Rhybudd yn erbyn gwahardd rasio milgwn wedi ei anwybyddu gan y llywodraeth

- Cyhoeddwyd
Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwrw ymlaen â gwaharddiad ar rasio milgwn er gwaethaf y ffaith bod swyddogion wedi rhybuddio yn erbyn y penderfyniad y llynedd, mae dogfennau wedi datgelu.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio pasio bil fydd yn gwahardd yr arfer ddydd Mawrth, ond mae'r ddeddfwriaeth yn wynebu her gyfreithiol ymysg cyhuddiadau nad oedd gweinidogion wedi cael eu hymgynghori'n iawn.
Mae dogfennau nawr yn dangos bod gweision sifil wedi dweud wrth yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies y llynedd, y byddai'n well pe bai'r llywodraeth yn trwyddedu perchnogion milgwn rasio.
Dywedon nhw nad oedd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau gwaharddiad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na ellir gwneud sylw tra bod yr achos cyfreithiol yn parhau.
Gwleidyddion yn beirniadu deddf gwahardd rasio milgwn
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Rasio milgwn i gael ei wahardd 'cyn gynted ag sy'n bosib'
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2025
Galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
Mae grwpiau lles anifeiliaid yn mynnu bod y gamp yn cael ei gwahardd, gan ddweud ei fod yn beryglus a bod miloedd o filgwn wedi marw yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i rasio yn y Deyrnas Unedig.
Fe benderfynodd Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda gwaharddiad fel rhan o'r cytundeb gyda'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds i basio eu cyllideb y llynedd.
Dim ond un trac sydd yng Nghymru - Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach.
Wrth roi cyngor i Huw Irranca-Davies, roedd swyddogion yn rhagweld bod 'na "risg uchel" y gallai'r ddeddfwriaeth gael ei herio yn y llysoedd.
Fe gafodd cais Bwrdd Milgwn Prydain am adolygiad barnwrol ei glywed yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl dyfarniad ymhen ychydig wythnosau.
Mae Bwrdd Milgwn Prydain yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â chynnal ymgynghoriad yn gyfreithlon ac maen nhw'n gobeithio gallu diddymu'r gwaharddiad, hyd yn oed os caiff ei basio yn y Senedd.
Fe wnaeth yr ysgrifennydd materion gwledig gyhoeddi'r polisi ar 18 Chwefror 2025, ddiwrnod ar ôl iddo dderbyn y cyngor gan y gwasanaeth sifil.

Mewn ymgynghoriad ar les anifeiliaid yn 2024 roedd yna gefnogaeth gan y rhan fwyaf i wahardd rasio milgwn yn raddol
Mae'r cyngor, ddaeth i law Bwrdd Milgwn Prydain yn ystod yr achos llys yn trafod sawl opsiwn, gan gynnwys cynllun i ddatblygu trwyddedau ar gyfer perchnogion rasio milgwn.
Dyma oedd argymhelliad y swyddogion, gan ddweud mai dyma fyddai'n darparu'r "cydbwysedd gorau o ran buddiannau lles" i'r cŵn.
Fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar les anifeiliaid yn 2024, ac roedd yna gefnogaeth gan y rhan fwyaf o ymatebwyr i waharddiad graddol ar rasio milgwn.
Ond dywedodd swyddogion wrth yr ysgrifennydd, "nad oedd y dystiolaeth a chafodd ei gyflwyno yn ddigon cadarn i gefnogi penderfyniad pendant" a'u bod yn bennaf yn cynnwys "astudiaethau achos anecdotaidd a chrynodebau o bryderon lles sy'n gysylltiedig â rasio milgwn masnachol".
Dywedodd swyddogion nad oedd y dystiolaeth i'r ymgynghoriad yna "yn darparu digon o dystiolaeth gadarn i gyfiawnhau neu wrthod gwaharddiad graddol ar sail lles".

Byddai deddfwriaeth yn golygu cau trac milgwn olaf Cymru yn Ystrad Mynach, Sir Caerffili
Yn ôl y cyngor, byddai gwaharddiad yn peryglu enw da Llywodraeth Cymru, oherwydd diffyg ymgynghoriad perthnasol, gyda swyddogion yn rhybuddio am "ddiffyg democrataidd" pe bai gweinidogion yn bwrw ymlaen â'r cynllun.
Dywedodd Mark Bird, prif weithredwr Bwrdd Milgwn Prydain, fod gweinidogion "wedi dewis mynd ar drywydd y bil camarweiniol ac amheus hwn hyd yn oed tra bod swyddogion yn dweud wrthynt nad oedd digon o ymgynghori na thystiolaeth i'w gefnogi".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gan fod hwn yn ymgyfreithiad cyfredol ac rydym yn aros am farn y llys, ni fyddai'n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Ddydd Mawrth bydd Senedd Cymru'n penderfynu a ddylid pasio deddfwriaeth a fyddai'n gwahardd rasio milgwn dim cynt nag 1 Ebrill 2027 a dim hwyrach nag 1 Ebrill 2030.
Dywedodd Cut the Chase Coalition - grŵp o sefydliadau lles anifeiliaid, fod deiseb ar wahardd rasio milgwn wedi derbyn mwy na 35,000 o lofnodion yn flaenorol.
'Mae hyn yn annerbyniol'
Yn ôl Owen Sharp, prif weithredwr Dogs Trust: "Dros y chwe blynedd diwethaf, mae mwy na 2,700 o gŵn wedi colli eu bywydau yn y DU yn enw adloniant, gyda llawer mwy yn dioddef anafiadau difrifol neu anafiadau sydd wedi newid eu bywydau.
"Mae hyn yn annerbyniol, ac rydym yn falch bod y Senedd yn barod i gymryd camau pendant i atal marwolaethau ac anafiadau pellach."
Dywedodd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds y byddai pasio'r gyfraith yn "gwneud datganiad clir am y math o Gymru yr ydym eisiau adeiladu - cenedl dosturiol sy'n cymryd lles anifeiliaid o ddifrif ac yn gweithredu ar y dystiolaeth a roddir o'i blaen".
Mae disgwyl i ASau Llafur gefnogi'r ddeddfwriaeth, tra bod disgwyl i wleidyddion o Blaid Cymru, y Ceidwadwyr a Reform gael pleidlais rydd.
Mae'r mesur wedi pasio'r camau blaenorol yn y Senedd gyda chefnogaeth gan aelodau Plaid Cymru a'r Ceidwadwr Altaf Hussain - pe bai hynny'n digwydd eto, yna mae'r ddeddfwriaeth yn debygol o basio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.