'O'n i'n bengalad ddim yn mynd i'r doctor' - ffermwr â chanser terfynol

Mae John Saunders Davies yn awyddus i chwalu'r stigma yng nghefn gwlad o beidio â gofyn am gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o'r gogledd yn gobeithio chwalu'r stigma o beidio â mynd at y meddyg yng nghefn gwlad ar ôl gadael pethau yn rhy hwyr - mae bellach wedi clywed bod ei ganser yn derfynol.
Doedd John Saunders Davies, o ardal Rhuddlan yn Sir Ddinbych, "ddim yn teimlo'n rhy dda" ond fe oedodd wyth mis cyn mynd at y meddyg.
Cafodd wybod bod canser y coluddyn wedi lledu i'w iau erbyn hynny ac o bosib dim ond pum mlynedd sydd ganddo i fyw.
"Mae o'n help siarad" meddai, ac mae'n bwysig chwalu'r stigma bod amaethwyr "yn iawn a ddim isio cymorth - mae'n bwysig bo' ni'n cael cymorth cyn gynted â phosib".
'Ofn deud wrth y teulu'
Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru dywedodd y dyn yn ei 50au: "Dydy o'm yn addawol iawn i fi, dwi'n gorfod byw gyda chanser achos hwyrach o'n i'n bengalad a ddim yn fodlon mynd i'r doctor ddigon cynnar."
Canser y coluddyn yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser, ac mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.
Erbyn hyn mae gwasanaeth sgrinio'r coluddyn, sy'n helpu i wneud diagnosis yn gynt, yn cael ei gynnig i bawb rhwng 50 a 74 oed sydd wedi cofrestru â meddyg teulu.
Pan mae'r canser yn cael ei ganfod yn gynnar mae modd ei drin ac mae'r siawns o oroesi yn cynyddu'n sylweddol.
Mae Mr Davies yn meddwl tybed "a oes ganddo ni ofn fel dynion sy'n gweithio ar ben ein hunain i ddeud wrth y teulu neu ffrindia' bo' gynno ni r'wbath sy'n ein poeni".
Esboniodd bod ei dad yr un peth "hefo Mam - o'dd o'n peidio deud i Mam bod gynno fo boena' a ballu tan bod o 'di mynd rhy hwyr".
Bu farw ei dad o ganser yr ymennydd.

Mae'n bwysig bod ffermwyr yn mynd at y meddyg yn syth pan maen nhw'n teimlo'n sâl meddai John Saunders Davies
Yn ddiweddar fe gymerodd John ran mewn digwyddiad yn y Senedd gyda Rhwydwaith y Gymuned Ffermio mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa yng nghefn gwlad.
"Mae'n bwysig bod ni'n cael y stigma yma i ffwrdd o'r meddwl bod ni'n iawn a ddim isio chwilio am gymorth," meddai.
"Mae'n bwysig bod ni'n cael y cymorth cyn gynted â phosib."
Esboniodd bod siarad am ei iechyd corfforol a meddyliol "wedi ei helpu'n arw".
"Y ffordd dwi 'di gweld 'mod i'n helpu pobl eraill wrth siarad a chael y bobl sy'n y diwydiant i fynd i gael cymorth oherwydd dwi di deud wrthyn nhw neu maen nhw 'di clywed fy stori."
Ceisio 'cadw'n bositif' wrth i ganser y prostad ddod yn fwy cyffredin
- Cyhoeddwyd25 Ionawr
Galw am adnoddau i fynd i'r afael â throseddu cefn gwlad 'bygythiol'
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2025
Maxine Hughes 'wedi bod yn lwcus iawn' gyda'i thriniaeth canser
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
Yn dilyn y newyddion fod yr ail ganser yn yr iau yn un terfynol fe gafodd sesiynau iechyd meddwl.
Cafodd ei gynghori i "flaenoriaethu fi fy hun a peidio meddwl am neb arall", meddai.
"Dyna 'dy natur ni fel pobl sy'n gefn gwlad, 'da ni'n edrach ar bobl eraill yn hytrach na edrach ar ni'n hunain.
"'Da ni'n rhoi pobl eraill, yn rhoi anifeiliaid o flaen ein hiechyd ni'n hunain."
Mae yna bosibilrwydd mai dim ond pum mlynedd sydd gan John Saunders Davies i fyw ond mae'n parhau i gael triniaeth ac yn gobeithio y bydd hynny'n ymestyn ei fywyd.
Yn y cyfamser "dwi'n trio gwneud hwn yn rhywbeth positif a deud y gwir," meddai.
Mae'n awyddus i fachu ar y cyfle "i wneud y pethau o'n isio gwneud".
Bydd y cyfweliad i'w glywed yn llawn yn rhifyn ddydd Llun o'r Post Prynhawn am 17:00 ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.