yr heddlu ar ôl i gyn-filwyr yn y digwyddiad Sul y Cofio fis Tachwedd 2025 ei adrodd i'r awdurdodau.
Ond roedd rhai oedd wedi gweld ymddygiad Carley hefyd wedi cysylltu â'r Walter Mitty Hunters Club, yn y gobaith y byddai un o 48,000 o aelodau'r grŵp Facebook yn gwybod mwy amdano.
Mae'r grŵp yn cael ei enw o stori fer James Thurber - The Secret Life of Walter Mitty - am ddyn sy'n byw ffantasi bod ganddo fywyd mwy cyffrous na'r hyn sydd ganddo mewn gwirionedd.

Nid gwasanaeth coffa Llandudno y llynedd oedd y digwyddiad cyntaf i Jon Carley wisgo fel swyddog o'r llynges
Doedd y bobl sydd y tu ôl i'r grŵp ddim yn fodlon siarad gyda'r BBC yn uniongyrchol, na datgelu pwy ydyn nhw, ond mewn negeseuon fe ddywedon nhw eu bod nhw oll yn gyn-filwyr.
Maen nhw'n honni bod angen y dirgelwch er mwyn amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd rhag cael eu targedu am ddatgelu pobl sy'n ffugio.
Doedden nhw chwaith ddim yn fodlon datgelu pa gysylltiadau neu ymchwil maen nhw'n defnyddio i ffurfio achosion yn erbyn ffugwyr.
Ond mae eu gwefan a'u cyfryngau cymdeithasol yn llawn straeon am bobl y maen nhw'n honni sydd wedi cael eu datgelu am ffugio bod yn gyn-filwyr, ffugio bod o elusennau milwrol, neu'n rhoi argraff bod ganddyn nhw fwy o record filwrol na'r hyn sydd ganddyn nhw mewn gwirionedd.
Dyw'r BBC ddim wedi gallu asesu'r honiadau yn erbyn y bobl hyn, nac a oes ganddyn nhw hanes milwrol.
Efallai bod rhai yn anghytuno gyda'r ffordd mae'r grŵp yn gwneud honiadau mor gyhoeddus, ond mae'r Walter Mitty Hunters Club yn dweud bod ymddygiad pobl fel Jon Carley fel petai dieithryn yn mynychu angladd eich tad, yn honni mai ef yw eich ewythr.
Gyda chymaint yn y fantol, pam fyddai unrhyw un yn dweud eu bod wedi bod yn y lluoedd arfog pan dydyn nhw heb?
'Rhoi statws iddyn nhw'
"Yn gyffredinol, mae pobl yn gwneud hyn oherwydd ei fod yn rhoi statws iddyn nhw," meddai Neil Greenberg, Athro Iechyd Meddwl Amddiffyn yn King's College yn Llundain, sydd wedi delio gyda ffugwyr milwrol yn y gorffennol.
Dywedodd yr Athro Greenberg, wnaeth wasanaethu gyda'r llynges am 23 mlynedd, fod ffugio yn gallu bod yn gyffrous, ac wedyn yn rheswm i barhau gyda'r celwydd.
"Dwi wedi gweld 10 neu 15 ohonyn nhw [ffugwyr milwrol] dros y blynyddoedd, a dydw i erioed wedi cael unrhyw un yn rhoi eu dwylo i fyny a dweud 'digon teg, 'da chi wedi dod o hyd i fy nghyfrinach'.
"Yn bennaf, pan 'da chi'n gwthio'r bobl yma maen nhw'n dweud, 'doeddech chi ddim yno, felly fyddwch chi ddim yn deall'.
"Mae cyfrinachedd yn aml yn cael ei ddefnyddio fel esgus pam na allan nhw rannu gwybodaeth gyda chi."

