Rhybudd melyn am ragor o law trwm i'r de ddwyrain a'r gorllewin

Map o rybudd melyn y Swyddfa Dywydd ar draws de ddwyrain a de orllewin CymruFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm a allai arwain at lifogydd a thrafferthion teithio mewn rhannau helaeth o Gymru.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y rhannau helaeth o dde ddwyrain a de orllewin Cymru rhwng 02:00 fore Gwener a 22:00 nos Sadwrn.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl rhagor o law trwm ddydd Sadwrn, gyda'r posibilrwydd o lifogydd ar ffyrdd, dŵr yn llifo o gaeau, ac oedi neu darfu ar wasanaethau trafnidiaeth.

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn dweud bod amodau gyrru anodd yn debygol.

Yn ôl y rhagolygon, bydd Storm Ingrid, sydd wedi'i henwi gan wasanaeth tywydd Portiwgal, yn symud yn araf tua'r gogledd dros Y Môr Celtaidd ddydd Sadwrn, gan ddod ag ysbeidiau o gawodydd trwm a chyfnodau hirach o law ar adegau.

Mae disgwyl rhwng 20 a 40mm o law ychwanegol i ddisgyn yn eang, gyda hyd at 50mm mewn rhai ardaloedd agored.

Er nad yw'r gwyntoedd mor gryf â dydd Gwener, gallai gwyntoedd cryf waethygu'r sefyllfa ar adegau fore Sadwrn, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Ceredigion

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Sir Benfro

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Abertawe

  • Torfaen

  • Bro Morgannwg.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i gynllunio ymlaen llaw, i fod yn ofalus wrth deithio, a chadw llygad ar y rhagolygon diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig