Dyn yn cyfaddef dynwared swyddog o'r llynges ar Sul y Cofio

Jonathan CarleyFfynhonnell y llun, Tony Mottram
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jonathan Carley ei weld yn gwisgo lifrai un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol yn ystod gwasanaeth yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 65 oed wedi pledio'n euog i ddynwared swyddog o'r llynges mewn digwyddiad Sul y Cofio.

Cafodd Jonathan Carley o Harlech, Gwynedd ei arestio ar ôl i luniau ddod i'r amlwg o ddyn yn gwisgo lifrai'r llynges a medalau mewn digwyddiad Sul y Cofio yn Llandudno ar 9 Tachwedd.

Yn Llys Ynadon Llandudno fore Llun, fe wynebodd Carley un cyhuddiad o wisgo lifrai milwrol heb ganiatâd - sy'n drosedd dan Ddeddf Lifrai 1894.

Cafodd ddirwy o £500 yn ogystal â gorchymyn i dalu costau ychwanegol o £285.

Jonathan Carley yn gadael y llys fore LlunFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Carley yn gadael y llys fore Llun

Roedd Carley yn gwisgo ysgwyddarn ac elfennau eraill o wisg ôl-lyngesydd - un o'r rhengoedd uchaf yn y Llynges Frenhinol - yn y digwyddiad fis Tachwedd.

Yn sgil hynny, cafodd pryderon eu codi gan filwyr a chyn-filwyr oedd yn bresennol yn y seremoni.

Cafodd ei weld yn cerdded tuag at y gofeb gydag unigolyn arall, cyn rhoi salíwt a cherdded i ffwrdd.

Fe gadarnhaodd Cyngor Tref Llandudno, a drefnodd y digwyddiad, nad oedd disgwyl y byddai unrhyw un o rengoedd uchaf y fyddin yn mynychu'r seremoni.

'Diffyg parch llwyr'

Clywodd y llys fod Carley wedi cysylltu gyda threfnwyr y digwyddiad cofio i ddweud mai ef oedd yr ôl-lyngesydd ar gyfer gogledd Cymru, a'i fod yn cynrychioli Arglwydd Raglaw Clwyd.

Fe roddodd swyddogion ganiatâd iddo gymryd rhan yn y seremoni o ganlyniad.

Wrth gael ei arestio yn ei gartref ar 14 Tachwedd, dywedodd wrth swyddogion ei fod "wedi bod yn eu disgwyl".

Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi derbyn y wisg fel rhan o'i rôl gyda'r cadetiaid, a'i fod wedi gofyn i deiliwr ychwanegu rhai elfennau ato.

Cafodd y wisg a'r medalau - a gafodd eu prynu gan Carley - eu darganfod yn ei gar.

Yn ôl yr amddiffyniad, mae Carley yn cydnabod fod ei ymddygiad yn "gwbl amhriodol" ac nad oedd wedi rhagweld y byddai'n achosi cymaint o ofid a phoen meddwl i bobl.

Dywedodd y Barnwr Rhanbarth, Gwyn Jones fod Carley "wedi ceisio twyllo'r bobl yn y seremoni" a bod ei weithredoedd yn dangos "diffyg parch llwyr" at y rhai sydd wedi gwasanaethu.

"Dylai'r seremoni fod wedi bod yn gyfle i gofio a meddwl am y rhai sydd wedi gwasanaethu eu gwlad a'u cymunedau," meddai.

"Mae'n adlewyrchiad trist ohonoch chi eich bod wedi dewis gwneud y fath beth ar ddiwrnod sydd mor anodd i gymaint o bobl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.