Rhybudd melyn am ragor o law trwm yn y de ddwyrain

Daw'r rhybudd i rym am 09:00 fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer rhannau o'r de ddwyrain a'r canolbarth ddydd Iau.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 09:00 ac yn dod i ben am 23:59.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd,, dolen allanol fe allai'r glaw trwm achosi llifogydd mewn mannau wrth iddo ddisgyn ar dir sydd eisoes yn wlyb.
Mae 'na rybudd hefyd y gallai'r tywydd garw darfu ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn ogystal ag achosi rhywfaint o broblemau ar y ffyrdd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
• Blaenau Gwent
• Pen-y-bont ar Ogwr
• Caerffili
• Caerdydd
• Merthyr Tudful
• Sir Fynwy
• Castell-nedd Port Talbot
• Casnewydd
• Powys
• Rhondda Cynon Taf
• Abertawe
• Torfaen
• Bro Morgannwg
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.