Dyn wedi'i gyhuddo o lofruddio babi yn honni iddo geisio'i achub

Bu farw Jensen-Lee Dougal ar 31 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 29 oed sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio babi ei bartner yn dweud iddo geisio achub y plentyn oherwydd ei fod yn ofni ei fod yn tagu.
Mae Thomas Morgan o Orseinon yn gwadu llofruddio Jensen-Lee Dougal, oedd yn bum mis oed, yng nghartref y teulu yn Abertawe.
Cafodd Mr Morgan ei adael ar ei ben ei hun gyda Jensen-Lee tra bod ei bartner, Jordan Dougal, wedi mynd i'r gwaith ar 30 Mawrth 2024.
Dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn ofni bod y babi yn tagu ar ei gyfog ei hun, a'i fod wedi rhoi ei fysedd yng ngheg y babi i geisio cael gwared ag unrhyw rwystr.
Dyn wedi lladd ei lysfab pum mis oed ar ôl colli ei dymer - erlynydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
Dyn 28 oed yn gwadu llofruddio babi pum mis oed
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2025
Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o ladd babi pum mis oed
- Cyhoeddwyd5 Medi 2025
Dywedodd Mr Morgan fod corff Jensen-Lee yn ymddangos yn llipa pan gododd ef a'i fod wedi ei "ysgwyd".
Aeth i banig, meddai: "Roeddwn i'n dweud ei enw ac fe wnes i ei ysgwyd i gael ymateb ganddo."
Clywodd y llys ei fod yn dal y babi o amgylch ei asennau.
Gofynnodd John Hipkin KC ar ran yr amddiffyn: "Faint o rym wnaethoch chi ei ddefnyddio?"
"Alla i ddim egluro'r grym, ond doedd e ddim yn ddigon i achosi unrhyw niwed," meddai Mr Morgan.
Gofynnodd Mr Hipkin: "Oedd gennych fwriad achosi niwed iddo?"
"Dim o gwbl," atebodd Mr Morgan.
'Cyfarfod â rhywun' i brynu canabis
Bu farw Jensen-Lee yn yr ysbyty y diwrnod canlynol, ar ôl i'r peiriant cynnal bywyd gael ei dynnu i ffwrdd.
Mae Mr Morgan hefyd yn gwadu tri chyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad i'r babi, rhwng Ionawr a Mawrth 2024.
Esboniodd i'r llys ei fod wedi symud i mewn gyda Ms Dougal ym mis Ionawr 2024, a'u bod wedi adnabod ei gilydd ers yr ysgol.
Clywodd y llys fod Mr Morgan wedi gollwng ei ddau o blant ef i'w gyn-bartner y tu allan i dafarn y Cooper's Arms.
Dywedodd fod bys ei fab wedi cael ei fachu ar ddrws y car a bod hynny wedi sbarduno dadl gyda'i gyn-bartner.
Disgrifiodd i'r llys sut yr aeth "i gyfarfod â rhywun" i brynu canabis, tra'r oedd Jensen-Lee yn dal i gysgu yn y car.
Yna, aeth ymlaen i siop yng Nghlydach i brynu bocs o lager a pastie, gan ddweud ei fod yn bwriadu aros gartref a gwylio pêl-droed.

Ymddangosodd Thomas Morgan yn Llys y Goron Abertawe
Pan ddychwelodd Mr Morgan i'w gartref, daeth â Jensen-Lee i'r lolfa yn ei sedd car, meddai.
Dywedodd iddo sylwi fod un o'u cŵn "wedi bod i'r toiled yn y tŷ ac fe wnes i glirio'r baw yn y gegin".
Wrth ddychwelyd i'r lolfa, sylwodd fod y babi wedi bod yn sâl ac aeth Mr Morgan i fyny'r grisiau i ffeindio baby grow i'r babi, meddai.
Ond dywedodd wrth y llys "fod dillad ym mhob man a doeddwn i methu ffeindio'r maint cywir".
Pan ddaeth yn ei ôl i'r lolfa, dywedodd ei fod wedi sylwi bod Jensen-Lee wedi bod yn sâl eto, a dyma pryd yr oedd yn ofni ei fod yn tagu ar ei gyfog a cheisio rhoi ei fysedd yn ei geg ac ysgwyd y babi.
Dywedodd ei fod hefyd wedi rhoi CPR i'r babi: "Roeddwn i mewn panig ac fe ddefnyddiais y ddwy law."
Rhedodd Mr Morgan allan a gweiddi ar gymdogion oedd yn yr ardd, meddai: "Gweiddais i alw am ambiwlans."
Dywedodd un cymydog ei bod hi wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf a rhoddodd hithau gynnig ar roi CPR hefyd.
'Erioed wedi bod yn y sefyllfa yma'
Gofynnodd Mr Hipkin iddo am ei gyflwr meddyliol.
"Roeddwn mewn panig llwyr," meddai Mr Morgan wrth y llys.
Wrth groesholi ar ran yr erlyniad, gofynnodd Caroline Rees KC iddo a oedd yn bwriadu achosi unrhyw niwed ar 30 Mawrth.
"Na," atebodd Mr Morgan.
"Ydych chi'n derbyn mai chi wnaeth ladd Jensen?" gofynnodd Ms Rees.
"Na," atebodd.
Dywedodd Mr Morgan wrth y llys ei fod yn credu bod Jensen-Lee wedi tagu ar ei gyfog ei hun.
Dywedodd Ms Rees: "Fe wnaethoch chi lunio'r llinell yma am y tagu i guddio eich bod wedi ei ysgwyd yn dreisgar, do?"
"Na wnes i ddim, roeddwn i mewn panig a doeddwn i erioed wedi bod yn y sefyllfa hon yn fy mywyd," atebodd.
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad wrtho: "Nid panig oedd hyn, cynddaredd oedd e."
Gwadodd Mr Morgan ei fod yn ddig, ac mae'r achos yn parhau.