'Dywedodd fy nhreisiwr y dylwn i faddau iddo am fy mod i'n Gristion'

Grace
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Grace ei bod hi'n rhannu ei phrofiadau i godi ymwybyddiaeth o gam-drin ysbrydol

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gall rhannau o'r stori hon beri gofid, gan gynnwys manylion am gam-drin domestig, ymosodiad rhyw a meddyliau am hunanladdiad.

Mae dynes wedi disgrifio sut y gwnaeth cyn-bartner ddweud y dylai hi faddau iddo am ei cham-drin yn gorfforol, emosiynol a rhywiol, oherwydd "bod Duw wedi maddau i mi".

Cafodd Grace, nid ei henw iawn, ei cham-drin gan ei phartner, wnaeth ddefnyddio ei ffydd Gatholig yn ei herbyn, ac yn y pendraw, ei threisio.

Fe wnaeth partner y ddynes, oedd yn 51 oed ar y pryd, ddatgan ei gariad ati "o flaen duw" ac awgrymu'n ddiweddarach mai maddeuant oedd "y peth Cristnogol i'w wneud".

Daw'r stori wrth i ymgyrchwyr godi ymwybyddiaeth o gam-drin ysbrydol, sy'n fath o reolaeth drwy orfodaeth sy'n canolbwyntio ar ffydd.

Dywedodd yr Eglwys Gatholig fod y cam-drin y gwnaeth Grace ei ddioddef yn "erchyll" a'u bod yn gweithio i gynnig mwy o gefnogaeth.

Ychwanegodd yr eglwys fod "arfogi maddeuant" yn rhywbeth yr oedden nhw'n ei weld yn "aml iawn".

'Cariadus, addfwyn a doniol'

Fe wnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caer yn 2021, gyda 192 o ymatebwyr Cristnogol, ganfod bod 60% o'r rhai oedd wedi goroesi cam-drin domestig wedi profi cam-drin ysbrydol.

Pan gyfarfodd Grace, sydd o dde Cymru, y dyn oedd yn ei cham-drin, roedd hi'n ei 40au, wedi ysgaru'n ddiweddar ac mewn "man isel".

"Roedd e'n ticio pob bocs. Roedd e'n gariadus, roedd e'n addfwyn, roedd e'n ddoniol.

"Roedd e'n gwerthfawrogi'r ffaith fy mod i'n ferch Gristnogol ac yn mynd i'r eglwys. Roedd hynny'n golygu llawer... dywedodd ei fod eisiau dysgu mwy am ffydd.

"Dysgais yn ddiweddarach bod hynny'n gelwydd."

Model yn gafael mewn croesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd y dyn argraff dda o'i hun i Grace ar y dechrau, gan ddangos diddordeb yn ei ffydd (llun llyfrgell)

Mae Grace yn cofio ei phartner yn ymuno â hi mewn gweddi, yn gofyn cwestiynau, a hyd yn oed yn mynychu offeren am hanner nos ar eu Nadolig cyntaf gyda'i gilydd.

"Daliodd yn fy llaw a dweud: Yng ngolwg dy dduw, dwi am i ti wybod fy mod gyda ti am byth."

Dywedodd hi fod hynny wedi "rhoi popeth yn gyfrifoldeb i mi", ond ar y pryd roedd hi'n meddwl ei fod yn anhygoel am fod eisiau "ymuno â mi ar fy llwybr ysbrydol".

Er gwaethaf hynny, roedd hi'n gwybod "bod rhywbeth yn corddi" a bod ei "ddwyster" a'i "sylw cyson" yn ei drysu hi.

"Nid yw cam-drin ysbrydol yn swnllyd, dyw e ddim yn dod i mewn gyda chlec.

"Dyw e ddim yn edrych fel yr hyn y mae pobl yn ei ddychmygu i fod yn gam-drin domestig."

Ychwanegodd ei fod "bron yn debyg i neidr", gan ddechrau'n raddol.

'Duw wedi maddau i mi'

Yn ystod trip gwersylla, dywedodd Grace iddo ddeffro am 03:00 eisiau gadael a'i fod wedi cicio eu pabell gyda hi ynddi, a'i galw'n "fradwr i dduw".

"Doedd e erioed wedi gwylltio o'r blaen, doedd e erioed wedi gwneud unrhyw beth o'r blaen," meddai.

Yn wreiddiol ni wnaeth hi ffonio'r heddlu gan benderfynu mai "diwrnod gwael" oedd yr achlysur, ond yn ddiweddarach ceisiodd gicio ei drws i lawr ac roedd hi'n ofni y byddai'n ei lladd.

Cafodd ei arestio, ond yn ddiweddarach y noson honno daeth yn ei ôl, gan ymddwyn fel petai dim wedi digwydd.

Yn ôl Grace, dywedodd y dyn: "Dere yn dy flaen cariad, maddeuant - onid dyna beth ydych chi'n ei bregethu?"

Dywedodd Grace ei fod wedi dweud wrthi mai rhywbeth "un tro" oedd hyn a bod "duw wedi maddau i mi".

Gollyngodd Grace y cyhuddiadau yn ei erbyn a phan aeth â hi i'r eglwys y diwrnod canlynol yn ailadrodd ei edifeirwch, teimlodd bod ymddiheuro o flaen duw "yn gorfod golygu rhywbeth".

Croes ar FeiblFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Grace ei bod hi'n teimlo ar y pryd bod ganddi ddyletswydd i faddau

Ond ychydig ddyddiau'n ddiweddarach "cychwynnodd eto", meddai Grace, gan honni ei bod hi'n gweld rhywun arall.

"Roedd yn gallu ailadrodd darnau bach o'r Beibl oedd yn addas iddo.

"Pan fydd y geiriau bach hynny'n mynd i mewn i'ch ymennydd, a'ch bod yn Gristion cryf, mae'n eich syfrdanu."

Dywedodd Grace iddi roi'r gorau i fynd i'r eglwys oherwydd nad oedd hi'n gallu "wynebu cywilydd" y gymuned yn gwybod bod rhywun yr oedd hi wedi'i adnabod ers chwe mis yn "troi'n ddyn rheolus, gorfodol, erchyll".

Arweiniodd digwyddiadau pellach at orchymyn atal, ond roedd y dyn yn dal i fynd i dŷ Grace, gan ddweud wrthi y dylai "wybod fy mod i'n dy garu di oherwydd dywedais wrthat o flaen dy dduw".

'Rwyt ti'n anifail'

Dywedodd Grace ei bod wedi'i dal mewn cylch o gyhoeddiadau mawreddog o gariad ac yna trais cynyddol, oedd yn parhau am fisoedd.

"Yn araf ond yn sicr, mae [eich] ffydd yn cael ei dileu gan yr ymddygiad rheolaethus," meddai.

Ar nos Galan - dros flwyddyn i mewn i'w perthynas - daeth i'w thŷ a dweud ei fod yn cael cwnsela rheoli dicter.

"Doedd dim rheswm i feddwl y byddai unrhyw beth drwg yn digwydd," meddai hi.

Aethant i'r gwely ac ychydig oriau'n ddiweddarach deffrodd gyda'r dyn yn ei threisio.

"Edrychais arno a dweud 'rwyt ti'n anifail'." Dywedodd Grace ei fod wedi ymateb: "Mae rhyw yn beth iach mewn perthynas, mae'n dweud hynny'n y Beibl."

Mewn EglwysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grace bellach yn gweithio ar ailadeiladu ei ffydd

Cysylltodd Grace â llinell gymorth a roddodd gyngor iddi fynychu canolfan gyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) i gael profion, a ffonio'r heddlu.

Yna eisteddodd hi yn ei heglwys, yn gweddïo am bron i ddwy awr.

"Roeddwn i'n teimlo'n ddrwg iawn oherwydd fy mod i wedi gwthio duw i'r ochr, er ei fwyn ef. Roeddwn i'n teimlo cywilydd ysbrydol."

Er i'r heddlu ddweud wrthi ei bod wedi ei threisio, roedd Grace yn dal i deimlo bod ganddi ddyletswydd i faddau.

Ond, pan anfonodd y dyn neges ati yn dweud "Lol, byddi di'n dweud 'mod i wedi dy dreisio di nesaf", symudodd ymlaen gyda chamau cyfreithiol.

Yn ddiweddarach cafodd ei ganfod yn euog gan reithgor o dreisio a bygwth, a'i garcharu am naw mlynedd.

