Cynnal angladd cyn-chwaraewr a rheolwr Cymru Terry Yorath

Terry YorathFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mab Terry Yorath, Jordan mewn teyrnged fod ei dad yn "ddyn doniol, caredig, diymhongar a balch"

  • Cyhoeddwyd

Mae angladd cyn-chwaraewr a rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Terry Yorath, wedi ei gynnal yn Leeds brynhawn Llun.

Fe chwaraeodd Yorath 59 o weithiau dros ei wlad yn y 1960au a'r 70au a bu'n rheolwr ar y tîm cenedlaethol rhwng 1989 a 1994.

Bu farw'n gynharach yn y mis yn 75 oed yn dilyn cyfnod byr o salwch.

Roedd tua 100 o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth, gyda nifer o wynebau amlwg o'r byd pêl-droed yn eu plith.

cerbyd angladdauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd baner Cymru a lliwiau clwb pêl-droed Leeds United yn amlwg yn yr hers

Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, roedd Yorath yn chwaraewr canol cae caled ac yn arweinydd naturiol ar y cae.

Ond roedd Leeds hefyd yn ddinas oedd yn agos iawn i'w galon, roedd wedi hen gartrefu yno ers blynyddoedd ac wedi chwarae 199 o weithiau dros y clwb.

Yn ogystal â sefydlu ei hun fel rhan allweddol o'r tîm enillodd yr Adran Gyntaf yn 1973-74, fe wnaeth Yorath gwrdd â'i wraig, Christine a throi at Gatholigiaeth yn ystod ei gyfnod yn Leeds.

Fe dreuliodd Yorath gyfnodau yn chwarae i Coventry City, Tottenham Hotspur, Vancouver Whitecaps, Bradford City ac Abertawe hefyd.

Bryn Law a Chris ColemanFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y sylwebydd o Gymru Bryn Law a chyn-reolwr Cymru Chris Coleman ymhlith y wynebau cyfarwydd yn y seremoni

Roedd Côr Meibion Taf, o'i ddinas enedigol, yn rhan amlwg o'r gwasanaeth yn Eglwys Babyddol The Imacculate Heart of Mary gan berfformio Hen Wlad fy Nhadau, Ar Hyd y Nos, Danny Boy a You'll Never Walk Alone.

Hen Wlad Fy Nhadau gafodd ei chanu wrth i'r arch gael ei chario i'r eglwys a Chwm Rhondda oedd yr emyn cyntaf.

Dywedodd Steffan Jones o'r côr ei bod "yn hanfodol bod Cymru a'r Gymraeg yn cael ei gynrychioli yn y gwasanaeth" a'i bod yn "fraint aruthrol" i'r aelodau eu bod wedi'u gwahodd".

Cor Meibion Taf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael bod yn rhan o'r seremoni yn "fraint aruthrol" i Gôr Meibion Taf, meddai Steffan Jones

Roedd sawl wyneb amlwg o'r byd pêl-droed yn bresennol gan gynnwys Chris Coleman, Ian Rush, Kevin Ratcliffe a Mickey Thomas.

Yn ystod y gwasanaeth fe wnaeth y comedïwr a chefnogwr pêl-droed Cymru, Elis James, arwain y teyrngedau drwy roi trosolwg o yrfa Terry Yorath fel chwaraewr.

Dechreuodd drwy sôn am ei benderfyniad i ganolbwyntio ar bêl-droed yn hytrach na rygbi pan yn ei arddegau.

Soniodd hefyd am rôl Yorath yn y broses o newid yr anthem oedd yn cael ei chanu cyn gemau Cymru o God Save The Queen i Hen Wlad Fy Nhadau.

Disgrifiad,

'O'dd e'n Gymro balch' - Teyrnged Elis James i Terry Yorath

Yn ei bregeth, fe ddywedodd y Parchedig Dennis Cassidy fod "Terry wedi byw bywyd llawn haelioni".

Cyfeiriodd at "gynhesrwydd ei gymeriad, ei garedigrwydd a'i natur hwyliog" gan ychwanegu fod y teulu yn ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon y maen nhw wedi eu derbyn.

Ychwanegodd fod ffydd Yorath hefyd "yn rhan o'i hunaniaeth".

'Pêl-droed yn ei waed'

Mab Yorath, Jordan oedd yr olaf i roi araith angladdol.

"Roedd o'n ddyn doniol, caredig, diymhongar a balch," meddai.

Ychwanegodd fod ei dad wedi "dyfalbarhau drwy boen ofnadwy" wedi marwolaeth ei fab Daniel, wrth iddo reoli tîm Cymru ond rai dyddiau yn ddiweddarach - rhywbeth yr oedd yn difaru ei wneud.

Bu farw Daniel yn 15 oed tra'n chwarae pêl-droed yn yr ardd gyda'i dad o ganlyniad i gyflwr oedd yn effeithio ar ei galon.

"Roedd pêl-droed yn ei waed," meddai Jordan, gan nodi ei fod wedi mynychu angladdau pob un o'r 56 o gefnogwyr Bradford a fu farw yn y tân yn stadiwm Valley Parade yn 1985.

Fe orffennodd y gwasanaeth gyda Chôr Meibion Taf yn canu Danny Boy - fel teyrnged i Daniel.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.