Tadau'n dweud bod iselder ôl-enedigol yn effeithio arnyn nhw hefyd

Drwy siarad am ei broblemau a throi at eraill am gefnogaeth, mae Aled wedi gallu mwynhau gwylio ei blant yn tyfu i fyny
- Cyhoeddwyd
Ar ôl profi "straen a gorbryder" tra'n trio am fabi, roedd Aled Edwards a'i wraig Sophie wrth eu bodd pan wnaeth hi feichiogi.
Ond o'r noson gyntaf ar ôl cael y newyddion da fe ddechreuodd Aled gael hunllefau erchyll.
Ar un achlysur, fe gafodd hunllef lle'r oedd wedi cael anaf difrifol iawn ar ôl ymladd pobl oedd wedi torri mewn ac yn y freuddwyd roedd e'n gweld ei hun yn marw wrth gropian i fyny'r grisiau i ddweud wrth ei deulu fod popeth yn iawn.
Heblaw am yr hunllefau, roedd Aled yn mwynhau bod yn dad ac felly roedd e'n credu mai nerfau bod yn rhiant am y tro cyntaf oedd yn achosi'r hunllefau ond yna fe gafodd broblemau iechyd meddwl.
Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.

Roedd Aled yn cael hunllefau gwael fyddai yn aml yn golygu ei fod yn ymladd i amddiffyn ei wraig, ei ferch Bea a'i fab Sulli
Fe barhaodd yr hunllefau tan bod ei fab Sullivan - sydd nawr yn saith - yn chwe mis oed.
""Roedd y profiad o'i gael o, y cariad a'r llawenydd hwnnw yn real ac o'n i'n teimlo fo," meddai.
"Roedd pawb yn hapus ac fe ddiflannodd yr hunllefau bron mor gyflym ag y dechreuon nhw."
Ond rai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan roedd Sophie'n feichiog gyda'u merch Bea, fe ddaeth yr hunllefau yn ôl.
"Roedd o'n teimlo fel bo' rhein ar lefel hollol wahanol o erchyll.
"O'n i'n mess drwy'r dydd yn emosiynol oherwydd faint o effaith oedd yr hyn welais i yn yr hunllef wedi ei gael arnai," meddai.
Dechreuodd Aled, sy'n 40 o Fangor, brofi iselder a oedd yn effeithio ar bob agwedd ar ei fywyd.
"Roeddwn i'n teimlo fel bod dim motivation gen i wneud unrhyw beth, doedd dim byd yn 'neud fi'n hapus," meddai.
"Mae'n swnio mor ofnadwy, ond doeddwn i ddim yn teimlo fel bo' digon gen i roi - ar ôl delio â'r hunllefau - er mwyn cael y bond emosiynol yna [gyda Bea].
"Chi'n gweld y 'teuluoedd perffaith' yma ar Instagram - a dyna o'n i'n ceisio dangos i bawb.
"O'n i'n meddwl, trwy ymddwyn fel 'na, y byddai hynny'n dod yn wir yn y pen draw."
'Pawb yn teimlo'n isel oherwydd fi'
Ond nid dyna ddigwyddodd ac ym mis Hydref 2021, fe adawodd Aled y tŷ un bore, pan oedd Bea'n chwech wythnos oed, gyda'r bwriad o ddod â'i fywyd i ben.
"Dechreuais orfeddwl a wir canolbwyntio ar yr agwedd mai fi yw'r broblem.
"O'n i'n gallu gweld bo' pawb yn dechra' teimlo'n isel, oherwydd fi."
Ar ôl bod yn gweld meddyg teulu fe gafodd Aled ddiagnosis o drawma yn ystod plentyndod (adverse childhood trauma) ac fe gafodd ei roi ar bresgripsiwn o diazepam.
Meddyginiaeth gorbryder ydy diazepam ond doedd Aled ddim yn credu ei fod yn gweithio iddo fe.
Ychwanegodd mai'r unig beth newidiodd ei feddwl oedd meddwl am Sullivan, yn "cwtcho" gydag ef y bore hwnnw.
Ar ôl trio sawl meddyginiaeth, gyda rhai'n cynnwys sgileffeithiau fe arweiniodd ymchwil a wnaeth Aled ei hun ato'n ystyried iselder ôl-enedigol (PND).

