Gwleidyddion yn beirniadu deddf gwahardd rasio milgwn

Mae pwyllgor diwylliant y Senedd wedi bod yn craffu ar gynlluniau i ddirwyn y gamp i ben yng Nghymru erbyn 2030
- Cyhoeddwyd
Mae deddf arfaethedig i wahardd rasio milgwn yng Nghymru wedi cael ei beirniadu'n hallt gan grŵp trawsbleidiol o wleidyddion.
Mae pwyllgor y Senedd yn dweud bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys "tystiolaeth anghyflawn a dadleuol" a "diffyg data cadarn".
Yr wythnos diwethaf, cafodd Bwrdd Milgwn Prydain ganiatâd i herio'r gwaharddiad yn yr Uchel Lys, gan gyhuddo gweinidogion o beidio â dilyn y broses gywir.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "adolygu'n ofalus" argymhellion y pwyllgor ac yn "ymateb maes o law".
Mae pwyllgor diwylliant y Senedd wedi bod yn craffu ar gynlluniau i ddirwyn y gamp i ben yng Nghymru erbyn 2030.
Roedd gweinidogion wedi cytuno i'r gwaharddiad fel rhan o gytundeb gyda'r Democrat Rhyddfrydol, Jane Dodds, i basio eu cynlluniau gwariant.
Byddai deddfwriaeth, sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd ym Mae Caerdydd, yn cau trac milgwn olaf Cymru yn Ystrad Mynach, Sir Caerffili.
Mae'r rhai sy'n cefnogi gwaharddiad yn dweud bod rasio yn beryglus i'r cŵn.
Mae'r pwyllgor yn dweud ei fod yn "cydnabod y pryderon difrifol a godwyd ynghylch anafiadau, marwolaethau a lles", ond "mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi mabwysiadu dull mwy trylwyr, a arweinir gan dystiolaeth, wrth gyflwyno deddfwriaeth".
Ychwanegodd bod amserlen fyrrach i gyflwyno'r gyfraith yn golygu nad oedd digon o amser i gael "atebion amserol i gwestiynau allweddol, a bod rhywfaint o ddryswch wedi parhau".

Mae'r rhai sy'n cefnogi gwaharddiad yn dweud bod rasio yn beryglus i'r cŵn.
"Nid dyna'r ffordd o wneud cyfraith dda"
Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru, sy'n cadeirio'r pwyllgor: "Rydym i gyd yn cytuno bod rhaid i les anifeiliaid fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniad ynghylch rasio milgwn, ond mae diffyg tystiolaeth glir wedi gwneud y gwaith o graffu ar y Bil yn anoddach.
"Gofynnwyd i ni graffu ar Fil gyda thystiolaeth anghyflawn a dadleuol, ac o fewn amserlen fyrrach. Nid dyna'r ffordd o wneud cyfraith dda.
"Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cymryd mwy o amser i gasglu data cadarn ac ymgynghori'n eang."

Byddai deddfwriaeth yn golygu cau trac milgwn olaf Cymru yn Ystrad Mynach, sir Caerffili.
Ychwanegodd Delyth Jewell AS: "Clywsom bryderon difrifol am anafiadau, marwolaethau a phroblemau lles systemig na allai rheoleiddio byth eu datrys yn llawn.
"Ar yr un pryd, rhaid inni gydnabod yr effaith bosibl ar y rhai y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y gamp ac nid yw hyn wedi'i asesu'n llawn eto."
Diolchodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y pwyllgor am eu hadroddiad, gan ychwanegu y byddant yn "adolygu'r argymhellion yn ofalus ac yn ymateb maes o law".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
