Y Cymro ddysgodd Gymraeg ar ôl symud i'r Eidal

Philip Glynne JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Philip Glynne Jones wedi 'sgwennu 10 nofel dditectif

  • Cyhoeddwyd

Mae awdur o Gymru wedi cael ei ysbrydoli i ddysgu Cymraeg... ar ôl iddo symud i'r Eidal.

Roedd Philip Gwynne Jones yn teimlo ei fod wedi colli cysylltiad gyda'i famwlad wedi marwolaeth ei rieni ac felly fe benderfynodd ddysgu'r iaith.

A 14 mis yn ddiweddarach mae'n gallu siarad yr iaith yn hyderus ac yn gwrando ar Radio Cymru a gwylio S4C yn ddyddiol.

Symud i'r Eidal

Fe symudodd Philip a'i wraig i'r Eidal yn 2012 wedi iddo golli ei waith yn ystod yr argyfwng economaidd.

Aeth i Fenis i ddysgu Saesneg i Eidalwyr ac mae o bellach yn awdur nofelau ditectif wedi eu lleoli yn y ddinas fyd-enwog.

Wedi ei fagu yn Abertawe, Dinbych y Pysgod a Phenfro, roedd wedi dysgu Cymraeg pan oedd o yn yr ysgol yn yr 1980au.

Ond roedd yn Gymraeg ffurfiol, meddai, a doedd o methu sgwrsio yn yr iaith - ac roedd pedwar degawd wedi mynd heibio.

"Ar ôl marw fy mam a fy nhad, 'nes i sylweddoli does dim perthnasau 'da fi yng Nghymru nawr a dwi'n moyn cadw cysylltiad gyda Chymru, a nes i benderfynu dysgu Cymraeg ar-lein," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

"Nes i ddechrau gyda Duolingo wrth gwrs - ond a bod yn onest, dwi ddim yn hoff iawn o Duolingo.

"Nes i ddysgu gyda Say Something in Welsh - dwi'n hoffi Say Something in Welsh, mae'n ffantastig - a dysgu Cymraeg ar-lein.

"Ond y peth pwysicaf i fi ydi bob dydd dwi'n gwrando ar Radio Cymru, dwi'n gwylio S4C, darllen newyddion, darllen papur newydd a dwi'n teimlo mai darllen, edrych ar y teledu a gwrando ar radio ydi'r peth pwysicaf."

FenisFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cartref Philip ers 14 mlynedd ydi lleoliad ei nofelau ditectif

Heblaw am yr anhawster o ddysgu iaith ac yntau'n byw mewn gwlad arall, mae'n anodd iddo hefyd gan ei fod yn siarad Saesneg ac Eidaleg bob dydd.

"Dwi'n meddwl yn Eidaleg wrth gwrs felly, pan dwi'n trio siarad Cymraeg, dwi'n cymysgu tipyn bach Cymraeg, tipyn bach Eidaleg a tipyn bach Saesneg wrth gwrs," meddai.

Mae Philip wedi sgwennu 10 o nofelau ditectif sydd wedi eu lleoli yn yr Eidal.

Y prif gymeriad ydi Nathan Sutherland ac fe wnaeth ei nofel gyntaf, The Venetian Game gyrraedd rhif 2 yn siart ffuglen clawr meddal papur newydd The Times.

Felly nawr bod Philip wedi dysgu Cymraeg cystal mewn ychydig dros flwyddyn, oes uchelgais i sgwennu nofel Gymraeg?

Meddai: "Dwi'n joio y cyfle i sgwennu yn Gymraeg ond dysgwr ydw i wrth gwrs - efallai yn y dyfodol!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.