Mae Aled (dde) yn dweud bod llawer o ddynion yn cael budd o siarad â thadau eraill sy'n mynd trwy'r un profiadau
Mae'r gwasanaeth iechyd wedi dweud bod PND yn effeithio ar fwy nag 1 o bob 10 menyw a "gall hefyd effeithio ar dadau a phartneriaid".
Ar ôl i Aled chwilio am grŵp cymorth a methu dod o hyd i un, fe rannodd neges ar Facebook ym mis Chwefror 2024 i weld a oedd unrhyw dadau awydd sgwrsio am y peth.
"Yn sydyn, aeth fy nghyfryngau cymdeithasol yn wyllt. Ges i filoedd o negeseuon gan ddynion."
Fe ymunodd "llond llaw" ar daith gerdded a dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r grŵp wedi datblygu bellach yn gymuned sydd "wedi'i hadeiladu o amgylch cefnogi ein gilydd".
'Hanfodol' cael cymorth iechyd meddwl i rieni yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd26 Mai 2025
'Wastio pres ar gyffuriau bob dydd trwy'r dydd' cyn cael help
- Cyhoeddwyd21 Mai 2025
Gareth Wyn Jones: 'Y straen sy' tu ôl i feddwl rhywun'
- Cyhoeddwyd18 Mai 2025
Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe, dolen allanol yn nodi bod rhwng 8% ac 13% o dadau wedi profi iselder yn ystod beichiogrwydd a rhianta cynnar.
Dywedodd yr Athro Ann John, a arweiniodd yr ymchwil, fod saith gwaith yn fwy o dadau wedi marw trwy hunanladdiad yng Nghymru o gymharu â mamau dros y 22 mlynedd diwethaf yn ystod "y 1,001 o ddiwrnodau critigol" rhwng rhoi genedigaeth i fabi a'r plentyn yn troi'n ddwy.
Ychwanegodd fod "yr anghydraddoldeb yma'n adlewyrchu'r gwahaniaethau sydd i'w gweld yn y boblogaeth yn gyffredinol o ran dynion a menywod yn cyflawni hunanladdiad".
Roedd yr astudiaeth yn dadansoddi cofnodion iechyd cenedlaethol Cymru, data marwolaethau a'r defnydd o wasanaethau iechyd meddwl.
Fe ddatgelodd yr ymchwil nad oedd system genedlaethol ar waith i olrhain na chategoreiddio hunanladdiad tadol.
"Mae modd atal hunanladdiad o bosibl ond mae angen llwybrau ar y grŵp yma o ddynion - o adnoddau hunanofal i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol (perinatal) arbenigol - ac mae angen iddyn nhw gael eu teilwra i dadau yn ogystal â mamau," meddai'r Athro John.

Fe brofodd Mark a Michelle iselder ôl-enedigol ar adegau gwahanol ar ôl i'w mab Ethan gael ei eni
Mae Mark Williams o Ben-y-bont ar Ogwr wedi sefydlu grŵp cymorth o'r ebw 'How's Dad?'.
Mae Mark a'i wraig Michelle wedi profi iselder ôl-enedigol ar ôl i'w mab Ethan gael ei eni yn 2004.
Gydag Ethan bellach newydd droi'n 21 oed, mae Mark wedi bod yn myfyrio ar sut effeithiodd y profiad ar bob agwedd o'i fywyd ar y pryd.
"Gall pobl fod yn rheoli eu hiechyd meddwl cyn dod yn rhiant, ac yna'n sydyn maen nhw yn y cyfnod yna o newid a dydyn nhw ddim yn gallu ymdopi ag e," meddai.
Bu'n rhaid i Michelle gael toriad Cesaraidd ar frys pan gafodd Ethan ei eni a dywedodd Mark, 51, mai dyna'r "tro cyntaf a'r unig dro iddo gael 'panic attack'".
"Roedd Michelle ar y ward am dri diwrnod ac i ddechrau roedd hi'n clingy iawn, fyddai hi ddim yn gadael i fi fynd.
"Doeddwn i ddim yn gwybod dim am iechyd meddwl bryd hynny, felly o'n i just yn meddwl mai blinder odd e.
"Wnaeth Michelle ddim cysgu o gwbl am bron i bythefnos," ychwanegodd a chafodd ddiagnosis o PND.
Doedd Mark, a oedd yn hunangyflogedig, ddim yn gallu gweithio am chwe mis wrth iddo geisio ei chynnal hi ac Ethan.
Felly doedd "dim arian yn dod i mewn, gyda morgais i'w dalu" ac yna fe ddechreuon nhw deimlo'n "unig" ac "ynysig".

