'Dim geiriau i ddisgrifio' effeithiau ymosodiad gan gi ar ŵyn bach

Anwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anwen Hughes "nad oedd geiriau i ddisgrifio" effeithiau'r ymosodiad ar ei phraidd

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Fe allai cynnwys y stori hon beri gofid

Mae ffarmwraig o Geredigion wedi sôn am y profiad erchyll o weld ŵyn bach wedi eu rhwygo yn ddarnau yn dilyn ymosodiad gan gi llynedd.

Yn ôl Anwen Hughes o Lanarth ger Aberaeron, mae ffermwyr yn "dathlu" bod yr heddlu yn cael mwy o bwerau'r wythnos hon i fynd i'r afael â chŵn sy'n ymosod ar dda byw.

Fe fydd y pwerau, sy'n dod i rym ddydd Mercher yng Nghymru a Lloegr, yn diweddaru Deddf Cŵn (Amddiffyn Da Byw) 1953.

Fe fydd swyddogion yn medru meddiannu cŵn, codi costau am eu cadw mewn cwb, a chymryd samplau DNA o anifeiliaid sy'n cael eu hamau o ymosod ar stoc.

Fe fydd modd rhoi dirwy amhenodol hefyd i berchnogion, yn hytrach na'r uchafswm presennol o £1000.

Dafad gydag anafFfynhonnell y llun, Anwen Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ŵyn bach gafodd ei anafu gan gi ar fferm Anwen Hughes yn 2025

Yn ôl ystadegau Heddlu Dyfed Powys, roedd yna oleia' 60 o ymosodiadau gan gŵn ar stoc yn 2025.

Mae ystadegau Heddlu'r Gogledd yn dangos bod yna 90 o ymosodiadau tebyg , dolen allanolwedi bod yn ardal y llu yn ystod yr un flwyddyn.

Roedd yna golledion stoc gwerth £2m ar draws y Deyrnas Gyfunol y llynedd yn dilyn ymosodiadau gan gŵn yn ôl yr NFU, dolen allanol.

Cafodd Anwen Hughes, Is-lywydd rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, y profiad o ddarganfod tri o ŵyn y llynedd oedd wedi cael eu rheibio gan gi.

"Roedden ni wedi cael hwyl reit dda ar yr wyna ac mi ddes i lawr un noswaith a ffeindio tri oen wedi cael eu lladd gan gi.

"Mae yna lwybr cyhoeddus i gael o dan y fferm. Roedd pobl leol yn dweud bod yna gŵn oddi ar y tennyn yn gyson.

"Ni'n gwybod mai pobl ifanc oedd gyda'r ci oedd yn rhydd, ond 'da ni ddim wedi cael hyd i'r plant yna oedd yn berchen ar y ci."

Effaith seicolegol sylweddol

Dywedodd Anwen ei bod hi wedi colli defaid yn y gorffennol yn sgil ymosodiadau gan gŵn, a bod yr effaith seicolegol ar ffermwyr yn sylweddol.

"Does dim geiriau i ddisgrifio fe," meddai.

"Ystyriwch beth mae cŵn yn medru gwneud. Meddyliwch sut byddech chi yn hoffi, petasech chi yn mynd i'r cae, a gweld oen neu ddefaid wedi cael eu rhwygo ar agor.

"Roedd oen wedi cael ei ladd ac roeddwn i yn gallu gweld y galon yn curo tu fewn.

"Petasech chi fel perchennog ci, yn gweld hwnna, dwi'n meddwl basech chi yn meddwl dwywaith am adael ci oddi ar y tennyn."

cae gyda defaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwybr cyhoeddus yn rhedeg trwy goedwig sy'n agos iawn at fferm Anwen a'i theulu yn Llanarth ger Aberaeron

Mae'r Arolygydd Matthew Howells o Heddlu Dyfed Powys yn aelod o'r tîm troseddau cefn gwlad yn Heddlu Dyfed Powys.

Mae'n dweud ei bod hi wedi cymryd "sawl blwyddyn" i gyflwyno'r newidiadau diolch i ymdrechion Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, Rob Taylor.

"Mae gyda ni'r pŵer i feddiannu ci sydd wedi bod yn cwrso defaid neu wartheg. Mae pŵer gyda ni i gael gwarant i fynd mewn i dŷ rhywun sy'n berchen y ci er mwyn cymryd sampl DNA neu fynd â'r ci o'r cyfeiriad.

"Mae pwerau gyda'r llys hefyd i roi unlimited fine. Mae hynny yn mynd i fod yn deterrent mawr gobeithio 'ny."

Dywedodd ei fod weithiau yn synnu at agweddau perchnogion cŵn.

"Mae pobl yn meddwl dyw Rover bach nhw ddim am wneud dim byd. Chwarae mae'r ci yn gwneud ond yn anffodus, mae'n gallu hala defaid i redeg mewn i afonydd, maen nhw yn mogu ac yn y blaen.

"Mae'n rhaid bod mwy o addysg a deterrent. Ni hefyd yn gallu cynnig cwrs 'ymddygiad cyfrifol i berchnogion cŵn' os nad yw nhw unigolion yn cael eu herlyn."

Fe fydd y pwerau newydd yn ymestyn y ddeddf i gynnwys ymosodiadau ar ffyrdd a llwybrau, ac yn cynnwys anifeilaid fel lamas ac alpacas am y tro cyntaf.

Arolygydd Matthew Howells
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arolygydd Matthew Howells o Heddlu Dyfed Powys yn gobeithio y bydd y pwerau yn fodd o atal ymosodiadau yn y dyfodol

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi lansio strategaeth newydd i daclo troseddu gwledig gyda'r nod o "gryfhau'r berthynas" yng nghefn gwlad yn ôl Matthew Howells.

"Mae'n dangos bod ni yn cymryd troseddau yng nghefn gwlad o ddifrif.

"Ni eisiau ceisio lleihau troseddau yng nghefn gwlad a heddlu sydd â'r sgiliau i ddelio gyda hynny. Ni eisiau dangos i'r ffermwyr bod ni yna."

Yn ôl Anwen Hughes mae'r pwerau newydd i daclo ymosodiadau gan gŵn i'w croesawu.

"Ni fel ffermwyr yn dathlu. Mae e wedi bod yn 10 mlynedd o ni'n brwydro gyda San Steffan i gael hyn drwyddo. Mae e fel golau ar ddiwedd y twnel."

Pynciau cysylltiedig