'Dio'm yn lot nadi?' - Teuluoedd yn ymateb i gymorth olew gwresogi

Fe gafodd Gwenllian Evans ddyfynbris o "£476 am 500 litr ac o'n i methu fforddio hwnnw, felly oedd raid i fi ddeud na"
- Cyhoeddwyd
Bydd aelwydydd Cymru sy'n defnyddio olew gwresogi yn derbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU.
Bydd £3.8m i gefnogi teuluoedd yng Nghymru oherwydd y cynnydd sydyn ym mhris olew o ganlyniad i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Yn wahanol i ddefnyddwyr sy'n defnyddio nwy a thrydan ar gyfer gwresogi a dŵr poeth, nid yw prisiau aelwydydd sy'n defnyddio olew wedi'u capio gan y rheoleiddiwr Ofgem.
Mae'r cymorth yn rhan o becyn gwerth £53m ar gyfer aelwydydd ledled y DU.
Ond mae sawl un yn poeni na fydd pawb sydd angen cymorth yn ei dderbyn.
Dywed y llywodraeth y bydd yn "targedu" ei chefnogaeth i helpu aelwydydd incwm isel mewn cymunedau gwledig sydd wedi eu heffeithio.

"Dwi wir ddim ishe'r olew redeg allan achos unwaith fydd o allan, dyna ni", meddai Gwenllian
Mae Gwenllian Evans yn byw yn ardal Llanbrynmair yn y canolbarth gyda'i phlant, sy'n saith a dwy oed, ac mae wedi dal yn ôl rhag prynu tanwydd oherwydd y pris.
"Roedd Mam 'di ordro olew ar 5 Chwefror am bris normal, tua £300, felly o'n i'n meddwl, fydde fo ddim 'di mynd fyny lot.
"Mi wnes i ffonio am olew tua dwy wythnos yn ôl a chael quote £476 am 500 litr ac o'n i methu fforddio hwnnw, felly oedd raid i fi ddeud 'na', a safio pa olew sy gennai.
"Os o'n i'n ordro am heddiw a chael quote a bod o'n cael ei delivero wythnos nesaf, a bod y pris 'di mynd fyny, bydde raid i fi dalu be bynnag 'di'r pris ar ddiwrnod y delivery!"
Mae Gwenllian yn dweud bod ganddi rhyw chwarter tanc ar ôl, a'i bwriad ydi trio defnyddio cyn lleied â phosib, "a gobeithio, yn yr haf, bydd y prisiau wedi dod lawr".
Ychwanegodd Gwenllian: "Dwi hefyd yn defnyddio'r olew i gynhesu dŵr yn y tŷ, felly dwi rŵan yn gorfod planio, os 'di un o'r plant yn cael bath, ni gyd yn cael bath a showers ar yr un noson fel bo fi ddim yn rhoi y dŵr poeth mlaen o hyd.
"Mae'r gwres mond yn dod mlaen rŵan hefyd am un awr yn y bore ac un awr yn y nos, a 'na i gyd ni'n cael."
"Dwi wir ddim ishe'r olew redeg allan achos unwaith fydd o allan, dyna ni!"
Dywedodd Syr Keir Starmer mai olew oedd unig ffynhonnell gwres canolog tua 3% o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl Cyfrifiad 2021, a 5% o aelwydydd yn Yr Alban.
Yn Lloegr, bydd yr arian ychwanegol yn cael ei ddosbarthu gan awdurdodau lleol.
Yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon bydd yr arian yn cael ei ddyrannu'n uniongyrchol i'r llywodraethau datganoledig, "gyda'r disgwyliad y bydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi aelwydydd agored i niwed", meddai'r llywodraeth.
Bydd Gogledd Iwerddon yn derbyn £17m, Lloegr £27m, yr Alban £4.6m a Chymru £3.8m.
'Mae'n gêm o aros!'
Mae Gwenda James a'i gŵr, sy'n byw yn ardal Llandre ger Aberystwyth, wedi bod yn "cadw llygad ar y pris drwy'r gaeaf" gan wybod y bydd angen prynu yn fuan.
Mae'r cwpl wedi bod yn defnyddio gwefan cymharu prisiau tanwydd ac ers dechrau'r rhyfel, mae'r prisiau wedi cynyddu'n fawr.
"Edrychon ni rhyw bythefnos i ddydd Mercher, yn gynnar yn y bore, ac roedd o'n 58c/l, erbyn amser cinio, wnaethon ni checio eto ac oedd o di mynd fyny i 60c/l, erbyn 13:00, 65c/l, ac erbyn 16:00, 75c/l."
"Dydd Gwener diwethaf, fe checion ni eto ac roedd o'n £1.47/l ac erbyn heddiw, doedd y cwmni ddim yn rhoi'r pris i fyny ar y wefan!"