Dydy Mark ddim yn credu bod yna lawer o luniau ohono fe a'i fab "yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny"
Doedd Mark ddim yn gallu "prosesu trawma'r geni" meddai ac wedi'i lethu gan y newid mawr i fod yn dad roedd yn teimlon "numb" a arweiniodd at feddyliau o hunanladdiad.
Dechreuodd droi at alcohol fel "ffordd o ymdopi" ac roedd yn ei chael hi'n anodd cael cysylltiad ag Ethan, er bod ganddyn nhw'r "berthynas orau" nawr.
"Dydw i ddim yn meddwl bod 'da ni lawer o luniau ohono ni yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny," meddai.
Doedd Mark ddim yn gwybod tan ddegawd yn ddiweddarach fod ganddo ADHD ac nawr mae'n gwybod iddo brofi anhwylder ôl-enedigol hefyd.
Fe dorrodd iechyd Mark yn 2009 – bron i bum mlynedd ar ôl i Ethan gael ei eni.
"Chi'n teimlo fel bo' chi ddim yn ddigon da, ac y byddai eich teulu'n well hebddoch chi," meddai.
Ond pan ddechreuodd Mark siarad am brofi anhwylder ôl-enedigol, "roedd yr abuse ges i'n anhygoel".
Mae Mark bellach yn gweithio i'r elusen, Mental Health Matters Wales, yn ogystal â rhedeg ymgyrch, Fathers Reaching Out, gyda'r nod o ddylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth.
Yn y pen draw, fe gafodd ddiagnosis o iselder a gorbryder ond dyw e ddim yn credu ei fod wedi sywleddoli bod yna gysylltiad rhwng ei deimladau a'i brofiad o ddod yn dad - gan fod y rhan fwyaf o'i symptomau wedi dechrau ar ôl y cyfnod ôl-enedigol swyddogol.
"Fel fi, mae llawer o dadau'n profi iselder ar ôl y cyfnod hwnnw. Mae fy ngwaith i'n ymwneud â defnyddio dull cyfannol" a rhoi cymorth iechyd meddwl i rieni.
"Mae myth mawr nad yw dynion yn siarad. Fe newn nhw siarad, os ydych chi'n eu rhoi mewn lle diogel ble mae pobl yn eu deall," meddai.
"Os ydych chi'n cefnogi tadau'n well, mae'r canlyniadau'n well ar gyfer datblygiad plant, llai o brofiadau niweidiol i blant, diogelwch plant."
'Rhaid sicrhau bod cefnogaeth ar gael'
Yn ôl pennaeth polisi ac ymgyrchoedd Mind Cymru, Simon Jones, mae ymchwil yr elusen yn nodi bod llawer o ddynion wedi profi cyflwr iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â genedigaeth plant.
Roedd 9% o'r dynion oedd yn rhan o'r ymchwil wedi cael diagnosis o PTSD, meddai.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod cefnogaeth ar gael yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, gan gydnabod y gall y newidiadau yma i fywydau gyflwyno heriau gwahanol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod "yr heriau unigryw y mae dynion yn eu hwynebu ac sy'n gallu eu gwneud yn agored i brofi problemau iechyd meddwl a phroblemau o ran eu lles emosiynol".
Ychwanegon nhw bod eu strategaethau a gafodd eu cyhoeddi ym mis Ebrill, sy'n ymwneud â iechyd meddwl, lles ac atal hunanladdiad yn nodi eu dull "o wella dealltwriaeth o'r heriau hyn, gan flaenoriaethu diogelwch a sicrhau bod cefnogaeth addas ar gael i bawb sy'n canolbwyntio ar y person, pryd bynnag y bydd ei hangen arnynt".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.