Menyw wedi dysgu bod ganddi ganser terfynol ar ôl i ges ddisgyn arni ar drên

Lauren MacphersonFfynhonnell y llun, Lauren Macpherson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lauren newydd dreulio penwythnos yn Llundain er mwyn dathlu pasio ei harholiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw o Gaerdydd wedi dysgu bod ganddi ganser terfynol ac o bosib 10 mlynedd i fyw, ar ôl i gês dillad gwympo ar ei phen.

Roedd Lauren Macpherson, 29, yn teithio adref o Lundain pan gwympodd cês 16kg arni ar y trên. Bu rhaid iddi gael gofal meddygol yn Swindon cyn i sgan CT ddangos bod cysgod ar ei hymennydd.

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach fe gafodd wybod mai tiwmor ar yr ymennydd oedd ganddi ar ôl cael MRI yng Nghaerdydd.

Ar y pryd roedd Lauren newydd basio ei harholiadau er mwyn cael dyrchafiad yn y gwaith ac roedd wedi prynu ei thŷ cyntaf gyda'i chariad, Zak.

Wrth ddisgrifio cael y newyddion dywedodd Lauren: "Mae fel pe bai'r llawr yn disgyn o' danoch chi... mae'n ofnadwy.

"Ydw i'n mynd i weld fy 40au?"

Lauren MacphersonFfynhonnell y llun, Lauren Macpherson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren ei bod yn naïf ar y dechrau, a heb ddeall difrifoldeb y sefyllfa

Mae Lauren wedi cael gwybod y gallai ddisgwyl byw rhwng 10 a 12 mlynedd.

Dywedodd ei bod yn dioddef symptomau gwahanol cyn y diagnosis, gan gynnwys ei chael hi'n anodd rheoli ei hemosiynau (emotional dysregulation) a blinder difrifol.

Ond, dywedodd bod meddygon yn credu mai ei hormonau neu symptomau ADHD oedd yn gyfrifol am hynny.

"Mae bron yn rhyddhad," meddai. "Chi'n meddwl bo' chi'n mynd yn wallgof gyda'r holl bethau 'ma'n mynd yn anghywir."

Dywedodd ei bod wedi mynd at y meddyg teulu dair gwaith am wahanol brofion, gan ei bod yn cael problemau gyda'i stumog ac roedd hefyd yn colli ymwybyddiaeth.

Roedd y blinder mor ddrwg fe benderfynodd Lauren weithio'n rhan amser fel cardiograffydd er mwyn gallu rheoli eu hastudiaethau ar gyfer ei gradd Meistr.

"A dweud y gwir, roeddwn i'n eithaf naïf... o'n i yn poeni ond ar y pwynt yna doeddwn i ddim yn ofnus.

"Do'n i ddim yn meddwl bydde dim modd gwella, o'n i'n meddwl 'maen nhw wedi dod o hyd iddo fe, gallan nhw gael gwared arno fe'."

Lauren Macpherson a'i phartner ZakFfynhonnell y llun, Lauren Macpherson
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddyweddïodd Lauren a'i phartner Zak ychydig wythnosau ar ôl ei diagnosis

Mis yn ddiweddarach oedd pan ddysgodd Lauren am ddifrifoldeb y sefyllfa.

Roedd meddygon yn amau bod ganddi glioblastoma, tiwmor ar yr ymennydd sy'n tyfu'n gyflym, a fyddai wedi gallu golygu mai ond dwy flynedd oedd ganddi i fyw.

"O'n i'n meddwl byddwn ni yn yr apwyntiad am awr ac yna'n cario 'mlaen gyda'n diwrnod.

"Doedden ni ddim yn disgwyl e [y newyddion] o gwbl."

Cafodd Lauren lawdriniaeth ddiwedd mis Hydref ac fe lwyddodd y meddygon i dynnu 80% o'r tiwmor.

Fe gymerodd amser i wella ar ôl y llawdriniaeth - doedd hi methu â siarad am wythnosau a doedd hi'n methu gwneud llawer o'r pethau yr oedd hi'n arfer eu gwneud.

"Roedd e'n rhyfedd iawn... doedd dim byd yn gwneud synnwyr, doeddwn i ddim yn teimlo fel fi," meddai.

Lauren Macpherson a'i mamFfynhonnell y llun, Lauren Macpherson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren bod ei diagnosis wedi bod yn anodd iawn i'w theulu a'u bod yn ei chael hi'n anodd dychmygu byw hebddi

Fe benderfynodd Lauren ei bod am siarad ag eraill oedd yn mynd trwy'r un profiad â hi felly dechreuodd gyfrif Instagram i godi ymwybyddiaeth a chofnodi ei phrofiadau.

Mae'n dal i deimlo'n obeithiol, meddai, gyda'r byd meddygol "yn datblygu ar gyfradd nad yw erioed wedi gwneud o'r blaen".

"Mae AI yn cymryd drosodd," ychwanegodd cyn dweud bod hynny'n rhoi gobaith iddi hefyd.

Ond mae Lauren yn dweud ei bod wedi cael cyfnodau anodd gyda'i theulu "ble chi'n torri lawr a chi methu anadlu".

"Mae'r cyfan wedi bod yn anodd i mi... ond i'r teulu, mae bron wedi bod yn anoddach iddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig