Gallai miloedd yn fwy elwa o brawf canser 'trawsnewidiol' yng Nghymru

Mae'r labordy ar gyrion Caerdydd yn defnyddio offer diagnostig sydd werth milynau o bunnoedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyffro i'w weld ar wynebau'r arbenigwyr sy'n trafod ymestyn prawf gwaed allai drawsnewid canlyniadau i gleifion â chanser.
Fe allai miloedd yn rhagor o bobl elwa yn sgil yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "chwyldro pellach" yn y dull o brofi am rai mathau o ganser yng Nghymru.
Mae prawf gwaed arloesol, sy'n darllen cod geneteg tiwmor, eisoes yn cael ei gynnig i bobl ar draws Cymru pan mae amheuaeth o ganser yr ysgyfaint sydd wedi datblygu neu ehangu.
Mae'n caniatau i feddygon ddeall yn gynt, ac yn well, natur canser penodol a chynnig triniaethau sy'n fwy tebygol o weithio, o fod wedi cael eu teilwra ar gyfer yr unigolyn.
Ond mae'r ymchwilwyr bellach yn edrych ar sut mae modd ehangu ac ymestyn, dolen allanol y prawf cyflym ar gyfer cleifion penodol sydd â mathau eraill o ganser, yn cynnwys canser y prostad, canser y coluddyn a chleifion sydd â chanser sydd wedi ymledu o darddiad aneglur.

I Rhodri Griffiths, mae'r profion fel rhywbeth yn syth o fyd Sci-Fi
"Da ni di bod yn sôn am hyn ac adnabod y potensial ... ers peth amser", medd Rhodri Griffiths o Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru - un o'r sefydliadau sydd wedi bod yn cefnogi rhaglen ymchwil QuicDNA Max.
"Ond erbyn hyn mae hwn yn digwydd. Dyna be' sydd yn gyffrous iawn.
"Mae'r prosiect yma - mae 'di cael ei brofi ar gyfer canser yr ysgyfaint a'r treial hwnnw wedi digwydd yng Nghymru.
"Felly mae 'na gamau pendant o'r diwedd yn mynd yn eu blaenau a mae hynny yn cyflymu bron o ddydd i ddydd."
Ychwanegodd: "Hwyrach mai Sci-Fi oedd hyn flynyddoedd yn ôl ond mae yn digwydd a rhaid i ni weithio i gyflymu pethau fel bo ni yn symud ymlaen ar fyrder rŵan er mwyn trawsnewid ein system iechyd ni."
'Ry'n ni gyd yn nabod rhywun â chanser'
Mae'r datblygiad yn codi gobeithion unigolion sydd wedi cael profiad uniongyrchol o ganser.
Trodd bywyd Jo-Anne Gravell-Aspland, o Borth Tywyn ger Llanelli, wyneb i waered yn 2019.
Cyn hynny roedd hi'n ffit ac iach, gan fwynhau mynd i'r gampfa'n ddyddiol. Felly beio gorymarfer wnaeth hi pan sylweddolodd fod ei chefn yn boenus.

Jo-Anne Gravell-Aspland yn Ysbyty Glangwili ar nos galan 2019 cyn dechrau ei thriniaeth
Ond mewn gwirionedd roedd ganddi ganser yn ei choluddyn, canser oedd eisoes wedi ymledu.
O ganlyniad bu'n rhaid iddi gael llawdriniaeth stoma yn ogystal â thriniaeth cemotherapi a radiotherapi dwys iawn.
"Nes i gysgu am dri mis ar ôl gorffen y driniaeth - o'n i fel Sleeping Beauty wir i ti", meddai.
"O'n i ddim yn gallu codi achos o'n i mor wan a ro'dd yn rhaid i'r gŵr a'r plant helpu i fi ymolchi a gwisgo. O'n i'n ffili gwneud dim byd drosto fi fy hun."

