'Heriau digynsail' y diwydiant olew gwresogi wrth i brisiau ddyblu

Llun tanc olew
Disgrifiad o’r llun,

Mae pris olew wedi cynyddu'r sylweddol ers dechrau'r rhyfel yn y Dwyrain Canol

GanAled Scourfield
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl yng ngorllewin Cymru sy'n dibynnu ar olew er mwyn gwresogi eu tai yn dweud eu bod yn cael trafferth archebu tanwydd wrth i brisiau a chyflenwadau gael eu heffeithio gan y rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Mae rhai wedi gweld archebion yn cael eu canslo'n ddisymwth wrth i brisiau gynyddu ers dechrau'r rhyfel gan America ac Israel yn erbyn Iran.

Roedd y cwsmeriaid wedi archebu'r olew trwy'r brocer Boilerjuice, ac mae prif weithredwr y cwmni, Tim Buckman, yn dweud bod y diwydiant yn wynebu "heriau digynsail" ar hyn o bryd.

Mae pris olew gwresogi wedi cynyddu o 60 ceiniog y litr i dros £1.30 y litr ers dechrau'r rhyfel.

Annog cwsmeriaid i 'beidio â phrynu mewn panig'

Dywedodd Barrie Smith o Langwm yn Sir Benfro wrth Newyddion S4C: "Ar y dydd Gwener, cyn y rhyfel, fe wnes i archeb drwy wefan Boilerjuice am 500 litr o olew.

"Fe ges i gadarnhad ac fe wnes i daliad am yr olew.

"Fe ges i e-bost o gadarnhad ar y dydd Llun, oedd yn dweud y byddai'r olew yn dod ddydd Iau diwethaf.

"Ar y dydd Iau, fe dderbyniais i e-bost yn dweud bod yr archeb wedi ei chanslo."

Llun Barry Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd archeb Barrie Smith am olew ei ganslo yn ddirybudd

Nid Mr Smith yw'r unig gwsmer i gysylltu o orllewin Cymru yn rhannu profiad tebyg.

Cwmni DJ Davies o Rydaman oedd i fod i ddosbarthu'r olew ar ran Boilerjuice.

Dywedodd y cwmni bod "problemau gyda chyflenwadau o'r burfa olew".

"Ni'n cael casglu llai a llai o olew o'r burfa, ac mae hyn yn effeithio ar ein gallu i weithredu a chwmnïau eraill.

"Mae hyn wedi golygu ein bod ni wedi gorfod canslo archebion a wnaed drwy wefan Boilerjuice, am ein bod ni yn cael cosb ariannol os nad yw archebion yn cael eu cwblhau o fewn terfyn amser penodol.

"Rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â phrynu mewn panig."

'Angen mwy o reolaeth'

Mae Mr Smith yn dweud ei fod yn flin gyda chwmni Boilerjuice am beidio â rhoi gwybod iddo yn gynt am y problemau gyda dosbarthwyr lleol, ac mae wedi gwneud cwyn swyddogol am yr oedi cyn rhoi gwybod iddo nad oedd modd cwblhau'r archeb.

Ychwanegodd ei fod wedi clywed gan nifer fawr o gwsmeriaid sydd wedi cael eu siomi.

Dywedodd: "Mae angen mwy o reolaeth yn y diwydiant. Mae pobl yn ddibynnol ar olew gwresogi.

"Diolch byth bod y gwanwyn a'r haf ar ein gwarthau.

"Rwy'n arswydo wrth feddwl beth fyddai'r sefyllfa yn yr Hydref.

"Rwy'n meddwl taw'r cymorth mwyaf gall bobl roi nawr yw i beidio â phrynu mewn panig."

Dywedodd Tim Buckman, Prif Weithredwr Boilerjuice, bod y wefan yn gweithredu fel "marchnad" ar-lein sydd yn cysylltu cwmnïau lleol gyda chwsmeriaid.

Nid oedd yn fodlon ymateb i gwynion unigol.

"Mae archebion yn cael eu gwneud drwy blatfform Boilerjuice, a'r dosbarthydd lleol sydd yn gyfrifol am osod y pris a chadarnhau amseroedd dosbarthu.

"Mae'r mwyafrif o archebion yn cael eu cwblhau yn ôl yr arfer, ond mae yna beth oedi a phroblemau yn sgil yr amodau presennol ar y farchnad ryngwladol, ac rydym yn gwneud ein gorau i geisio cefnogi cwsmeriaid a chyflenwyr ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r rhain yn heriau digynsail ac yn amser heriol iawn i gwsmeriaid a chyflenwyr. Mae prisiau olew yn amrywio 20% bob dydd, ac mae'r galw hefyd yn uchel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig