Mam o Wynedd yn troi at Tiktok am gefnogaeth ar ôl colli babi

Mae gan Alaw 30,000 o ddilynwyr ar TikTok ar ôl iddi rannu ei phrofiad ar y wefan o golli'i babi'n gynnar
- Cyhoeddwyd
Mae merch ifanc o Wynedd yn dweud nad oes digon o gefnogaeth i'r rhai sy'n colli babi'n gynnar a bod gormod o stigma yn dal i fod ynghlwm â'r pwnc.
Mi benderfynodd Alaw Llyfni, o Benygroes, sôn am ei phrofiad diweddar ar wefan Tiktok.
A hithau gyda dros 30,000 o ddilynwyr, mae'r fideo wedi mynd ymhell a sawl un wedi cysylltu gyda hi'n rhannu eu profiadau hwythau.
Yn y cyfamser, mae elusen y Miscarriage Association wedi rhyddhau adroddiad sy'n casglu bod "anghysonderau mawr" yn y gofal a'r gefnogaeth ar draws y DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio ag elusennau i "safoni'r ddarpariaeth i bob teulu yng Nghymru".
'Mae o'n r'wbath rili unig'
Roedd Alaw 11 wythnos yn feichiog pan aeth hi am sgan a darganfod bod calon y babi wedi stopio curo yn y groth.
Roedd yn gyfnod torcalonnus iddi hi a'i phartner, Gwion.
"O'n i just mewn cymaint o sioc," meddai, "o'n i ddim isho derbyn bod o 'di digwydd.
"O'dd y gofal ges i ar y dydd yn wych - fedra' i ddim faultio nhw am hynna. Ond [wrth] symud ymlaen rŵan, dwi ddim rili'n gw'bod pa gefnogaeth sydd yna i fi."

Roedd Alaw 11 wythnos yn feichiog pan aeth hi am sgan a darganfod fod calon y babi wedi stopio curo yn y groth
Dywedodd Alaw ei bod yn "cael diwrnodau drwg weithiau".
"Mae o'n rwbath rili unig. Yn enwedig i'r mamau sy' 'di colli babi'n gynnar yn eu tymor, does 'na ddim digon o gefnogaeth yna.
"Mae o'n teimlo 'chydig bach fatha bo' ni 'di cael push i'r ochr.
"Fasa petha' bach fatha midwife yn ffonio ni ar ôl 'chydig wythnosau, neu bo' ni'n cael follow-up sgan, neu grwpiau i famau," meddai Alaw.
Pwnc 'mor sensitif i bobl'
A hithau'n ceisio dod i delerau hefo'r golled, penderfynodd Alaw droi at y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth a chefnogaeth.
"O'n i'n teimlo fatha: 'Be' dwi 'di 'neud yn wrong...', o'n i'n meddwl am bob dim o'n i 'di 'neud - petha' o'n i 'di fyta, petha' fel 'na.
"'Pam bod hyn 'di digwydd i fi...', tan i fi sylweddoli faint o bobl sy'n mynd trwy hyn bob diwrnod.
"Dwi'n dallt pam bo' pobl ddim eisiau siarad amdano fo, achos mae o mor sensitif i bobl.
"Ond hefyd dwi'n meddwl bod 'na stigma o'i gwmpas o, 'dio ddim yn r'wbath ti'n siarad amdan - bo' chdi 'di colli plentyn.
"Ond mae'n bwysig i bobl sylweddoli bo' pobl yn mynd drwyddo fo."

Alaw gyda'i phartner Gwion a'u merch, Nanw
Mae'r amcangyfrif o ran cyfraddau colli babi'n gynnar yn amrywio - gyda rhai elusennau'n dweud ei fod yn digwydd i un o bob chwech beichiogaeth ac eraill yn credu ei fod yn nes at chwarter.
Mae'n anodd gwybod yn union faint o achosion sydd yna am nad oes system ffurfiol i'w cofnodi a rhai merched ddim hyd yn oed yn sylweddoli eu bod yn disgwyl ar y pryd.
Mae elusennau fel Sands yn galw ers blynyddoedd am system gofnodi drwy'r DU a mwy o gydweithio rhwng y gwledydd datganoledig, er mwyn gallu cymharu data gwahanol ardaloedd dros amser.
'Pwysig cofnodi ar gyfer yr unigolyn'
Mae'r alwad honno'n cael ei chefnogi gan Fiona Hughes o Ynys Môn, a sefydlodd elusen Pluen Wen.
Mae'r elusen wedi bod yn ymgyrchu am dystysgrifau i fabanod oedd yn cael eu colli - waeth pa mor gynnar yn y beichiogrwydd - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo'n genedlaethol erbyn hyn.
"Mae'n bwysig cofnodi ar gyfer gwaith ymchwil," meddai Fiona.
"Mae teuluoedd ac unigolion angen gwybod bod 'na waith ymchwil yn mynd i gael ei wneud ar y data sy' wedi cael ei gasglu ym mhob dalgylch.
"Hefyd mae'n bwysig ar gyfer yr unigolyn yna sydd wedi profi'r golled, i wybod bod 'na gofnod swyddogol yn mynd i gael ei gadw."
Cwpl o Bwllheli 'ofn' geni babi yn y gogledd ar ôl profiad 'erchyll'
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
Tadau'n dweud bod iselder ôl-enedigol yn effeithio arnyn nhw hefyd
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2025
Yn ôl arolwg diweddar gan elusen y Miscarriage Association - a holodd dros 1,000 o bobl ar draws y DU - roedd 65% yn dweud na chawson nhw ddigon o ofal ar ôl colli plentyn, tra bod 68% wedi dioddef problemau iechyd meddwl, galar ac iselder.
Er bod enghreifftiau o ofal iechyd da, roedd 25.3% yn teimlo bod y gofal hwnnw'n anghyson ac yn amrywio rhwng ardaloedd.
Dywedodd Vicki Robinson, prif weithredwr y gymdeithas:
"Mae gormod o fenywod a'u partneriaid yn cael eu methu gan system sy'n anghyson, yn anghyfartal ac yn rhy aml yn cael ei phennu gan siawns neu amgylchiadau.
"Mae llawer o enghreifftiau o ofal da yn bodoli ac rydym yn gweithio i adeiladu ar y rhain trwy ein hyfforddiant arbenigol am ddim i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
"Ond pan fydd cefnogaeth yn dibynnu ar ble rydych chi, gyda phwy rydych chi'n siarad, neu ba mor dda y mae systemau'n cysylltu, mae gormod o bobl yn wynebu niwed corfforol ychwanegol a thrallod seicolegol parhaol ar adeg sydd eisoes yn anodd.
"Rhaid i newid fod yn systemig," ychwanegodd Ms Robinson.
'Profiad gofidus iawn'
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae "colli babi ar unrhyw gam o feichiogrwydd yn brofiad gofidus iawn" ac mae "pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cynnig cymorth emosiynol a chorfforol drwy'r Gwasanaeth Asesu Beichiogrwydd Cynnar."
Ychwanegon nhw: "Mae ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant yn nodi sut y byddwn yn mynd ati ar draws y llywodraeth i wella iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys cefnogi pobl sydd wedi profi profedigaeth.
"Rydym yn parhau i weithio gyda Sands i ddatblygu a gweithredu llwybrau gofal profedigaeth cenedlaethol ar gyfer camesgoriad, marw-enedigaeth a cholli babanod.
"Disgwylir i'r rhain gael eu cyhoeddi cyn bo hir a byddant yn safoni'r ddarpariaeth cymorth a gofal i bob teulu yng Nghymru."

Mae Alaw yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiad yn lleihau'r stigma presennol o amgylch siarad am golli plentyn yn gynnar
Yn y cyfamser, mae rhai fel Alaw yn awyddus i rannu eu profiad i wneud cyfnod tywyll fymryn yn haws i eraill.
"'Da ni'n lwcus iawn fod ganddo ni ein merch, Nanw fach.
"'Da ni bob tro 'di d'eud 'sa ni'n licio dau o blant, ond ar ôl y profiad yma rŵan mae'n mynd i fod lot anoddach i fi dwi'n meddwl.
"Achos bod 'na'r stigma yma o siarad amdano fo, mae o'n anodd siarad amdano fo.
"Ond dwi'n ddigon hapus i bobl yrru neges i fi os ydyn nhw'n mynd trwy r'wbath tebyg a ddim cweit yn siŵr sut mae o'n gweithio.
"Dwi'n fwy na hapus i drafod efo pobl eraill," meddai Alaw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.