Y dyn 'hoffus a doniol' fu'n ffugio teitlau'r lluoedd arfog

Disgrifiad,

Fideo o Jonathan Carley yn ffugio teitl uchel o fewn y llynges wrth wisgo lifrai a medalau

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r heddlu guro ar ddrws y cyn-athro hanes Jonathan Carley yn chwilio am berson oedd wedi dynwared swyddog o'r llynges, mae'n rhaid ei fod wedi teimlo'r byd yn cau i mewn amdano.

Yn ei dŷ mawreddog daeth yr heddlu o hyd i lifrai milwrol, medalau a chleddyf seremonïol - arf oedd wedi sbarduno'r amheuon am Carley.

Daeth ymchwiliadau'r heddlu ar ôl i luniau gael eu rhannu yn y wasg ac ar-lein o ddyn yn gwisgo lifrai'r llynges a medalau mewn digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno ar 9 Tachwedd.

Dydd Llun cafodd Carley ddirwy o £500 am wisgo lifrai milwrol heb ganiatâd.

Mae dyn wedi'i wisgo fel Ôl-lyngesydd yn saliwtio. Mae'n gwisgo het wen, siaced du, crys gwyn a thei. Ar ei frest mae cyfres o fedalau.Ffynhonnell y llun, Tony Mottram
Disgrifiad o’r llun,

Nid gwasanaeth coffa Llandudno y llynedd oedd y digwyddiad cyntaf i Jon Carley wisgo fel swyddog o'r llynges

Ymunodd y dyn 65 oed ag eraill wrth osod torch yn y seremoni yn Llandudno yn fis Tachwedd, gan hefyd saliwtio'r gofeb ryfel.

Dywed aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog eu bod wedi dod yn amheus pan welon nhw'r dyn yn gwisgo lifrai Ôl-lyngesydd (Rear Admiral) - swyddog yn nhrydedd reng uchaf y Llynges Frenhinol - ac yn cario cleddyf a medal brin.

"Mae'n un rheng yn is na fedal Groes Victoria," meddai'r Ôl-lyngesydd Dr Chris Parry wrth y BBC.

Dywedodd fod medal y DSO (Distinguished Service Order) yn un "hawdd i sylwi arni" oherwydd ei bod yn wobr mor eithriadol, ac mai dim ond canran fechan o'r rhai sy'n ymuno â'r llynges sy'n cyrraedd y fath lefel.

"Rydych chi wyth rheng i fyny, a dau i lawr o bennaeth y llynges," meddai'r Ôl-lyngesydd Parry, a adawodd y Llynges Frenhinol yn 2008.

Dyn mewn gwisg Ôl-lyngesydd yn sefyll mewn gwasanaeth coffa. Mae'n gwisgo het wen, siaced du, crys gwyn a thei. Ar ei frest mae cyfres o fedalau ac wrth ei ochr mae cleddyf yn hongian.Ffynhonnell y llun, Tony Mottram
Disgrifiad o’r llun,

Cododd Jon Carley (ar y chwith) amheuaeth ar ôl ymddangos yng ngwasanaeth coffa Llandudno yn 2024 yn cario cleddyf

Roedd Carley wedi bod yn mynychu digwyddiadau yn gwisgo rhannau o wisg Ôl-lyngesydd ers blynyddoedd, gan ddal sylw rhai oedd yn aros i'w ddal.

Heb iddo wybod, roedd rhai wedi dechrau cwestiynu gonestrwydd y cyn-athro ysgol breifat yn ystod gorymdaith Sul y Cofio gwlyb yn Llandudno yn 2024 - blwyddyn cyn iddo hawlio penawdau cenedlaethol.

"Roedd ganddo gleddyf enfawr, a dyna oedd yn sefyll allan mewn gwirionedd, oherwydd doedden ni erioed wedi'i weld o'r blaen," eglurodd y ffotograffydd Tony Mottram, oedd yn tynnu lluniau yn y digwyddiad yn 2024, pan welodd Carley gyntaf.

Dywedodd fod medalau Carley, ei gleddyf a'r ffaith ei fod ar ei ben ei hun yn gwneud pobl yn wyliadwrus.

"Arhosodd yn y cefndir, ond roedd yn amheus oherwydd hynny," meddai Mr Mottram, 63 oed ac oedd yn y Fyddin Diriogaethol ac yn gweithio i'r Awyrlu.

"Mae pawb arall ohonom yn adnabod ein gilydd. Cadwodd allan o'r darlun. Roedd braidd yn unig, doedd neb yn siarad efo fo."