Jo-Anne yn hybu gwaith Angor
Erbyn hyn mae Jo-Anne yn rhydd o ganser ac yn gweithio i elusen Angor sy'n cynnig cefnogaeth i gleifion ar draws Sir Gâr.
Wedi dweud hynny mae hi'n gyson mewn poen oherwydd sgil effeithiau ei thriniaeth - ac mae'n rhaid iddi fynd i'r ysbyty bob chwe mis am brofion biopsi i wirio nad yw ei chanser wedi dychwelyd, sy'n aml yn brofiad amhleserus.
"Ma' rhaid iddyn nhw fy rhoi i gysgu bob tro a rhoi fi o dan anesthetig - ma' rhaid i fi aros yn yr ysbyty wedyn.
"A bob tro 'wy'n mynd dwi ddim yn teimlo'n iawn am wythnose wedyn."
'Potensial aruthrol' dull newydd o brofi am ganser yr ysgyfaint
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024
Y gobaith yw y bydd y prawf gwaed newydd yn gwneud y broses o fonitro cleifion yn llawer iawn haws, yn ogystal â chynnig diagnosis cynharach.
Mae Jo-Anne wedi'i hargyhoeddi y byddai hi wedi elwa, petai'r prawf wedi bod ar gael pan gafodd hi ei diagnosis.
"Yn bendant - efalle fydde fe 'di rhoi opsiynnau gwahanol i fi, efalle na fydden i wedi gorfod dioddef triniaeth mor galed.
"'Wy hefyd 'di colli ffrindiau oherwydd canser ac efallai y bydden nhw wedi cael blynyddoedd yn rhagor i wneud atgofion â'u teulu a'u ffrindiau.
"Oherwydd ry'n ni gyd yn nabod rhywun â chanser neu rywun sy' wedi colli eu bywydau oherwydd canser."
Sut mae'r prawf yn gweithio?
Fel arfer mae meddygon yn ceisio darganfod mwy am ganser trwy gymryd sampl o diwmor trwy ddulliau llawfeddygol, ac yna ei astudio.
Ond fe all y profion biopsi yma fod yn amhleserus neu achosi niwed, ac weithiau gall meddygon gael trafferth casglu sampl os yw'r tiwmor mewn lleoliad lletchwith.
Ond wrth i gelloedd canser ddatblygu maen nhw'n rhyddhau darnau bach o'u DNA i mewn i waed y claf - a dyna mae'r prawf newydd yn chwilio amdanynt.

Mae'r gwaed yn cael ei ddadansoddi gan beiriant tebyg i hwn er mwyn deall mwy am y canser
Ar ôl cymryd prawf gwaed arferol mae'r sampl wedyn yn cael ei osod mewn peiriant pwerus, sy'n costio tua £1m yr un, i ddarllen DNA y tiwmor.
O wybod beth yn union yw cod geneteg y canser, gall meddygon ddewis pa fath o driniaeth allai weithio orau yn ei erbyn.
Gall y prawf hefyd fonitro pa mor effeithiol yw unrhyw driniaeth yn cynnwys ystyried a yw'r canser yn datblygu ymwrthedd (resistance) i driniaeth benodol.

Mae Dr Sian Morgan yn dweud bod Cymru "ar flaen y gad" gyda'r profion
O gyflymu proses rhoi diagnosis o rai misoedd i ychydig wythnosau, ac wedyn cynnig triniaeth fwy personol i'r claf hwnnw - dadl yr arbenigwyr yw bod unigolyn yn fwy tebygol o ymateb yn llwyddiannus.
"Mae ymchwil yn awgrymu fod cael diagnosis cyn lleied â phythefnos yn gynt am rai mathau o ganser, yn golygu fod y claf yn cael gwellhad mwy buan ac estynedig, o gael triniaeth bersonol yn gyflymach", medd Dr Sian Morgan, cyfarwyddwr Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan - un o'r sefydliadau sy'n arwain yr ymchwil.
"'Y ni'n ystyried ein bod ni ar flaen y gad yng Nghymru gyda'r rhaglen newydd ac yn datblygu'r dechnoleg mewn meysydd nad oes unrhywun arall yn y DU nac yn Ewrop yn eu hystyried ar funud."
Llwyddiant mawr - ond mwy i'w gyflawni
Mae datblygiad y prawf wedi cael ei groesawu gan y gymuned ganser yng Nghymru.
Ond mae arbenigwyr hefyd yn rhybuddio fod yna heriau mawr yn dal i fodoli o ran gofal canser, gyda thargedau amseroedd aros canser yn cael eu methu, a chyfraddau marwolaethau yn uwch yma na sawl gwlad arall.
"Mae nifer o unigolion wedi bod yn gweithio'n galed ar hwn [yr ymchwil] am flynyddoedd a mae hyn yn llwyddiant mawr iddyn nhw", medd Lowri Griffiths o elusen Tenovus, sydd hefyd yn gadeirydd Cynghrair Canser Cymru.
"Ond dyw amseroedd aros canser yng Nghymru ddim yn gret er bod pethau'n gwella'n ara' deg ... ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwneud yn wych o gymharu â gwledydd eraill."
"Felly mae'r prawf yma yn mynd i wneud andros o wahaniaeth wrth symud 'mlaen ond rhaid i ni edrych yn ehangach ... oherwydd 'y ni'n gwybod fod achosion o ganser yn mynd i gynyddu."