Drakeford yn galw am ddileu deddf yn dilyn dadl am wariant ar ganol trefi

- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi dweud y dylai Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (UKIMA) gael ei "dileu o'r llyfr statudol".
Fe gafodd y ddeddf hon - sy'n rhoi'r pŵer i Lywodraeth y DU ymyrryd mewn meysydd sy'n gyfrifoldeb llywodraeth Cymru heb orfod gofyn caniatâd - ei defnyddio'n ddiweddar ym maes gwella canol trefi.
Ond wrth siarad â rhaglen Politics Wales, dywedodd Mr Drakefod ei fod yn teimlo fod "ffyrdd gwell" o lywio'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth ond mae'n deall bod ei gydweithwyr yn San Steffan yn awyddus "i gyflawni pethau".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y "gallai dileu Deddf Marchnad Fewnol y DU achosi dryswch sylweddol ac ansicrwydd ar gyfer busnesau Cymreig".
Cynllun dadleuol am fod yn gymwys i Gymru ond nid Gogledd Iwerddon
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2025
ASau Llafur Cymru'n cyhuddo Llywodraeth Lafur y DU o 'warth cyfansoddiadol'
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
Plaid Cymru yn dod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru gyda Llafur
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025
Pan oedd Mark Drakeford yn Brif Weinidog, mi aeth â'r llywodraeth Geidwadol Brydeinig i'r llys dros Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (UKIMA).
Roedd yn dadlau fod y ddeddf yn tanseilio'r setliad ac yn "ymosodiad di-sail ar ddatganoli", ond yn y pen draw cafodd ei wrthod gan yr Uchel Lys yn 2022.
Ers hynny mae llywodraeth Lafur Prydain wedi defnyddio pwerau'r ddeddf i roi mwy o arian yn uniongyrchol i lywodraeth leol - sydd fel arfer yn cael eu hariannu gan lywodraeth Cymru - er mwyn gwella canol trefi fel rhan o'u prosiect Balchder Bro.
Fe gyhoeddodd llywodraeth y DU hefyd na fyddai'r un rheolau'n berthnasol ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Felly, mi fydd llywodraeth y DU yn penderfynu sut y bydd arian o ail gam eu cynllun yn cael ei wario yng Nghymru - ond mi fydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cael "cyllid cyfatebol" y byddan nhw'n cael ei reoli.
Fe benderfynodd 11 o wleidyddion Llafur Cymru ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn cwyno bod y defnydd yma o'r ddeddf yn niweidio datganoli gan eu bod yn anwybyddu gweinidogion yng Nghaerdydd.
'Polisi plaid Lafur Cymru yn glir'
Ddydd Sul, roedd Mark Drakeford yn gwadu'r awgrym nad oedd ei lywodraeth wedi herio Llywodraeth Lafur Prydain ar y mater hwn.
Dywedodd: "Dwi wedi eistedd mewn cyfarfodydd ble mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn gwbl gadarn ei barn ynglŷn â hyn."
"Dwi'n meddwl y dylai deddf UKIMA, deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, gael ei ddileu o'r llyfr statudol."
Mae'n credu bod ffyrdd gwell o lunio'r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth "fel bo' ni'n gwneud e drwy gytundebau a fframweithiau a'r holl bethe ni wedi siarad amdanyn nhw yn y gorffennol," meddai.
Wrth gael ei herio ar y ffaith a ydy e'n ragrithiol i fynd â llywodraeth Geidwadol y DU i'r llys ond nid i wneud yr un fath gyda llywodraeth Lafur y DU, dywedodd Mr Drakeford fod "polisi llywodraeth Cymru, plaid Lafur Cymru, yn glir, na ddyle ni fod yn dibynnu ar bwerau deddf UKIMA".
Ond, fe ddywedodd Mr Drakeford ei fod yn gobeithio "wrth i'r senedd ddatblygu, y bydd y pwerau hynny'n cael eu defnyddio llai a llai a byddwn ni'n dangos fod 'na ffyrdd gwell o wneud penderfyniadau".
Ychwanegodd bod llywodraeth Lafur mewn grym yn San Steffan ar ôl "14 o flynyddoedd anodd i Gymru o lywodraeth geidwadol ac mae'n awyddus i fwrw 'mlaen â phethau, ac weithiau mae hynny'n golygu ei fod yn defnyddio ei bwerau sydd ar gael er mwyn cyflawni pethau."
'Gallai achosi dryswch'
Yn ôl Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru mae'n "gwbl gywir" fod y ddeddf angen cael ei dileu a bod hynny'n rhywbeth y mae "Plaid Cymru wedi dweud ers y dechrau".
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae'n amlwg fod 'na ryfel cartref eitha' gwaedlyd yn y blaid Lafur ar hyn o bryd, rhwng y Senedd a San Steffan, a dydyn nhw ddim yn gallu cytuno ar y ffordd ymlaen."
"Yn amlwg does gan lafur Cymru ddim llais yn hyn o beth, dy' nhw ddim yn ddigon cryf a dyna pam fod rhaid cael Plaid Cymru fewn 'na i sefyll fyny dros Gymru."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod gan "Gymru ddwy lywodraeth".
"Dylai'r ddwy weithio gyda'i gilydd i wella bywydau pobl Cymru."
Ychwanegodd fod "dadleuon ynglŷn â'r setliad datganoli yn tynnu sylw oddi ar y gwaith o fynd i'r afael â'r heriau dyddiol sy'n wynebu Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Gallai dileu Deddf Marchnad Fewnol y DU achosi dryswch sylweddol ac ansicrwydd ar gyfer busnesau Cymreig, ble mae nifer yn dibynnu ar y ddeddf i gael ei gweithredu'n llyfn".
Ychwanegodd y datganiad bod llywodraeth y DU wedi "cynnal adolygiad o'r ddeddf a'i gweithredoedd, gyda mewnbwn y llywodraethau datganoledig, gan gynnwys llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl ar gyfer busnesau, pobl, a llywodraethau y DU - gan gefnogi twf, hybu hyder a darparu ffyniant".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.