Dyn gwallt gwyn sy'n gwisgo siaced frown a sbectol dywyll yn pwyso ymlaen gyda chamera yn tynnu llun o gofeb lwyd gyda thorch coch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tony Mottram yn aml yn tynnu lluniau o orymdeithiau Sul y Cofio yn Llandudno

Fe wnaeth Mr Mottram ei orau i gael tystiolaeth ffotograffig o'r swyddog dirgel yn 2024 - ond cyn iddyn nhw sylweddoli, roedd wedi gadael.

Roedd dicter ymhlith rhai cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, a chytundeb pe bai'n ymddangos yno eto, y bydden nhw'n barod.

Felly pan ymddangosodd Carley, o Harlech yng Ngwynedd, eto yng ngwasanaeth Sul y Cofio 2025, er heb ei gleddyf y tro hwn, roedd Mr Mottram yn barod amdano.

"Edrychais arno fwy eleni... a sylwais ar y coler, steil a hyd y diwnig," meddai.

"Doedd yr hemio ddim yn iawn, doedd yr hyd ddim yn iawn. 'Da chi naill ai'n mynd ar yr orymdaith yn gywir neu 'da chi ddim yn mynd o gwbl."

Gwisgodd Carley amrywiaeth o fedalau ar ei frest, gan gynnwys y DSO - gwobr sy'n cael ei rhoi i arweinwyr hynod lwyddiannus yn ystod gweithrediadau actif.

Ychydig iawn o bobl sydd wedi derbyn yr anrhydedd ers 1979.

Dyn gyda gwallt brown yn edrych at y camera.Ffynhonnell y llun, Terry Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd y Prif Is-swyddog Terry Stewart yr orymdaith er mwyn cwestiynu Carley

Roedd y Prif Is-swyddog (Chief Petty Officer) Terry Stewart wedi cael rhybudd ymlaen llaw am yr hyn a ddigwyddodd yn 2024, ac ar ôl 27 mlynedd yn y Llynges, roedd yn amheus ynglŷn â'r Ôl-lyngesydd a oedd yn mynychu gorymdaith 2025 ochr yn ochr ag ef.

"Gofynnais i'r cyn-filwyr os mai dyma oedd yr un Ôl-lyngesydd â'r llynedd. Dywedon nhw 'ia'," meddai'r CPO Stewart, a dynnodd ei hun allan o'r orymdaith er mwyn gallu dilyn Carley.

"Es i ato, ei saliwtio a chyflwyno fy hun.

"Dywedais wrtho nad oedd y cyn-filwyr y Llynges Frenhinol arall oedd yno yn ymwybodol ohono, a gofynnais am ei enw.

"Dywedodd fod rhaid iddo fynd, a'i fod wedi'i wahodd i'r digwyddiad gan swyddfa'r Arglwydd Raglaw."

Dywedodd fod Carley wedi ei saliwtio yn ôl, rhoi ei enw llawn a'i fod yn ymddangos yn hyderus a "ddim o gwbl" yn bryderus.

Ond roedd CPO Stewart yn siŵr nad oedd yn dweud y gwir.

Dyn gyda gwallt brown yn gwisgo cot a thei du a siaced wen yn cerdded Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dydd Llun fe wnaeth Jon Carley gyfaddef yn Llys Ynadon Llandudno ei fod wedi gwisgo fel Ôl-lyngesydd ffug

Cafodd Carley ei gyhuddo gan yr heddlu o dan gyfraith o'r 1800au sy'n gwahardd pobl rhag gwisgo lifrai milwrol heb ganiatâd.

Dydd Llun daeth Carley'r wythfed person mewn 10 mlynedd i ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o'r drosedd yn y DU.

Nid oes unrhyw gyfraith debyg yn bodoli ar gyfer y medalau a wisgodd, neu ar gyfer unigolion sy'n honni bod nhw wedi bod yn y fyddin, ond heb wisgo gwisg ffug.

Mae'r rheswm dros benderfyniad Carley i ddynwared swyddog o'r llynges yn parhau'n anhysbys, ac mae BBC Cymru wedi gofyn iddo am sylw.

Yr hyn sy'n glir trwy luniau a fideos ar-lein yw bod Carley wedi gwisgo fel Ôl-lyngesydd mewn digwyddiadau eraill cyn Llandudno yn 2024.

Mae yna luniau ohono mewn sawl Gwasanaeth Coffa arall yng ngogledd Cymru ers 2018, yn fuan ar ôl iddo symud i'r ardal.

Mewn un fideo, mae'n ymddangos ei fod yn rhoi araith i'r cyhoedd yn ei lifrai llyngesydd llawn, ynghyd â chleddyf, mewn digwyddiad coffa Rorke's Drift.

