Cynllun dadleuol am fod yn gymwys i Gymru ond nid Gogledd Iwerddon

Hilary BennFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Hilary Benn, yn dweud na fydd rhan o gynllun y mae ASau o Gymru wedi'i beirniadau yn gweithredu yng Ngogledd Iwerddon

  • Cyhoeddwyd

Mae llywodraeth y DU wedi dweud na fydd cynllun dadleuol - ble y bydd arian yn cael ei wario yng Nghymru heb orfod mynd trwy lywodraeth Cymru - yr un mor berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Mi fydd llywodraeth y DU yn penderfynu sut y bydd arian o ail gam eu cynllun ar gyfer gwella canol trefi yn cael ei wario yng Nghymru - ond mi fydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cael "cyllid cyfatebol" y byddan nhw'n cael ei reoli.

Mae 11 o wleidyddion Llafur wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU yn cwyno bod y cynllun 'Balchder Bro' (Pride in Place) yn niweidio datganoli drwy anwybyddu gweinidogion yng Nghaerdydd.

Fe gyferiodd Llywodraeth y DU y BBC at ymateb Syr Keir Starmer wythnos diwethaf ble ddywedodd ei fod yn "credu'n gryf mewn datganoli".

'Cymru'n haeddu'r un parch'

Fe wnaeth cam un y cynllun roi arian i gymunedau ar draws y DU i wella canol trefi.

Ond dywedodd Hilary Benn, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, wrth AS Plaid Cymru Llinos Medi, ar gyfer cam dau mi fydd "cyllid cyfatebol ar gael yng Ngogledd Iwerddon drwy'r gronfa twf lleol" ac y bydd buddsoddiad llywodraeth y DU yn cyfateb i £45.5m dros dair blynedd.

"Cafodd y penderfyniad ei wneud mewn ymgynghoriad â Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon", meddai mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn gan AS Ynys Môn.

Dywedodd Llinos Medi "yn wahanol i Gymru, ymgynghorwyd â Gogledd Iwerddon, tra bod cyllid Cymru wedi'i dorri'n ôl a'i ailgyfeirio i Whitehall".

"Mae Cymru'n haeddu'r un parch a thryloywder," ychwanegodd.

Yng Nghymru, mi fydd ail gam y cynllun yn gweld naw awdurdod lleol yn cael £20m yr un gan lywodraeth y DU dros ddeng mlynedd.

Fe ddaw'r cyllid ar gyfer y cynllun hwn o gronfeydd twf lleol, ac y bydd y rhan fwyaf ohono'n cael ei drin gan lywodraeth Cymru.

Cafodd y cyllid ei gynllunio i ddisodli cymorth economaidd yr UE.

Roedd yn ymddangos fel bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, yn cadarnhau hyn i gyd yn y Tŷ Cyffredin wrth iddi gael ei chwestiynu gan Llinos Medi.

Roedd Ms Medi'n holi pam eu bod wedi cyhoeddi yn yr adolygiad gwariant mai £633m fydd gwerth y gronfa dros dair blynedd - ond yna mewn cyhoeddiad ym mis Hydref dywedon nhw mai £547m y bydd Llywodraeth Cymru'n ei reoli - sydd £86m yn llai.

Er bod Evans wedi dweud ei bod yn falch bod Cymru wedi cael pwerau i wneud penderfyniadau ar y cronfeydd twf, ychwanegodd: "Rwy'n deall bod y penderfyniad wedi'i wneud y byddai rhywfaint o'r cyllid yn cael ei sianelu drwy gronfa 'Balchder Bro'."

Mae'r cynllun yn defnyddio cyfraith o'r enw Deddf marchnad fewnol y DU (UKIMA).

Mae'r ddeddf hon yn caniatáu i lywodraeth y DU ddarparu cymorth ariannol mewn meysydd sydd fel arfer yn cael eu rheoli gan lywodraeth Cymru heb orfod cael caniatâd i wneud hynny.

Felly, mae'r ddeddf yn caniatáu i lywodraeth y DU wario arian ar wella canol trefi Cymru - gweinidogion yn Senedd Caerdydd sydd fel arfer yn gyfrifol am hynny.

Mae llywodraeth Lafur Cymru'n parhau i wrthwynebu'r ddeddfwriaeth - a gafodd ei chyflwyno gyntaf tra roedd Boris Johnson yn brif weinidog - ac mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi mynegi ei phryderon gyda Syr Keir Starmer.

Mewn llythyr cryf at Starmer yr wythnos diwethaf dywedodd aelodau Senedd Llafur Cymru fod y cynllun wedi achosi "anhapusrwydd sylweddol" ymhlith eu haelodau.

Roedd yr 11 o ASau Llafur a lofnododd y llythyr yn dweud y dylai'r holl gronfa twf lleol fod wedi'i throsglwyddo i lywodraeth Cymru, gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn rheoli cronfeydd yr UE cyn Brexit.

Fe gyfeiriodd llywodraeth y DU y BBC at sylwadau gan Starmer yr wythnos diwethaf.

Dywedodd: "Rwy'n credu'n gryf mewn datganoli ac rwy'n credu'n gryf ym manteision datganoli pan fydd gennych chi lywodraeth Lafur - llywodraeth Lafur Cymru yma, a llywodraeth Lafur yn San Steffan ac rydym yn barod yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran yr hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.