'30% o fusnesau bach Cymru yn ystyried cau, gwerthu neu leihau'

Mae Nia Maynard yn siomedig ei bod yn gorfod cau canolfan Dre Twt yn Sancler, er ei bod hi wedi llwyddo i oroesi'r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae 30% o fusnesau bach yng Nghymru yn ystyried cau, gwerthu neu leihau mewn maint yn ystod y flwyddyn nesaf, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB).
Mae'r FSB yng Nghymru'n dweud bod hyder busnesau yn isel, ac yn annog Llywodraeth Cymru i warchod y sector lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn costau.
Un busnes sydd wedi ei effeithio yw canolfan chwarae Dre Twt yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, fydd yn cau ar ôl gwyliau'r Pasg ar ôl bod ar agor am saith mlynedd.
Mae perchennog y busnes, Nia Maynard, wedi penderfynu cau'r ganolfan oherwydd effaith costau cynyddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £116m ar gael mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf i fusnesau, a bod y llywodraeth wedi rhoi £1bn o gefnogaeth ariannol i fusnesau ers 2020.
'Costau popeth wedi mynd lan'
Fe fydd Dre Twt yn parhau i gynnig gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol, ond mae Nia yn cyfaddef ei bod hi'n siomedig gorfod cau'r ganolfan ar ôl llwyddo i oroesi'r pandemig.
"Ni wedi newid y busnes er mwyn ceisio cadw fynd," meddai.
"Mae'n siomedig iawn. Fi wedi rhoi popeth mewn - mae gyd o life savings wedi mynd mewn i hyn. O'n i'n gwybod bod e'n risg, ond mae wedi bod yn un peth ar ôl y llall.
"Ni wedi dod i'r pwynt mae rhywbeth yn gorfod mynd. Yn anffodus, y ganolfan fydd yn gorfod mynd."
Mae hi'n dweud bod costau'r busnes wedi cynyddu yn sylweddol.
"Mae popeth wedi mynd lan, o gost petrol sydd yn effeithio ar bobl sydd yn dod yma.
"Ni wedi cael lot o ysgolion yn dweud bod nhw methu dod ati achos maen nhw wedi methu fforddio bysus i ddod aton ni.
"Mae pobl yn tynnu nôl o brynu coffi. Mae popeth yn cael knock-on effect."
"Mae costau trydan, yr insurance wedi mynd lan. Chi'n mynd wedyn i brynu pethau fel y coffi a mae hynny wedi mynd lan, a'r rental ar gyfer y machine wedi mynd lan.
"Mae popeth wedi mynd lan.
"Ni wedi gorfod rhoi hwnna i'r cwsmer, ond mae'r cwsmer ddim yn gallu fforddio fe chwaith."

Bydd canolfan Dre Twt yn Sanclêr yn cau, er bydd y gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol yn parhau
Yn ôl FSB Cymru, mae mwy o fusnesau nawr yn ystyried lleihau maint y busnes, cau neu werthu (30%) nag sydd yn bwriadu ehangu (18%).
Yn ôl Nia, mae hi'n gwybod am fusnesau eraill yn yr ardal sydd yn wynebu'r un sefyllfa.
"Dyw e ddim yn sioc o gwbl," meddai.
"Fi'n 'nabod pobl eraill sydd yn dweud yr un peth, sef bod nhw wedi gorfod torri nôl neu gau, a hefyd dyw pobl ddim yn cael plant rhagor achos dyw nhw ddim yn gallu fforddio codi nhw, ac mae hynny yn mynd i effeithio busnesau."
Yn ôl ei gwaith ymchwil yr FSB, y pryder pennaf i fusnesau yw cyflwr yr economi (68%) ynghyd a threthi (45%).
Mae'r ffederasiwn wedi galw am warchod busnesau lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn trethi busnes, ac wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, i godi pryderon.
'Mwy tebygol o gau lawr nac o dyfu'
Dywedodd Dr Llyr ap Gareth, pennaeth polisi i FSB Cymru fod "hyder busnesau wedi disgyn lot" yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae mwy yn fwy tebygol o gau lawr nac o dyfu," meddai.
"Mae'n holl bwysig bod yna gefnogaeth i fusnesau bach i oresgyn y cyfnod yma ac i dyfu eto yn y dyfodol.
"Ar hyn o bryd maen nhw yn wynebu lot o gostau. Un ydy fod costau ardrethi busnes yn codi achos bod eu safle busnes yn cael ei ailbrisio.
"Yn ogystal, maen nhw yn colli cefnogaeth o 40% oddi ar ei biliau o fis Ebrill ymlaen, felly 'da ni yn poeni bod hyn yn mynd i arwain at lot o drafferthion i'r busnesau yma a bod rhai ddim yn mynd i fedru goresgyn hyn.
"Da ni yn cefnogi ac yn croesawu y fformiwla newydd gan Lywodraeth Cymru i fân-werthwyr, sydd yn golygu bod eu bil nhw yn llai, ond 'da ni eisiau iddyn nhw ymestyn y gefnogaeth hynny i'r sector hamdden a lletygarwch hefyd."
Mae'r Ffederasiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru hefyd i gynyddu'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach i £12,000 er mwyn cyfateb gyda'r lefel yn Lloegr.
'Gallwn wneud mwy fel gwlad i hybu'r sector busnes'
- Cyhoeddwyd9 Awst 2024
Y tywydd a chostau cynyddol yn poeni busnesau
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2025
Grŵp i 'roi hyder i fenywod neud beth ma' nhw mo'yn'
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod £116m ar gael mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf i fusnesau, a bod y llywodraeth wedi rhoi £1bn o gefnogaeth ariannol i fusnesau ers 2020.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £8m mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, bwyd a diod, fydd yn lleihau biliau i ryw 4,400 o fusnesau lletygarwch.
Yn ôl y llywodraeth, dyw tua hanner busnesau Cymru ddim yn talu ardrethu busnes o gwbl.

Yn ôl FSB Cymru, mae mwy o fusnesau yn ystyried lleihau, cau neu werthu, nag sydd yn bwriadu ehangu
Dywedodd Plaid Cymru bod y llywodraeth Lafur wedi "methu mynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r economi" a bod y stryd fawr yn gwagio.
Mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n "ysgafnhau'r baich" ar y busnesau lletygarwch a manwerthu drwy "ehangu'r lluosydd cyfraddau-is i fusnesau lletygarwch bach a chanolig".
Fe gyhuddodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o greu "hinsawdd elyniaethu i fusnesau bach".
Dywedodd y byddai Reform yn "cynnig polisïau fyddai'n cefnogi busnesau bach a'u gweithwyr ar draws Cymru".
Mae'r Ceidwadwyr, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.