Dyn mewn gwisg llyngesydd yn sefyll ar wair gyda chynulleidfa o'i gwmpas. Mae'n gwisgo het wen, siaced a throwsus dy, crys gwyn a thei du. Mae ganddo sawl medal ar ei siaced a chleddyf yn ei law chwith
Disgrifiad o’r llun,

Carley yn rhoi araith yn ystod digwyddiad yn 2019 i gofio brwydr Rorke's Drift

Fe wnaeth Andy Gittens cyfarfod Carley am y tro cyntaf ychydig fisoedd cyn ei araith Rorke's Drift, ar ôl iddo ddechrau mynychu ymarferion ar gyfer ei gôr meibion.

"Rwy'n credu ei fod wedi dweud ei fod yn y Llynges," cofiodd Mr Gittens, a ddywedodd nad oedd Carley yn canu gyda nhw am amser hir.

"O be' dwi'n gallu cofio, doedd o ddim yno'n aml iawn," meddai'r cyn-ddiffoddwr tân o Wynedd.

Ond pan aeth côr Mr Gittens i Gastell Harlech yn 2019 ar gyfer digwyddiad cofio Rorke's Drift, fe wnaethon nhw adnabod Carley ar unwaith.

"Fe wnaethon ni ymgynnull yn y bore i ymarfer gyda'r band a'r côr. Doedd o ddim i'w weld yn unman.

"Yn sydyn mae'n ymddangos yn y wisg yma. Fel arfer mae'r Arglwydd Raglaw yn ymdrin â'r digwyddiadau hynny, ond daeth o allan yn llawn egni a bywyd.

"Roedd o'n gwbl gredadwy, mewn gwisg lawn a gyda'i gleddyf. Yna mae'n mynd ymlaen i gymryd yr awenau."

Dywedodd Mr Gittens, er gwaethaf ei syndod cychwynnol wrth weld Carley yn y rôl newydd hon, nad oedd ganddo unrhyw reswm i'w amau ​​nes iddo weld y newyddion diweddar.

"Roedd o'n eitha' hyderus, yn neis iawn ac yn ddyn credadwy," meddai.

Llun du a gwyn o ddau ddyn wedi'u gwisgo mewn siacedi gyda thei streipiog yn gwenu ar y camera. Y tu ôl iddyn nhw mae afon gyda nifer o bobl yn gweithio ar gychod rhwyfo.Ffynhonnell y llun, Henley Standard
Disgrifiad o’r llun,

Erthygl papur newydd yn dangos Carley (dde) yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr rhwyfo mewn colegau preifat

Yn y gorffennol, mae Carley wedi gwneud cyfweliadau yn y papur newydd yn trafod ei brofiadau yn astudio a rhwyfo ym mhrifysgolion Rhydychen a Harvard – yn ogystal ag addysgu yn rhai o ysgolion mwyaf mawreddog y wlad fel Eton, Cheltenham a Choleg Shiplake.

Cadarnhaodd Coleg Cheltenham fod Carley wedi dysgu hanes a gwleidyddiaeth yno rhwng 1988 a 1992.

Mae'n ymddangos mai'r cyfnod hwn hefyd oedd ei unig brofiad gwirioneddol â'r fyddin, gyda'i enw'n ymddangos yn y London Gazette yn 1991 fel rhan o Lu Gadetiaid Cyfun y coleg.

Ar ôl cyfnod fel athro, mae'n debyg bod Carley wedi gweithio yng Ngholeg Eglwys Crist, Prifysgol Rhydychen, fel hyfforddwr rhwyfo am sawl blwyddyn.

Dywedodd un cyn-fyfyriwr wrth BBC Cymru ei fod wedi "syfrdanu'n llwyr" o weld ei gyn-hyfforddwr yn y newyddion, tra bod eraill yn siarad am hyfforddwr uchel ei barch a "chynnes, doniol, a llawn hwyl".

"Ei rôl oedd fel prif hyfforddwr rhai o gychod y dynion, ac ef oedd cydlynydd popeth yn ymwneud â rhwyfo Eglwys Crist," meddai un cyn-fyfyriwr.

"Roedd yn dda iawn am ysgogi'r criw. Roedd yr areithiau a roddodd fel pe baen nhw wedi'u sgriptio o flaen llaw.

"Rwy'n credu bod rhwyfwyr eraill yn ei barchu'n fawr. Roedd pobl yn gweithio'n galed iawn iddo."

Dywedodd na fyddai "byth wedi credu" y byddai Carley wedi gwneud rhywbeth fel yna.

Nid yw Coleg Eton na Phrifysgol Rhydychen wedi ymateb i geisiadau am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.