Rhybuddion llifogydd mewn grym yn sgil Storm Chandra

Mae effaith y gwyntoedd cryf i'w weld yn Abertawe fore Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Storm Chandra wedi achosi trafferthion teithio ac wedi arwain at nifer o rybuddion llifogydd yn y de a'r canolbarth ddydd Mawrth.
Cafodd Pont Hafren, yr M48 ei chau ddydd Mawrth, a'r traffig yn cael ei ddargyfeirio dros Bont Tywysog Cymru ar yr M4.
Mae sawl rhybudd llifogydd, dolen allanol mewn grym yn y de ddwyrain, a thros 20 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd yn y de a'r canolbarth hefyd.
Dywedodd Heddlu Gwent fod llifogydd ar ran o'r A40 rhwng Y Fenni a Rhaglan.
Mae Irish Ferries a Stena Line wedi canslo'r rhan fwyaf o'r llongau rhwng Cymru ac Iwerddon oherwydd y storm.
Rhybuddiodd National Rail y gallai'r tywydd gwael effeithio ar wasanaethau South Western Railway drwy'r dydd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru na fydd gwasanaethau trên rhwng Abertawe a'r Amwythig ddydd Mawrth gan fod coeden wedi cwympo ar y cledrau ger Llangunllo ym Mhowys.
Rhybuddion tywydd
Mae rhybudd melyn am law wedi dod i ben am 10:00 fore Mawrth, ac roedd y Swyddfa Dywydd yn disgwyl hyd at 30mm o law i ddisgyn ar draws ardal y rhybudd, gyda hyd at 80mm yn debygol ar dir uchel fel Bannau Brycheiniog.
Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn parhau mewn grym ar gyfer rhannau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe.
Bydd hwnnw mewn grym rhwng 05:00 a 16:00 ddydd Mawrth, gyda rhybudd y gallai gwyntoedd o hyd at 80mya daro'r gorllewin.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r storm arwain at amodau gyrru peryglus a chael effaith ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Y cyngor ydy i wirio os yw eich eiddo mewn perygl o lifogydd, ac ystyried paratoi cynllun llifogydd fel ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd13 Ionawr