Cafodd Jonathan Carley ddirwy o £500 ar ôl cyfaddef gwisgo lifrai milwrol heb ganiatâd
Mae'r rheiny sy'n ceisio canfod pobl sy'n ffugio yn dweud bod y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol yn dacteg gyffredin i osgoi cwestiynau anodd, ond bod gwneud hynny yn awgrymu bod rhywbeth o'i le, yn ogystal ag unrhyw un sy'n honni eu bod wedi anghofio eu rhif gwasanaeth.
Fe wnaeth Carley - cyn-athro 65 oed - gyfaddef gwisgo lifrai milwrol heb ganiatâd, ond mae'r grŵp yn dweud bod ei resymau dros wneud hynny yn aneglur.
Doedd hi ddim yn ymddangos ei fod yn gwneud hynny er mwyn cael arian, dylanwad, na chreu argraff ar gariad - fel yw'r achos i rai ffugwyr.
Yn achos Carley, dywedodd tystion ei fod yn gwneud popeth posib i osgoi siarad â phobl, er ei fod yn gwisgo lifrai milwrol mor uchel eu statws fel ei bod hi'n amhosib peidio denu sylw.
Dywedodd Carley yn ei gyfweliad gyda'r heddlu ei fod wedi gwisgo fel llyngesydd oherwydd ei fod eisiau ymdeimlad o "berthyn a chadarnhad".
Cadarnhaodd Gwasanaeth Erlyn y Goron mai Carley oedd yr wythfed person o fewn y degawd diwethaf yng Nghymru a Lloegr i gael ei gyhuddo o wisgo lifrau milwrol heb ganiatâd.
Ond does dim cyfraith ar gyfer y rheiny sy'n gwisgo medalau nad ydyn nhw wedi'u haeddu, neu'r rheiny sy'n dweud celwydd am eu cefndir ond heb wisgo'r lifrau.
'Diffyg parch'
"Mae'n ymwneud â diffyg parch, i'r rheiny sydd wedi marw ond hefyd i'r rheiny sydd i ffwrdd yn gwasanaethu ar hyn o bryd," meddai Graham Jones, cyn-filwr wnaeth ddarganfod ffugiwr arall mewn gwasanaeth Sul y Cofio ger Wrecsam ddegawd yn ôl.
"Mae'n chwarae ar eich meddwl chi, ac yn eich gwneud chi'n wyliadwrus o unrhyw un sydd ddim yn adnabod pawb arall."
Yn sôn am ei brofiad ef 10 mlynedd yn ôl, dywedodd Mr Jones ei fod wedi gweld rhywun mewn "gwisg uwch-swyddog yn yr awyrlu" ac yn "gwisgo medalau nad oedd ganddo'r hawl iddyn nhw".
Dywedodd ei fod wedi achosi gofid iddo ar y pryd, ond mai dim ond yn ddiweddarach - wedi i'r heddlu gadarnhau fod y dyn yn ffugiwr - yr aeth pobl yn ddig iawn.

Roedd Carley wedi bod yn mynychu digwyddiadau yn gwisgo rhannau o wisg ôl-lyngesydd ers blynyddoedd
Mae Mr Jones, 61, bellach yn gyfarwyddwr elusen cyn-filwyr Woody's Lodge, ac mae'n dweud ei fod ef a chyn-filwyr eraill yn dilyn gwaith grwpiau fel y Walter Mitty Hunters Club.
"Mae gwybod am ffugwyr yn golygu y gallwn ni gadw golwg ar y peth a datrys unrhyw broblemau yn dawel, heb roi cyn-filwyr go iawn trwy unrhyw beth arall," meddai.
"'Da ni eisiau cadw cyn-filwyr rhag hynny, am y gallai gael effaith niweidiol ar eu hiechyd meddwl."
Dywedodd Mr Jones fod nifer o gyn-filwyr yn credu bod grwpiau o'r fath yn gwneud gwasanaeth cyhoeddus, ond rhybuddiodd fod perygl o achosi niwed i'r unigolyn sy'n cael ei dargedu.
'Does dim un proffil unigol'
Dywedodd y seicolegydd ymddygiad Dr Leanne Simpson mai'r her yw sut i adnabod a datgelu ffugwyr, ond gwneud hynny'n gymesur - yn enwedig gan ei fod yn bwnc mor emosiynol i nifer.
"Mae eu datgelu nhw yn gyhoeddus hefyd yn atal eraill, ac yn lleihau'r gwobrwyon cymdeithasol sy'n tanio'r ymddygiad yma," meddai Dr Simpson, sydd wedi bod yn gweithio gyda chyn-filwyr ers 15 mlynedd.
Ond dywedodd bod peryglon hefyd, gyda'r posibilrwydd y gallai grwpiau dargedu "unigolion sy'n ymddwyn yn y ffordd yma am eu bod yn fregus, nid oherwydd malais".
"Dychmygwch fod mor ansicr o'ch hunan-werth eich bod chi'n benthyg hunaniaeth rhywun arall er mwyn teimlo eich bod chi'n cael eich gweld," meddai.
Pwy felly fyddai'n ffugio bod yn aelod o'r lluoedd arfog, gyda'r risg o gael eu datgelu?
"Yn fy marn i, does dim un proffil unigol," meddai Dr Simpson.
"Mae rhai yn cael eu hysgogi gan wobrwyon fel buddion ariannol, tai, gwasanaethau neu gefnogaeth elusennol.
"Mae eraill, fel yn achos Jonathan Carley, yn cael eu gyrru gan wobrwyon cymdeithasol - cydymdeimlad, edmygedd."
Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am ffugwyr milwrol posib i adrodd hynny i'r heddlu.
Dywedodd fod "cymuned y lluoedd arfog yn cymryd balchder mawr mewn gwisgo lifrau a medalau er mwyn cydnabod eu gwasanaeth a'u haberth", a bod unrhyw un sy'n ffugio hynny yn "gallu achosi gofid enfawr".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.