Addo cyflymu prosiectau ynni gwyrdd wedi rhybudd bod Cymru 'ar ei hôl hi'

Mae rhybudd bod Cymru "ar ei hôl hi" ar gynlluniau ynni gwyrddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd bod Cymru "ar ei hôl hi" ar gynlluniau ynni gwyrdd

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n addo cyflymu'r gwaith o sefydlu prosiectau ynni gwyrdd fel rhan o fargen newydd â'r diwydiant.

Daw yn dilyn rhybudd gan y sector bod Cymru "ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU" wrth adeiladu cynlluniau fel ffermydd gwynt a solar.

Cafodd digon o ynni adnewyddadwy ei gynhyrchu yng Nghymru yn 2024 i gyflenwi 54% o anghenion trydan y wlad, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae gweinidogion am gyrraedd 100% erbyn 2035, gan nodi bod effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar brisiau olew a nwy yn tanlinellu pwysigrwydd "bod yn annibynnol o ran ynni".

Mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn dweud na ddylai tyrbeini mawr na chaeau o baneli solar gael eu gorfodi ar gymunedau, gan annog y llywodraeth i ganolbwyntio ar gynlluniau yn y môr.

Daw'r cyhoeddiad lai na deufis cyn etholiad y Senedd, gyda'r holl bleidiau sy'n cystadlu er mwyn llunio llywodraeth nesaf Cymru yn cynnig gweledigaethau gwahanol o ran dyfodol cyflenwadau ynni'r wlad.

Tyrbinau gwyntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn dweud na ddylid blaenoriaethu cynlluniau ynni gwynt ar y tir

Dywedodd y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd bod eu bargen newydd â'r sector ynni adnewyddadwy yn "bartneriaeth strategol" fyddai'n cyflymu'r gwaith o sicrhau mwy o brosiectau ynni gwynt, solar, morol a hydro.

Mae yna 78 o ymrwymiadau - o hwyluso'r broses gynllunio, i hyfforddi gweithwyr i fedru adeiladu a gweithredu'r cynlluniau newydd.

Pwysleisiodd bod datblygwyr a grwpiau cymunedol wedi bod ynghlwm â'r gwaith, gan sicrhau y byddai cymunedau lleol yn "mwynhau'r manteision" o brosiectau yn eu hardaloedd nhw.

Mae'r cyhoeddiad yn cael ei wneud ar Ynys Môn, ger pencadlys prosiect ynni llanw arloesol.

Mae Morlais - sy'n eiddo i fenter gymunedol Menter Môn ac wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru - yn darparu'r isadeiledd a'r cyswllt â'r grid fel bod datblygwyr yn medru gosod a threialu tyrbeini dan y môr.

Dyma'r fenter fwyaf o'i math yn Ewrop ar hyn o bryd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Rebecca Evans y gallai Cymru fod "yn arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy, gan greu swyddi a thwf gwyrdd".

"Mae'r gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol wedi tynnu sylw unwaith eto at bwysigrwydd bod yn annibynnol o ran ynni," meddai.

"Bydd ein Bargen ar gyfer y Sector Ynni Adnewyddadwy yn sicrhau sylfaen gadarn ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol – er budd ein heconomi, ein hamgylchedd a'n diogelwch ynni."

Mae arweinwyr y diwydiant wedi croesau'r cyhoeddiad, gyda Renewable UK Cymru yn dweud y byddai'n helpu sicrhau "cyfle gwerth £10bn i fusnesau Cymreig", 8,000 o swyddi a £183m mewn cyllid budd cymunedol.

Mewn adroddiad yn nodi galwadau'r sector ar y pleidiau cyn etholiad y Senedd, rhybuddiodd y corff bod Cymru'n methu cymryd mantais o'i "hadnoddau naturiol o safon fyd-eang".

"Yn ystod y degawd diwethaf mae'r Alban wedi sicrhau mwy na £18bn o fuddsoddiad newydd mewn ynni glan, tra bod Cymru wedi denu llai na £1bn," meddai.

Mae cynnydd yn y galw am drydan i gefnogi'r newid at gerbydau trydan, pympiau gwres, canolfannau data a diwydiannau AI yn golygu "heb gynnydd mawr mewn cynhyrchu pŵer glân, mae Cymru mewn perygl o filiau uwch, diogelwch ynni gwannach, a syrthio ymhellach ar ei hôl hi'n economaidd".

Tyrbin a gorsaf bwer tu olFfynhonnell y llun, Getty Images

Ond dywedodd Jonathan Dean, cadeirydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ar Ynys Môn, fod gweinidogion yn gwneud camgymeriad wrth wthio am fwy o ynni gwynt a solar ar y tir.

"Dy'n ni ddim yn dweud peidiwch ag adeiladu unrhyw beth ar dir - os yw cymunedau am weld hynny, grêt - ond does yna ddim angen mawr i wneud hynny," meddai, gan honni y gallai Cymru gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy drwy ganolbwyntio ar ffermydd gwynt mawr yn y môr.

"Dyw pobl ddim eisiau gweld fferm wynt enfawr uwch eu pennau yn eu pentref, ac iddyn nhw dyma'r peth mwya' yn eu bywydau ar hyn o bryd," meddai, gan ragweld y byddai'r pwnc yn uchel ar yr agenda yn ystod ymgyrch yr etholiad.

Beth mae'r pleidiau eraill yn ei ddweud?

Mae maniffesto Reform UK Cymru yn cynnwys gwaharddiad ar ffermydd gwynt a solar newydd ar y tir, gan ddweud eu bod yn "difetha cefn gwlad Cymru".

Dywedodd llefarydd fod y blaid hefyd wedi "cyhoeddi cynlluniau i leihau biliau ynni" trwy fynd i'r afael â chymorthdaliadau i'r sector ynni gwyrdd.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar ynni Samuel Kurtz AS bod rôl i ffynonellau adnewyddadwy yn y dyfodol, ar y cyd â "ffynonellau dibynadwy fel olew, nwy a niwclear".

"Y flaenoriaeth yw sicrhau bod y prosiectau yma yn cynnig allbynnau go iawn: swyddi a sgiliau, buddsoddiad a buddion clir i gymunedau lleol."

Mae'r blaid wedi ymrwymo i gefnogi twf ynni morol, gan gynnwys ffermydd gwynt sy'n arnofio, tra'n manteisio ar gyfleoedd i'r diwydiant niwclear yn Wylfa a Thrawsfynydd, meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Jane Dodds AS bod bargen newydd y llywodraeth yn arwain at "fwy o gwestiynau nag atebion".

"Does yna ddim cynllun clir o ran sut ydyn ni'n adeiladu'r gweithlu sydd ei angen, dim manylder o ran hyfforddiant, sgiliau na phrentisiaethau," meddai.

"Mae gweinidogion hefyd yn addo buddion i gymunedau, heb osod safonau, isafswm na gorfodaeth - felly does 'na ddim gwarantu y bydd pobl leol yn elwa."

Dywedodd llefarydd ynni Plaid Cymru Luke Fletcher AS y byddai'r blaid yn "adeiladu partneriaethau newydd rhwng llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol" yn ystod eu 100 diwrnod cyntaf mewn llywodraeth, gan ddatblygu "Trydan Gwyrdd Cymru i fod yn un cwmni ynni cyfunol fydd yn datblygu ynni adnewyddadwy ac yn helpu lleihau biliau".

"Mae pobl Cymru a'r sector ynni adnewyddadwy yn iawn i gwestiynu pam fod Llafur wedi bod heb strategaeth a heb gynlluniau go iawn ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy yn ystod eu cyfnod o 27 mlynedd mewn grym."

Dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru Anthony Slaughter bod pleidiau eraill yn ceisio efelychu'r Gwyrddion nawr eu bod yn codi yn arolygon barn.

"Mae'r targedau yn y cynllun hwn wedi eu codi yn syth o faniffesto'r Blaid Werdd - arwydd clir bod ein hapêl yn tyfu chwe wythnos cyn etholiad y Senedd," meddai.

"Maen nhw ond yn gwneud hyn dan bwysau - mae'r Gwyrddion yn ddidwyll o ran credu bod ynni adnewyddadwy yn medru cyflawni ar gyfer newid hinsawdd ond wrth leihau biliau pobl hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.