'Dwi eisiau helpu dynion eraill sy'n dioddef o gam-drin domestig'

Dywedodd Gareth Jones ei bod wedi cymryd amser hir i gael ei fywyd yn ôl at ei gilydd
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn a orfodwyd i gysgu ar y llawr yn ogystal â chael ei daro a'i gicio, eisiau adrodd ei hanes er mwyn helpu dioddefwyr eraill.
Yn wreiddiol o Bontypridd dywedodd Gareth Jones, 41, ei bod wedi cymryd dros flwyddyn o therapi i ddechrau gwella o'r misoedd o gam-drin emosiynol a chorfforol y dioddefodd gan ddynes a wnaeth e gyfarfod ar-lein yng Ngorffennaf 2021.
Yn gynharach yn y flwyddyn mi ddedfrydwyd Sarah Rigby, 41, o Winsford, sir Gaer i gyfnod o 20 mis o garchar wedi’i ohirio am ddwy flynedd, ar ôl iddi bledio yn euog i reolaeth trwy orfodaeth.
Mae'r heddlu wedi disgrifio'r achos fel un o’r enghreifftiau gwaethaf o’r math yma o gamdriniaeth y maen nhw erioed wedi ei weld.

Mi wnaeth y ddau gwrdd ar ap dêtio ar lein yn 2021.
Yn ystod eu perthynas naw mis cafodd Gareth, sy'n rheolwr yn y Gwasanaeth Iechyd, ei wahanu oddi wrth ei deulu a'i ffrindiau.
Fe gollodd reolaeth ar ei gyllid oedd werth tua £40,000, ac roedd yn cael ei fychanu'n ddyddiol gan Rigby.
Roedd hi hefyd yn gwrthod gadael iddo ddefnyddio'r toiled yn y tŷ na defnyddio'r gawod heb ei chaniatâd.
Fe gollodd bedair stôn a hanner mewn deufis oherwydd rheolaeth lem Rigby ar ei ddeiet.
Dywedodd yn gyson wrtho y byddai hi'n dweud wrth yr heddlu ei fod wedi ymosod arni os y byddai'n dweud wrth unrhyw un am yr hyn oedd yn digwydd.
Gwobr arbennig i ferch o dŷ ble bu cam-drin domestig
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2024
Cynllun i ofalu am anifeiliaid anwes dioddefwyr trais
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024
Trais yn erbyn menywod yn 'erchyll o gyffredin'
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
Gan siarad bum mis wedi'r ddedfryd, dywedodd Gareth fod y berthynas yn ymddangos yn un arferol, ond wrth edrych yn ôl roedd yn medru gweld ei bod hi wedi bod yn un "orgariadus".
"Maen nhw'n ei alw'n lovebombing mae'n debyg. Oni'n meddwl, sut all y person yma fod mor gariadus? Dwi'n meddwl ei fod o'n eich synnu... rydych yn meddwl efallai mai hon ydy'r un ac y gallai hyn weithio allan. Roedd yn orbwerus... dyma rwyf wedi ei ddysgu bellach."
Ar ôl toriad byr yn eu perthynas, gadawodd Gareth ei fflat a symudodd mewn i gartref Rigby bedwar mis ar ôl ei chyfarfod. Yna fe waethygodd y cam-drin.
Gorfododd Rigby i Gareth dalu am yr holl amser roedd wedi treulio yn y tŷ yn flaenorol. Roedd hefyd yn talu £700 y mis mewn rhent, a'r holl filiau, ond nid oedd yn cael goriad, a dim ond yn cael bod yn y tŷ ar yr amod ei bod hi yno ar yr un pryd.
Roedd cyfyngiadau ar ei ddefnydd o'r ystafell ymolchi, ac ar yr hyn yr oedd yn cael ei fwyta.

Yn ogystal â dedfryd carchar gohiriedig, cafodd Rigby orchymyn atal pum mlynedd oddi wrth Gareth, a'i gorchymyn i gwblhau 35 diwrnod o adsefydlu
"Roedd hi'n fy ngorfodi i gysgu ar y llawr heb flanced fel cosb, os nad oedd pethau yn mynd ei ffordd hi. Doeddwn i ddim yn cael cymryd cawod, siafio, na defnyddio'r toiled.
"Roedd rhaid i mi ddal fy nŵr, a thrio ei gwneud hi lawr i'r archfarchnad, dafarn, neu fwyty lleol.
"Os oedd hi eisiau mynd allan, roedd yn rhaid i mi adael, hyd yn oed os oeddwn yn trio gweithio.
"Roedd hi'n fy ngwahanu oddi wrth fy ffrindiau a theulu, ac yn pori trwy fy ffôn. Fe ddatblygodd i fod yn ynysig iawn... roedd yn sefyllfa, ti ydy ffynhonnell y pres, nid wyt ti i gymysgu gyda dy ffrindiau a dy deulu, rwyt ti hefo fi rŵan."
Roedd Gareth yn dileu unrhyw negeseuon testun yr oedd yn eu gyrru i'w fam yn syth, i sicrhau nad oeddent yn cael eu darganfod, ac fel nad oedd yn gorfod wynebu sgil-effeithiau.
Roedd cam-drin corfforol hefyd yn digwydd, gan gynnwys brathu, cicio, a chrafu.
Ond bum mis ar ôl symud i mewn gyda Rigby, daeth pethau i ben eu tennyn ar ôl iddo gyfarfod â'i fam am gwpaned o goffi yn gyfrinachol.
"Torrodd hi lawr o mlaen i. Alla'i ddim rhoi fy nheulu drwy hyn dim rhagor meddyliais... Roeddent yn erfyn arnaf i adael."
Tua'r cyfnod yma ffoniodd Gareth Mankind Initiative, dolen allanol, elusen cam-drin ddomestig i ddynion. Fe gafodd gadarnhad ganddynt mai trais domestig oedd o'n ei ddioddef.
Dywedodd bod clywed hynny gan rhywun niwtral, wedi helpu iddo ddeall bod angen iddo ddod allan o'r berthynas.

Roedd Sarah Rigby yn bygwth mynd â chyhuddiadau ffug am Gareth at yr heddlu
'Mae stigma'
Gobeithia Gareth y gall fod mewn perthynas eto yn y dyfodol ond nad yw wedi cyrraedd y pwynt yna eto.
Gadawodd Rigby gyda "dim ond y dillad ar fy nghefn" ac mae wedi gorfod ailddechrau o'r dechrau yn ariannol, creu cartref newydd iddo ei hun, ac ailadeiladu ei berthynas gyda ffrindiau - heb sôn am y gwaith o ailadeiladu ei hun.
"Roedd yn gnoc i fy hyder am amser maith, doedd gen i ddim hunanhyder oherwydd y cam-drin cyson. Roedd yn rhaid i mi fynd trwy therapi. Roeddwn yn ystyried hunanladdiad ar y pryd. Roedd hi'n dipyn o ymdrech i ddod yn ôl ar y llwybr cywir."
Ychwanegodd bod stigma ynglŷn â dynion yn siarad am gael eu cam-drin gan eu partneriaid - ond dyma'r union reswm pam yr oedd eisiau dweud ei hanes.
"Os all hyn helpu dynion eraill allan yna i sylweddoli bod y pethau yma'n medru, ac yn digwydd.. ac os ydyw'n helpu, mae hyn i gyd werth yr amser," ychwanegodd.
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.