Mae Gwenda James wedi bod yn defnyddio gwefan cymharu prisiau tanwydd i gadw llygad ar y prisiau
Bydd angen yr olew arnyn nhw o fewn yr wythnosau nesaf, ond "mae'n gêm o aros", meddai
"Lwcus bod yr haf yn dod, ni'n medru aros heb roi'r gwres ymlaen tan tua 18:00 neu 19:00 erbyn hyn, ond da ni dal angen yr olew i gynhesu'r dŵr, mae eisiau cawodydd ac ati."
Mae Gwenda hefyd yn teimlo bod y cynnydd ym mhris olew yn cael effaith ar gludiant nwyddau ac yn y pen draw ar brisiau bwyd.
"Dwi'n gweld yn barod bod pris bara wedi codi, mae blawd wedi codi a menyn hefyd. Dwi'n coginio 'chydig a dwi'n cadw llygad ar be di'r prisiau ac mae wyau, erbyn hyn, wedi mynd yn gythreulig o ddrud!"
'Heriau digynsail' y diwydiant olew gwresogi wrth i brisiau ddyblu
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Mae Chris Edwards o gwmni tanwydd Banwy Fuels yn dweud bod nifer yr archebion wedi bod yn anghredadwy.
Derbynion nhw 1,000 o archebion ar y dydd Llun cyntaf wedi dechrau'r rhyfel.
Maen nhw yn ceisio helpu'u cwsmeriaid erbyn hyn drwy leihau y lleiafswm archeb o 500 litr i 350 litr.
Wrth gyhoeddi'r gefnogaeth, dywedodd Syr Keir Starmer fod rheoleiddiwr cystadleuaeth y DU wedi tynnu sylw at adroddiadau am archebion wedi'u canslo a phrisiau'n cael eu gwthio i fyny.
"Os yw'r cwmnïau wedi torri'r gyfraith, bydd camau cyfreithiol," meddai Syr Keir.
Dywedodd hefyd y byddai'r llywodraeth yn parhau i weithio tuag at "ddatrysiad cyflym" i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol "oherwydd does dim cwestiwn mai dod â'r rhyfel i ben yw'r ffordd gyflymaf o leihau cost byw".
'Angen ystyried pobl y wlad'
Yn ymateb i'r cyhoeddiad o gymorth ariannol, dywedodd Gwenda James y byddai'n hoffi petai mwy o ystyriaeth yn cael ei roi i bobl sy'n byw yn y wlad.
"Yng nghanolbarth Cymru, mae pob dim yn gorffen yn Bangor, Caernarfon neu yng Nghaerfyrddin. Does 'na ddim byd wedyn," meddai.
"Petai na cap ar y prisiau, falle byddai hynny'n bach o help."
Yn ôl Gwenllian Evans: “Erbyn i'r arian yna gael ei rannu allan, dio'm yn lot nadi? £50 yr un falle?!"

Mewn ymateb, dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru bod y blaid yn croesawu "cydnabyddiaeth" Llywodraeth y DU o'r pwysau ar aelwydydd ag olew gwresogi ond yn ofni "fel y mae pethau, ni fydd llawer o aelwydydd gwledig yn derbyn unrhyw gymorth oherwydd ble maen nhw'n byw".
Byddai hynny, meddai, yn "cael effaith arbennig o wael ar Gymru wrth i ni ddod allan o aeaf llwm".
Mae'n bryder hefyd gan David Chadwick o'r Democratiaid Ryddfrydol na fydd pawb sydd angen cymorth yn ei dderbyn.
"Olew gwresogi yw'r math o danwydd sy'n cael y rhan fwyaf o'r sylw, ond mae llawer o fy etholwyr hefyd wedi cysylltu â mi i ddweud ein bod yn ddibynnol ar LPG, na chafodd gefnogaeth y tro diwethaf, neu roedd yn hwyr iawn yn dod," dywedodd ar Radio Wales cyn y cyhoeddiad.
Mae hefyd yn galw am "gyflwyno cap pris i roi rhywfaint o amddiffyniad i ddefnyddwyr gwledig yn erbyn y cynnydd mewn prisiau y maen nhw'n eu hwynebu".
'Adroddiadau o ladrata olew yn destun pryder mawr'
Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn galw am fwy o gefnogaeth ac adnoddau i'r heddlu er mwyn atal lladradau olew gwresogi.
"Mae'n destun pryder mawr clywed bod lladron yn ceisio elwa ar gefn cynnydd mewn prisiau olew gwresogi," dywedodd yr Aelod o'r Senedd.
"Mae swyddogion sy'n gwasanaethu cymunedau gwledig yn gweithio'n anhygoel o galed, ond mae angen cefnogaeth ac adnoddau arnynt i amddiffyn rhag y bygythiad hwn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.