'Gwarthus' a 'digalon' nad yw Ysgrifennydd Cymru yn cyfathrebu'n Gymraeg fel AS

Mae'r "Gymraeg yn un o'r nifer fawr o ieithoedd a siaredir" yn yr etholaeth meddai Jo Stevens
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, wedi cael ei beirniadu am sylwadau a wnaeth wrth esbonio pam ei bod yn cyfathrebu yn Saesneg yn unig fel AS Dwyrain Caerdydd.
Dywedodd bod "y Gymraeg yn un o'r nifer fawr o ieithoedd a siaredir" yn yr etholaeth a bod "bron pob etholwr yn siarad Saesneg".
"Nid oes gofyniad statudol ar Aelodau Seneddol i ddarparu cyfathrebiadau dwyieithog (Saesneg a Chymraeg)," ychwanegodd.
Mynnodd yr AS ei bod yn "cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, yn hanesyddol ac yn ddiwylliannol".
Dywedodd mudiad Dyfodol i'r Iaith eu bod yn "gresynu" nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn "dangos parch" tuag at y Gymraeg, tra bod Comisiynydd y Gymraeg yn "annog pob aelod sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyfathrebu".
Mae'r Blaid Lafur a Swyddfa Cymru wedi cael cais i ymateb.
Cafodd Jo Stevens ei hethol yn AS yn 2015 i gynrychioli Canol Caerdydd.
Mae wedi bod yn cynrychioli Dwyrain Caerdydd ers mis Gorffennaf 2024 ac wedi buddugoliaeth Llafur yn 2024 cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC bod yr ieithoedd a siaredir fel prif iaith yn etholaeth Seneddol Dwyrain Caerdydd, yn ôl y cyfrifiad, yn cynnwys Pwyleg, Rwsieg, Twrceg, Arabeg, Punjabi, Wrdw, Bengaleg, Gwjarati, Tamil, Mandarin, Cantoneg ac ieithoedd Tsieineaidd eraill.

Mae Heol y Plwca yn Y Rhath yn gartref i ddwsinau o fwytai egsotig a siopau annibynnol
Gofynnwyd i Ms Stevens gan etholwr, James Lewis: "Allwch chi ddweud wrthyf pam eich bod chi'n anfon taflenni Saesneg yn unig at eich etholwyr Cymreig? Neu pam mae eich allbwn cyfryngau cymdeithasol yn Saesneg yn unig?
"Mae hyn wedi bod yn broblem ers cyhyd ag yr ydych chi wedi bod yn AS dros Ddwyrain Caerdydd.
"Mae'n edrych yn arbennig o ddrwg nawr nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn anfon unrhyw gyfathrebiadau yn y Gymraeg.
"Mae eich etholaeth yn cynnwys sawl ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ac un o'r ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd."
Dywedodd James Lewis ar grŵp Iaith ar Facebook wrth rannu'r ohebiaeth: "Dyma'r rheswm pam fod Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru ac AS Dwyrain Caerdydd, yn anfon stwff uniaith Saesneg at bobl Caerdydd.
"Crynodeb: mae'r Gymraeg yn gydradd â Bengali, Arabeg ac ati; ry'ch chi i gyd yn siarad Saesneg 'ta beth; sdim gorfodaeth arni. Cofiwch taw rôl Ysgrifennydd Cymru yw cynrychioli Cymru yn San Steffan."
Ymhlith yr ymatebion ar-lein, roedd "gwarthus", "trist iawn" a "digalon".
Ymatebodd yr actores Sharon Morgan ar Facebook trwy gyhuddo'r Ysgrifennydd Gwladol o gael "agwedd ofnadwy tuag at Gymru a'r Gymraeg", yn enwedig "mewn swydd (sydd angen ei diddymu wrth gwrs) ble mae hi fod i warchod a chynrychioli Cymru".
'Dangos parch'
Dywedodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, wrth y BBC: "Gresynwn nad yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gweld pwysigrwydd dangos parch at iaith swyddogol a chynhenid Cymru yn y modd yma."
Ychwanegodd: "Mae cyfeirio at y Gymraeg fel un o blith nifer o ieithoedd a siaredir yng Nghaerdydd eto yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o'r statws swyddogol sydd iddi yma yng Nghymru.
"Sut mae disgwyl i Gymru gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os mai dyma yw agwedd Ysgrifennydd Gwladol ein cenedl?"
Mae'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn bolisi llywodraeth Lafur Cymru, ond nid oedd Llywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau Ms Stevens.
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth y BBC: "Gan fod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru mae croeso i unrhyw un ei defnyddio wrth gyfathrebu gyda'u haelodau etholedig.
"Er nad oes dyletswyddau statudol ar Aelodau Senedd San Steffan, byddem yn annog pob aelod sy'n cynrychioli etholaethau yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyfathrebu."
Nid oedd Swyddfa Cymru - sydd â'r dasg o gefnogi Ysgrifennydd Cymru "i hyrwyddo buddiannau gorau Cymru o fewn Teyrnas Unedig gryfach [trwy] sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli wrth galon Llywodraeth y DU, a bod cyfrifoldebau Llywodraeth y DU yn cael eu cynrychioli yng Nghymru" - eisiau ymateb i'r feirniadaeth oherwydd bod yr ohebiaeth gyda swyddfa'r etholaeth leol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2025