'Gall bywyd ddim mynd yn waeth'

Roedd Grace yn credu "na all bywyd fynd yn waeth", ond collodd ei swydd a'i llety ar ôl hynny, oherwydd llawer o amser i ffwrdd o'r gwaith a difrod i'w thŷ gan ei chyn-bartner.

Roedd yn "ddi-waith, digartref, diwerth, wedi'i defnyddio, wedi'i cham-drin, wedi'i thaflu" ac roedd ganddi feddyliau am hunanladdiad.

Bu'n byw yn ei char am wyth wythnos a gwestai, gan ddechrau amau ​​ei phenderfyniad i adael ei phartner.

Siaradodd hi â Chynghorydd Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) a Chynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA), wnaeth helpu Grace i ddeall ei bod hi'n ddioddefwr a'i helpu i gael cartref.

Mae hi bellach yn gweithio ar ailadeiladu ei ffydd ac yn dweud, er ei bod hi mewn rhai ffyrdd "mewn lle agosach at dduw", ei bod hi wedi cael trafferth teimlo ei bod yn gallu bod yn agored am ei phrofiad o fewn cymuned yr eglwys.

"Fi wedi mynychu ambell i eglwys wahanol, ond fi ddim wedi llwyddo i roi'r droed honno trwy ddrws yr eglwys y byddwn i'n ei galw'n gartref eto," meddai.

Ychwanegodd ei bod hi'n teimlo nad oedd digon o sôn am gam-drin ysbrydol a bod angen i'r eglwys gael "drws agored" i bobl rannu eu pryderon "dim bwys beth yw statws eu perthynas".

Dywedodd yr Eglwys Gatholig eu bod yn anelu at fynd i'r afael â "cham-drin domestig a mathau eraill o drais ar sail rhywedd mewn lleoliadau ffydd, gan gynnwys cam-drin ysbrydol".

Dywedodd Nikki Dhillon Keane, sylfaenydd y prosiect Safe in Faith, sydd wedi'i leoli yn Esgobaeth Westminster, ei bod hi'n "drist iawn o glywed am y cam-drin erchyll a ddioddefodd Grace".

"Yn drist iawn, mae ei holl brofiadau yn cyd-fynd yn union â'r hyn yr ydym ni'n ei wybod am gam-drin ysbrydol... yn benodol mae arfogi maddeuant yn rhywbeth rydyn ni'n ei weld yn aml iawn."

Ychwanegodd ei fod yn "fersiwn wedi'i blygu o faddeuant gwirioneddol, na ddylai fyth roi rhywun mewn mwy o berygl o niwed" ac mai dyma'r "ffordd fwyaf effeithiol a dinistriol o bell ffordd o reoli", ond "nad yw'n cael ei drafod ddigon yn dal i fod".

Ychwanegodd fod Safe in Faith wedi hyfforddi clerigwyr a phlwyfi Catholig i "ddeall cam-drin ysbrydol ac i ddatblygu ymatebion sy'n seiliedig ar drawma i gefnogi pobl fel Grace".

'Rhoi sianel ddiogel i ddioddefwyr'

Y llynedd, lansiodd yr elusen Victim Support wasanaeth newydd, Safe Spaces, ar gyfer goroeswyr cam-drin sy'n gysylltiedig â'r eglwys ledled Cymru a Lloegr.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu ar y cyd gan yr Eglwys Anglicanaidd a'r Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr (CCEW).

Ond, mae'n cael ei redeg yn annibynnol gan yr elusen a'i ddatblygu mewn cydweithrediad â phobl sydd wedi profi cam-drin ysbrydol.

Dywedodd y prif weithredwr, Diana Fawcett, fod dioddefwyr cam-drin rhywiol, corfforol a seicolegol yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd meddwl ac y "gall hyn effeithio'n arbennig ar ddioddefwyr cam-drin yn yr eglwys".

"Rydym yn falch o allu rhoi sianel ddiogel i ddioddefwyr gael mynediad at wasanaethau arbenigol yn gwbl annibynnol oddi wrth yr heddlu neu unrhyw sefydliad ffydd."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan faterion o fewn y stori hon, mae cymorth a chefnogaeth ar gael trwy BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig